Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae cynnydd dysgwyr yn rhan greiddiol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae profiad dysgwyr drwy gydol y continwwm 3 i 16 yn hanfodol ar gyfer cefnogi’r uchelgais hwn, gan gynnwys wrth bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. 

Mae’r adolygiad hwn yn ystyried sut mae pontio yn cyd-fynd â’r ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Mae’n gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cwricwlwm sy’n sicrhau bod gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth disgyblion ar draws meysydd dysgu a phrofiad yn datblygu’n effeithiol wrth iddynt bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n ystyried sut mae ysgolion yn cefnogi lles dysgwyr yn y cyfnod pontio pwysig hwn, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu’r galluoedd a’r tueddiadau i wireddu’r pedwar diben.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Arweinyddiaeth a thrafodaethau pontio

Mae penaethiaid ac uwch arweinwyr y rhan fwyaf o glystyrau o ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod y Cwricwlwm i Gymru a chefnogi'r cyfnod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Er bod y cyfarfodydd hyn yn helpu i sicrhau ymsefydlu effeithiol a chefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), maent yn aml yn methu â chreu continwwm dysgu llyfn. 

Er bod ysgolion cynradd yn trosglwyddo gwybodaeth ddysgu amrywiol i ysgolion uwchradd, nid oes llawer o eglurder ynghylch disgwyliadau ar gyfer dysgu a chynnydd, sy’n cyfyngu ar effeithiolrwydd y prosesau hyn. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn canolbwyntio ar sgoriau safonedig heb ddefnyddio ystod eang o ddata asesu yn llawn wrth gynllunio'r cwricwlwm.

Gofynion cynllun pontio

Er bod arweinwyr yn ymwybodol o'r canllawiau pontio diweddaraf, mewn nifer o gynlluniau ni cheir ffocws clir ar sicrhau parhad dysgu trwy gynllunio'r cwricwlwm a strategaethau addysgu. Mewn ysgolion pob oed, mae'r enghreifftiau gorau yn cynnwys datblygu continwwm dysgu pwrpasol o 3 i 16 oed, ond mae rhai lleoliadau'n dal i drin cyfnodau cynradd ac uwchradd ar wahân ac mae cydlyniant y cwricwlwm a chynllunio cynnydd yn anghyson.

Darpariaeth i ddisgyblion ag ADY

Mae cefnogaeth bontio i ddisgyblion ag ADY yn gryf ar y cyfan, gyda chydweithio cynnar rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Cymorth llesiant

Yn gyffredinol, mae clystyrau'n dda am gefnogi llesiant disgyblion yn ystod y cyfnod pontio, yn enwedig i'r rhai a allai gael trafferth, trwy gynnig gweithgareddau wedi'u teilwra ac ymweliadau cynnar.

Cynllunio'r cwricwlwm a chynnydd

Mae ychydig o glystyrau wedi gweithio gyda'i gilydd i nodi gwybodaeth a sgiliau blaengar ar draws meysydd dysgu, fodd bynnag, yn aml nid yw ysgolion uwchradd yn defnyddio'r wybodaeth hon yn effeithiol i adeiladu ar ddysgu blaenorol. Mae'n hanfodol i ysgolion sy'n gweithio ar y cyd gael dealltwriaeth gyffredin o ofynion Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni ar gyfer cynnydd dysgwyr tuag at y pedwar diben.

Dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

Mae lleiafrif o glystyrau wedi sefydlu grwpiau ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar gynnydd dysgwyr gyda'r bwriad o feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Fodd bynnag, mae'r ymdrechion hyn yn dal i fod ar y camau cynnar, a bydd angen amser i'w sefydlu.

Dysgu proffesiynol

Mae llawer o ysgolion yn darparu dysgu proffesiynol i helpu i roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith. Fodd bynnag, ychydig o glystyrau sydd wedi rhannu strategaethau addysgu i sicrhau cynnydd effeithiol a pharhaus o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer ysgolion

Argymhelliad 1

Datblygu dealltwriaeth gliriach ar y cyd o gynnydd o fewn eu clystyrau o ysgolion, ac ar eu traws.

Argymhelliad 2

Gweithio’n agosach fel clystyrau i sicrhau bod ymagweddau at rannu gwybodaeth, addysgu a’r cwricwlwm yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu gwybodaeth, medrau ac ymddygiadau dysgu yn raddol rhwng 3 ac 16 oed.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhelliad hwn ac yn cydnabod pwysigrwydd datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a gweithio'n effeithiol rhwng ysgolion. 

Mae canllawiau ar gyfer pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd Llywodraeth Cymru yn nodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol ynghylch trefniadau pontio ar gyfer pob ysgol a lleoliad ochr yn ochr ag enghreifftiau ymarferol gan ysgolion a chlystyrau. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu cyllid i ysgolion ledled Cymru i gefnogi eu gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm, gan gynnwys cydweithio rhwng ysgolion a datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd i gefnogi dysgwyr wrth bontio. Yn 2024 i 2025 mae'r cyllid hwn i ysgolion yn £6 miliwn. 

Bydd canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu diweddaru ym mis Ionawr bob blwyddyn gyda’r newidiadau yn cael eu manylu’n glir ar brif dudalen y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb.

Yn ogystal â'r deunyddiau ategol presennol, byddwn yn parhau i gyd-lunio canllawiau a chymorth i ysgolion sy'n glir ac yn ymarferol i gefnogi dealltwriaeth gyffredin o gynnydd dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16. Bydd hyn yn cynnwys cymorth sydd ar gael yn genedlaethol ac ystod o offer a thempledi a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Gorffennaf, a fydd ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd hon. Gall clystyrau ddefnyddio'r rhain i gynllunio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu gyda'i gilydd. 

Dylai ysgolion weithio ar y cyd yn eu hardal leol, mewn partneriaeth â'u Hawdurdod Lleol, i nodi strategaethau hirdymor i fynd i'r afael â heriau lleol 3-16, gan nodi a mynd i'r afael â rhwystrau rhag dysgu cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau cyfnod pontio llyfn i bob dysgwr.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ymarferwyr ddylanwadu ar ddatblygiad polisi yn y dyfodol drwy gyfleoedd ar gyfer cyd-awduro megis y Grŵp Polisi Ymarferwyr a sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid addysg i gyhoeddi a rhannu enghreifftiau o amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau ledled Cymru ac mae’n croesawu cameos defnyddiol i’w cynnwys yn yr adroddiad hwn.

Argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 3

Rhoi canllawiau clir ar gymhwyso sut i ddatblygu cynnydd yn ymarferol trwy’r cwricwlwm, ac ar ei draws.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer pontio o fewn y Cwricwlwm i Gymru ac ystod o ddeunyddiau ategol ac astudiaethau achos ar sefydlu prosesau pontio effeithiol o fewn ac ar draws ysgolion a lleoliadau. Yn ogystal, eleni gwnaethom gyhoeddi deunyddiau ategol pellach ar sefydlu prosesau ar gyfer dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a gweithio clwstwr effeithiol. 

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad o'r canllawiau statudol ar y broses ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm a threfniadau asesu. Lluniwyd yr adran Ymlaen â'r Daith er mwyn helpu ymarferwyr mewn ysgolion (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion a'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol) gyda chamau ymarferol cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm, a'i adolygu'n barhaus. Mae'n rhoi arweiniad ar sut y dylai ysgolion gynllunio a threfnu eu dulliau o wireddu disgwyliadau'r cwricwlwm a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Er bod y canllawiau byrrach a symlach hyn wedi cael derbyniad da gan ysgolion, rydym yn cydnabod y byddai cymorth pellach ar gymhwyso cynnydd yn ymarferol ar draws y Cwricwlwm i Gymru yn ddefnyddiol i ysgolion. Ar 2 Gorffennaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg amrywiaeth o gymorth sydd ar gael yn genedlaethol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys rhagor o fanylion ac enghreifftiau o dulliau o sicrhau cynnydd ac asesu, a gwerthuso a chyfleu cynnydd y dysgwyr. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyd-lunio'r manylion a'r fframweithiau hyn gydag ysgolion a phartneriaid i sicrhau eu bod yn briodol, a sicrhau bod gan ysgolion y cymorth i roi hyn ar waith. Cyhoeddir y cyntaf yn ystod tymor y gwanwyn. Byddwn hefyd yn helpu ysgolion i weld enghreifftiau o gynllunio cwricwlwm, cynnydd ac asesu, drwy hyrwyddo a rhannu arfer effeithiol a ddatblygwyd drwy gydweithio rhwng ysgolion ac ysgolion.

Argymhelliad 4

Sicrhau bod cymorth digonol i alluogi arweinwyr ac athrawon i ddatblygu cwricwlwm cydlynus a graddol sy’n gosod disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae prosiect Camau i'r Dyfodol wedi dod ag ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid ynghyd ar draws y system addysg i gyd-greu gwybodaeth a dulliau newydd i helpu i roi'r cwricwlwm ar waith, ac yn benodol i sicrhau cynnydd. Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ategol ym mis Medi 2023 i helpu ymarferwyr ledled Cymru i:

  • ymgymryd â'r un broses o ddysgu a meddwl am y cwricwlwm a chynnydd 
  • cael mynediad at ddeunyddiau a grëwyd gan gyfranogwyr y prosiect, wedi'u cynllunio i gefnogi dealltwriaeth ymarferol o'r Cwricwlwm i Gymru a sicrhau cynnydd

Mae cymorth pellach ar gyfer cynllunio cwricwlwm ac asesiadau ar gael yn genedlaethol o fis Medi ymlaen. Bydd hyn yn helpu arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth i gael cymorth i ddefnyddio canllawiau yn effeithiol, dealltwriaeth ymarferol o'r broses o gynllunio'r cwricwlwm, sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, a chyfleoedd wedi'u cynllunio ar gyfer cydweithredu o fewn ysgolion ac ar draws ysgolion i gefnogi prosesau ar gyfer cynllunio cwricwlwm cydlynol a blaengar.

Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid addysg yn darparu ystod o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ac ar gyfer cynllunio dysgu o fewn ac ar draws y meysydd dysgu a phrofiad. Bydd y cymorth penodol hwn yn helpu gweithwyr proffesiynol i gynllunio cynnydd ym mhob Maes, a dewis cynnwys pwrpasol ac ymestynnol sy'n herio ac yn ennyn diddordeb dysgwyr, gan helpu ymarferwyr i gynllunio datblygiad gwybodaeth a sgiliau perthnasol sy'n cefnogi cynnydd eu dysgwyr. Byddwn yn dechrau treialu'r gefnogaeth hon ym mlwyddyn academaidd 2025 i 2026.

Argymhelliad ar gyfer Awdurdodau Lleol

Argymhelliad 5

Annog a chefnogi cydweithio cryfach ymhlith clystyrau i fynd i’r afael â’r argymhellion yr ydym wedi’u nodi ar gyfer ysgolion, gan ganolbwyntio ar sefydlu clystyrau diffiniedig ag amcanion penodol a chlir.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhelliad hwn, gan nodi rôl hanfodol Awdurdodau Lleol sy'n gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr ysgolion i sicrhau cydweithredu effeithiol ymhlith ysgolion a chlystyrau. 

Ein gweledigaeth yw cymunedau lleol cysylltiedig sydd â phwrpas cyffredin; mae arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion yn perthyn ac yn cyfrannu at amgylchedd lleol agored, cynhwysol a chefnogol. Mae gan arweinwyr ysgolion ac Awdurdodau Lleol weledigaeth glir a phwrpas moesol cyffredin i sicrhau cynnydd pob dysgwr ar draws pob ysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Canllawiau Gwella Ysgolion diwygiedig yn y flwyddyn newydd yn amlinellu rôl Awdurdodau Lleol ac ysgolion wrth gefnogi prosesau clir ar gyfer nodi cydberthnasau gwaith effeithiol o fewn ac ar draws ysgolion a lleoliadau yn unol â'r Cyfarwyddyd Gweinidogol ar gyfer datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. 

Fel y cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 2 Gorffennafbydd cymorth sydd ar gael yn genedlaethol yn cael ei ddarparu o hydref 2024 ymlaen i sicrhau bod pecyn cydlynol o gymorth yn cael ei ddarparu i ysgolion o fewn ac ar draws clystyrau o ysgolion i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd dysgwyr.

Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i feithrin capasiti ar draws ein system ar amrywiaeth o feysydd cwricwlwm sy'n hanfodol i sicrhau pontio pwrpasol i bob dysgwr. Gan adeiladu ar yr ystod o gymorth a gynigir eisoes gan bartneriaid addysg, bydd ffocws penodol ar ddatblygu prosesau effeithiol ar gyfer cydweithredu sy'n blaenoriaethu dulliau cyffredin o ddeall cynnydd dysgwyr a chodi cyrhaeddiad i ddysgwyr ledled Cymru.

Manylion cyhoeddi

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar 18 Medi 2024 a gellir ei ganfod ar wefan Estyn.