Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwaith o ddatblygu Porthcawl a Rest Bay wedi mynd gam ymhellach yn sgil sicrhau cyllid gan yr UE i ddatblygu lleoliad heb ei ail ar lannau'r dŵr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae cyfanswm o £1.5 miliwn gan yr UE yn cael ei fuddsoddi yn y datblygiad hwn drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, a gaiff ei harwain gan Croeso Cymru. Nod y rhaglen hon yw creu 13 o gyrchfannau rhagorol ar draws Cymru.

Bydd y datblygiad yn cynnwys cyfleuster chwaraeon dŵr amlbwrpas a chaffi/bwyty yn Rest Bay ynghyd â chanolfan ar gyfer chwaraeon dŵr y bydd modd i glybiau, cymdeithasau a gweithredwyr y sector preifat ei defnyddio. Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adnewyddu cyfleuster presennol yn Harbwr Porthcawl er mwyn darparu gwell cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr cychod gan gynnwys toiledau a chawodydd, cyfleusterau gwaredu cemegol a hefyd ar gyfer estyn yr ardal giosg/lluniaeth bresennol. Bydd llwybr beicio 4km hefyd yn cael ei ddatblygu a fydd yn cysylltu baeau Porthcawl ac a fydd yn cynnig cynllun cyd-ddefnyddio ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod holl ddatblygiadau allweddol y cyrchfan wedi'u cysylltu.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Ein nod, drwy'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth, yw canolbwyntio ymdrechion a buddsoddiad ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad gystadleuol fyd-eang hon.   Er mwyn bod yn gyrchfan arfordirol heb ei ail mae angen i ni sicrhau bod gennym gyfleusterau a gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.  Bydd y datblygiad hwn yn annog pobl i ymweld â'r ardal a bydd ymwelwyr a phobl leol yn elwa ar well cysylltiadau rhwng y datblygiadau cyffrous hyn o amgylch Porthcawl."

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Economaidd a chadeirydd Partneriaeth Arfordirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth ac yn edrych ’mlaen at weld atyniad eiconig, newydd sbon i ymwelwyr yn cael ei greu ym Mhorthcawl.

Mae gan ein harfordir a’n traethau hanes hir o ddenu trigolion ac ymwelwyr, a bydd y ganolfan newydd yn Rest Bay yn manteisio ar boblogrwydd cynyddol gweithgareddau chwaraeon a hamdden ar y môr er mwyn creu cyrchfan chwaraeon dŵr mewn man unigryw.

Ar y cyd â’r gwaith i adnewyddu adeilad y marina a phrosiectau adfywio eraill sydd ar droed ledled y dref, mae’r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yn cefnogi ymdrechion cyffredinol y cyngor i weddnewid Porthcawl a’i throi’n gyrchfan ffyniannus ac addas ar gyfer yr 21ain ganrif.”

Mae'r rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth wedi derbyn cyfanswm o £27.7 miliwn gan yr ERDF tuag at gost tri phrosiect ar ddeg seilwaith a strategol sy'n gyfanswm o £61.8 miliwn hyd at 2021.