Polisi Presenoldeb ac Ymddygiad Aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
Polisi presenoldeb ac ymddygiad.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Prif Weinidog sy’n penodi pob aelod o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Wrth wneud hynny, mae'n gofyn am enwebiadau gan wahanol gyrff enwebu pob un o'r partneriaid cymdeithasol sy'n eistedd ar y Cyngor.
Cyn penodi cynrychiolwyr cyflogwyr, rhaid i'r Prif Weinidog ofyn am enwebiadau gan unigolion neu gyrff ymae'n ystyried eu bod yn cynrychioli barn y categorïau o gyflogwyr y cyfeirir atynt yn adran 3 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (y Ddeddf). Y categorïau hyn yw cyflogwyr sy'n cynrychioli cyrff cyhoeddus datganoledig, y sector preifat, y sector gwirfoddol, addysg uwch, ac addysg bellach.
Ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr, dim ond cynrychiolwyr gweithwyr sydd wedi'u henwebu gan TUC Cymru y gall y Prif Weinidog eu henwebu. Mae TUC Cymru wedi'i ddynodi'n gorff enwebu ar gyfer aelodaeth undebau llafur yn y Ddeddf.
Er bod sofraniaeth a strwythur gwneud penderfyniadau pob partner wrth benderfynu ar enwebiadau yn cael eu parchu, os nad yw ymddygiad aelodau yn cyrraedd safonau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, yna mae'r Prif Weinidog yn cadw'r hawl i archwilio, gyda'r corff enwebu perthnasol, a ddylai'r person hwnnw barhau i fod yn aelod o'r Cyngor.
Os yw'r Prif Weinidog, yn dilyn y trafodaethau gyda'r corff enwebu, o'r farn nad yw'r penodiad bellach yn briodol, byddai'n ei derfynu drwy hysbysu'r aelod yn ysgrifenedig, yn unol â'r Ddeddf. Fodd bynnag, ni fyddai'r cam hwn yn cael ei gymryd cyn rhoi rhybudd i'r corff enwebu. Yn yr un modd, os yw aelod yn teimlo nad yw'n gallu parhau yn y rôl, gall ymddiswyddo drwy ysgrifennu at y Prif Weinidog.
Darperir rhagor o fanylion am yr hyn a ddisgwylir gan aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol isod.
Presenoldeb
Mae llwyddiant y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn dibynnu ar ymrwymiad ei aelodau. Mae cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor yn rhan hanfodol o rolau a chyfrifoldebau'r aelodau, felly mae disgwyl y byddant yn gwneud pob ymdrech i fynychu holl gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol oni bai bod amgylchiadau eithriadol sy’n golygu na allant wneud hynny. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylent hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar unwaith.
Mae'n bwysig cofio bod gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol reolau ynghylch sicrhau cworwm (Rhan 1 o'r Gweithdrefnau) y mae angen eu cynnal a bydd methu â mynychu cyfarfodydd y Cyngor heb reswm yn annerbyniol. Er y caniateir arsylwyr yn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, nid ydynt yn gallu dirprwyo ar ran aelodau llawn o'r Cyngor ac nid ydynt yn cyfrif tuag at sicrhau bod cworwm mewn cyfarfod.
Cydnabyddir y bydd rhesymau dilys dros fethiant aelod i fynychu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol megis argyfwng personol, salwch, gwyliau wedi'u trefnu o flaen llaw, newid rôl, neu gyfrifoldebau cyfreithiol e.e. dyletswydd rheithgor. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yn absenoldebau "cymeradwy" ond ym mhob achos, disgwylir i aelodau hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyn gynted â phosibl os na allant fynychu cyfarfod neu barhau fel aelod o'r Cyngor.
Ar adegau efallai y bydd angen galw cyfarfod o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar fyr rybudd; mewn achos o’r fath, rhaid i aelodau wneud pob ymdrech i flaenoriaethu presenoldeb, ond gwerthfawrogir efallai na fydd aelodau o dan yr amgylchiadau hyn yn gallu bod yn bresennol bob amser.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cadw cofnod o bresenoldeb mewn cyfarfodydd; gallai diffyg presenoldeb aml arwain at weithdrefnau'n cael eu cychwyn gan y Prif Weinidog i geisio diddymu aelodaeth yr aelod hwnnw o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Os bydd aelod o'r Cyngor yn methu â mynychu dau gyfarfod o fewn blwyddyn galendr, yna gall y Prif Weinidog, fel cam cyntaf, drafod a allant gyflawni eu cyfrifoldebau gyda'r corff enwebu. Lle mae gan gorff enwebu bryderon, gallant gysylltu â'r ysgrifenyddiaeth a chychwyn trafodaeth gyda'r Prif Weinidog am ymarferoldeb parhad aelodaeth eu haelodau.
Cyfrinachedd
Disgwylir i aelodau gydymffurfio â'r amodau cyfrinachedd sydd wedi'u hymgorffori yn y Gweithdrefnau ar gyfer y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Er mwyn i’r Cyngor weithredu’n effeithiol, mae’n bwysig fod lle y gellir ymddiried ynddo lle gall aelodau fynegi eu barn yn rhydd a lle gellir darparu gwybodaeth gyfrinachol heb ofni iddi gael ei rhannu y tu allan i'r cyfarfod. Er bod yn rhaid i Aelodau drin trafodaethau a gwaith papur y Cyngor sydd wedi'u marcio'n gyfrinachol yn gwbl gyfrinachol, mae hyn hefyd yn berthnasol i bob arsylwr. Bydd methu â chynnal y cyfrinachedd hwn fel bod gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif yn cyrraedd y parth cyhoeddus yn golygu y bydd y Prif Weinidog yn siarad â'r corff enwebu am y sefyllfa ac yn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
Gwrthdaro Buddiannau
Gofynnir i aelodau ddatgan unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau a sicrhau eu bod yn diweddaru’r wybodaeth honno a fydd yn cael ei chofnodi o fewn cofrestr a gedwir gan Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Gall methu â datgelu unrhyw achos o wrthdaro buddiannau olygu y bydd y Prif Weinidog yn archwilio pa mor ymarferol yw hi i’r person hwnnw barhau i fod yn aelod o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyda'r corff enwebu perthnasol.
Cyffredinol
Gallai unrhyw achos sylweddol arall o dorri telerau ac amodau aelodaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol arwain at y Prif Weinidog yn ystyried gyda'r corff enwebu a oes angen gweithredu pellach.