Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn set o reolau i reoli fflydoedd pysgota'r UE a gwarchod stociau o bysgod.
Wedi'i ddylunio i reoli adnodd cyffredin, mae'n:
- rhoi mynediad cyfartal i ddyfroedd a thir pysgota'r UE i bob fflyd pysgota Ewropeaidd
- caniatáu i bysgotwyr gystadlu'n deg
- ei gwneud hi'n bosibl rheoli pysgodfeydd o ddydd i ddydd drwy drwyddedu (ee cychod pysgota, cwotâu ac ati)
- cynnig ymgysylltiad cenedlaethol a diwydiannol drwy ddull rheoli llai canolog
Cynaliadwyedd
Efallai fod stociau'n adnewyddadwy, ond maent yn gyfyngedig. Serch hynny, mae rhai o'r stociau hyn o bysgod yn cael eu gorbysgota. Pwrpas y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yw gwneud yn siŵr bod diwydiant pysgota Ewrop:
- yn gynaliadwy
- yn peidio â bygwth maint a chynhyrchiant y boblogaeth pysgod dros y tymor hir
Er ei bod yn bwysig gwneud y mwyaf o ddalfeydd, rhaid cael cyfyngiadau. Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn mabwysiadu dull gofalus sy'n:
- cydnabod effaith gweithgareddau dynol ar bob rhan o'r ecosystem
- ceisio gwneud fflydoedd pysgota'n fwy detholus o ran yr hyn maent yn ei ddal
- ceisio cael gwared ar yr ymarfer o ollwng pysgod dieisiau
Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw ymarferion pysgota yn niweidio gallu poblogaethau pysgod i atgenhedlu. Felly, mae'n rhaid i'r cyfyngiadau dal a osodir rhwng 2015 a 2022 fod yn gynaliadwy a chynnal stociau o bysgod yn y tymor hir.
Diwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Mae'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn rhan o becyn o fesurau sy'n cynnwys:
- y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, y Rheoliadau trosfwaol i reoli pysgodfeydd yn yr UE
- newidiadau i Drefn Gyffredin Marchnadoedd ar gyfer marchnata cynnyrch pysgodfeydd
- Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, sef yr arian i helpu i sicrhau'r newidiadau
Ymysg y diwygiadau hyn mae:
- yr ymrwymiad glanio pelagig a'r ymrwymiad glanio dyfnforol (a elwir yn waharddiadau gollwng)
- yr angen i sicrhau'r "Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf" ar gyfer yr holl brif bysgodfeydd erbyn 2020
- rhagor o ddealltwriaeth a rheolaeth ar lefel genedlaethol a rhanbarthol o ran rheoli fflydoedd a chyfleoedd pysgota