Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio yn amlinellu polisi rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer 'safleoedd treth' dynodedig mewn Porthladdoedd Rhydd. Bydd busnesau yn gymwys i gael hyd at 100% o ryddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd ar gyfer mathau penodol o eiddo a gwelliannau i eiddo o fewn y safleoedd treth hyn. Y bwriad yw y bydd y rhyddhad hwn yn helpu busnesau newydd a busnesau presennol pan fyddant yn ehangu i le newydd neu le nad yw’n cael ei ddefnyddio. 

Bydd y rhyddhad ar gael am hyd at bum mlynedd o'r adeg y daw'r buddiolwr yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd. Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais i'r awdurdod lleol perthnasol i gael y rhyddhad hwn. Rhaid ymgeisio amdano erbyn 31 Mawrth 2034. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn gymwys i gael unrhyw ryddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd.

Bwriad y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol i weinyddu rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd. Nid ydynt yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig. 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i: 
PolisiTrethiLleol@llyw.cymru

Sut y bydd y rhyddhad yn cael ei roi?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn newid y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â rhyddhadau ardrethi annomestig. Yn hytrach, bydd awdurdodau lleol yn cael eu had-dalu am ddefnyddio eu pwerau disgresiwn, o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i roi rhyddhad yn unol â'r meini prawf cymhwysedd a nodir yn y canllawiau hyn. 

Mater i'r awdurdodau lleol unigol a fydd yn gweinyddu rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd fydd mabwysiadu cynllun lleol a phenderfynu, ym mhob achos unigol, a ddylid rhoi rhyddhad ai peidio, yn unol â'r canllawiau hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu awdurdodau lleol yn llawn gan ddefnyddio grant o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. 

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn talu am unrhyw gostau gweinyddol a fydd yn gysylltiedig â rhoi'r rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd ar waith. 

Egwyddorion cymhwysedd - pa eiddo fydd yn elwa ar y rhyddhad?

Llinell amser a chymhwysedd

Bydd rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd ar gael am hyd at bum mlynedd o'r adeg y daw'r buddiolwr yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd, hyd yn oed os dyfernir rhyddhad arall yn lle rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd am rywfaint neu'r cyfan o'r cyfnod hwnnw. Rhaid gwneud cais am y rhyddhad erbyn 31 Mawrth 2034. Ar ôl hynny, ni fydd y rhyddhad ar gael i fuddiolwyr newydd.

Dim ond ar ôl i'r safle treth perthnasol gael ei sefydlu a'i ddynodi y bydd y rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd ar gael. Y trothwy o ran cymhwysedd ar gyfer rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd yw'r adeg pan fydd un o'r amgylchiadau a ddisgrifir yn y ddwy adran nesaf yn cael effaith.   

Adeiladau newydd a meddiannaeth newydd

Mae rhyddhad llawn (100%) ar gael ar gyfer eiddo sy'n cael ei feddiannu am y tro cyntaf, o fewn yr amserlen a nodir uchod, ni waeth a yw'n cael ei feddiannu gan fusnes newydd neu fusnes presennol. Bydd busnes presennol yn gymwys os yw'n ehangu i eiddo arall. Mae hyn yn cynnwys adeiladau newydd sydd newydd eu meddiannu ac eiddo presennol sydd newydd eu meddiannu.

Meddiannaeth newydd mewn rhan o eiddo a gwelliannau i eiddo

Mae rhyddhad llawn (100%) ar gael ar gyfer yr atebolrwydd sy'n gysylltiedig â gwerth ardrethol rhan o eiddo sydd newydd gael ei hadeiladu a/neu ei meddiannu, neu'r cynnydd yng ngwerth ardrethol eiddo y gellir ei briodoli i'r gwelliannau i le sydd wedi'i feddiannu eisoes. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • Pan fo meddiannydd eiddo yn creu lle newydd drwy ehangu'r eiddo (er enghraifft, drwy adeiladu estyniad).
  • Pan fo meddiannydd eiddo newydd feddiannu rhan o eiddo nad oedd wedi'i meddiannu yn flaenorol (er enghraifft, drwy feddiannu ystafelloedd neu loriau nad oedd wedi'u meddiannu mewn eiddo).
  • Pan fo meddiannydd eiddo yn creu lle newydd y gellir ei ddefnyddio drwy ddatblygu neu wella eiddo (er enghraifft, drwy osod mesanîn neu wneud gwelliannau o ran mynediad/mesurau rheoli tân fel bod modd defnyddio lle sy'n bodoli eisoes).

Yn gyffredinol, ni ellir hawlio rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd ar feddiannaeth newydd mewn rhan o eiddo neu welliannau i eiddo os yw'r: 

  • gwaith ehangu dim ond i ran o eiddo sydd eisoes yn cael ei defnyddio. 
  • gwelliannau ar gyfer lle a oedd, cyn dynodi'r Porthladd Rhydd, wedi'i feddiannu eisoes ac yn cael ei ddefnyddio (er enghraifft, adnewyddu neu welliannau cyffredinol, gan gynnwys gosod systemau gwresogi ac aerdymheru).
  • gwaith ehangu yn rhagflaenu dynodi'r Porthladd Rhydd.

Egwyddorion a dull gweithredu

Caniateir i awdurdodau lleol ddewis adolygu neu asesu dyfarniadau rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd, a gofyn am unrhyw wybodaeth y maent yn ystyried ei bod yn rhesymol, er mwyn penderfynu a ydynt am ddyfarnu rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd. Efallai y byddant yn penderfynu peidio â dyfarnu rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd. Mae'r amgylchiadau pan allai cais am ryddhad gael ei wrthod yn cynnwys pan na all talwr ardrethi gadarnhau ei gais, neu pan nad yw'r awdurdod lleol yn gallu canfod, yn rhesymol, y cynnydd mewn gwerth ardrethol a chynnydd cyfatebol mewn atebolrwydd ardrethi annomestig. 

Awdurdodau lleol sydd â'r disgresiwn terfynol o ran dyfarnu rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd. Gallant benderfynu rhoi profion ychwanegol ar waith y maent yn ystyried eu bod yn briodol i osgoi ysgogi dadleoli gweithgarwch yn ardal y Porthladd Rhydd o'r ardal gyfagos. Er enghraifft, efallai y byddant yn penderfynu lleihau dyfarniad y rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd mewn achosion pan fo meddiannaeth talwr ardrethi o le yn codi, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, oherwydd ei fod wedi gadael lle arall yn ardal y Porthladd Rhydd, neu o fewn ardal gyfagos.

Mae'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio yn amlinellu'r amcanion cyffredinol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd, sef:

  • hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel;
  • sefydlu’r Porthladd Rhydd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang ar draws yr economi; a
  • meithrin amgylchedd arloesol.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno rhoi sylw i'r amcanion a'r disgwyliadau hyn wrth ystyried ceisiadau am ryddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd.

Rhyngweithio â rhyddhadau eraill

Mae'n bosibl y bydd eiddo yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd a rhyddhad arall. Dylid cymhwyso rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd i'r atebolrwydd net sy'n weddill ar ôl rhyddhadau gorfodol (gan gynnwys unrhyw elfennau yn ôl disgresiwn sy'n cael eu hariannu gan awdurdodau lleol yn llawn neu'n rhannol) a rhyddhadau yn ôl disgresiwn eraill a ariennir gan grantiau o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Nid yw'r rhyddhadau sydd i'w cymhwyso cyn rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd yn cynnwys y rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau ehangach o ran rhyddhadau yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ydynt yn cael eu hariannu gan grantiau adran 31 (er enghraifft, i roi rhyddhad a ariennir yn lleol). Bydd yr awdurdod lleol yn cael ei ad-dalu am y gost o ddyfarnu rhyddhadau sy'n cael eu cymhwyso cyn rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd drwy weithdrefnau arferol, yn yr un modd â phe bai y tu allan i'r safle treth.

Pan fo eiddo wedi'i leoli o fewn y safle treth ar gyfer Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi, ac y byddai, mewn egwyddor, yn gymwys i gael y naill ryddhad neu'r llall, dylai cynllun yr awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i'r talwr ardrethi benderfynu pa ryddhad i'w gymhwyso. Yn ymarferol, ni fydd y talwr ardrethi yn gymwys i gael y ddau ryddhad.

Rheoli cymorthdaliadau

Fel yr amlinellir yn y prosbectws ymgeisio, mae rhyddhad ardrethi Porthladdoedd Rhydd yn ddarostyngedig i rwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau domestig a rhyngwladol y DU. Bydd angen i fusnesau sydd wedi'u lleoli o fewn safleoedd treth dynodedig fodloni unrhyw ofynion sydd ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rhwymedigaethau hynny cyn, yn ystod, ac ar ôl hawlio rhyddhad. Gweler canllawiau Llywodraeth y DU ar gyfer awdurdodau cyhoeddus sy'n egluro'r bennod ynghylch cymorthdaliadau yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, rheolau Sefydliad Masnach y Byd ar gymorthdaliadau, a'r ymrwymiadau rheoli cymorthdaliadau rhyngwladol eraill.