Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Awst 2019.

Cyfnod ymgynghori:
1 Mai 2019 i 21 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn, eich syniadau a’ch dyheadau ar gyfer ein moroedd. Bydd Brexit a'n moroedd yn helpu i lunio ein polisïau ar gyfer pysgodfeydd yn y dyfodol wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar y cam cyntaf o greu polisi newydd, trefn reoli, a deddfwriaeth.    

Rydym am gael eich barn ar:

  • reoli pysgodfeydd
  • pysgodfeydd cynaliadwy
  • cyfleoedd i bysgota
  • pysgod cregyn a dyframaethu
  • masnach
  • twf ac arloesi
  • cynaliadwyedd fflyd
  • tystiolaeth
  • cymorth cyllido  

Cyfarfodydd Ymgynghori Brexit a’n Moroedd

Mae pob cyfarfod rhwng 6.30 to 8.30 yr hwyr. Danfonwch ebost i gadw lle: Marine.Fisheries.EU.Exit@gov.wales

  • 4 Gorffennaf – Gwesty Ashburnham, Porth Tywyn
  • 8 Gorffennaf – Gwesty Celtic Royal Hotel, Caernarfon
  • 11 Gorffennaf – Gwesty’r Marine, Aberystwyth
  • 15 Gorffennaf - Lord Nelson, Aberdaugleddau
  • 16 Gorffennaf - Canolfan Hamdden Dwyfor, Pwllheli

Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.