Dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pholisi masnach
Mae’r papur hwn yn nodi ein dull o ymdrin â pholisi masnach a’i sylfaen yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Datganiad
Mae dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pholisi masnach yn seiliedig ar ein huchelgais i gynyddu ffyniant yng Nghymru, ein gwerthoedd, ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd a’n cyfrifoldebau drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn cynnwys tyfu ein heconomi yn gynaliadwy, gwella allforion a denu mewnfuddsoddiad; gweithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd-eang; parchu a diogelu hawliau dynol; cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd byd-eang a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.
Pwrpas
Pwrpas y ddogfen hon yw nodi ein dull o ymdrin â’r Polisi Masnach, ei sylfaen yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac egluro’r amcanion polisi trawsbynciol y credwn y dylai Llywodraeth y DU eu dilyn wrth negodi cytundebau masnach.
Beth yw polisi masnach?
Mae polisi masnach yn cyfeirio at set o reolau, rheoliadau a chytundebau a sefydlwyd gan lywodraethau i lywodraethu eu gweithgareddau masnachu rhyngwladol. Mae’r polisïau hyn yn amlinellu’r telerau ar gyfer cyfnewid nwyddau, gwasanaethau a buddsoddiadau rhwng gwledydd. Yn draddodiadol, roedd polisïau masnach yn ceisio hybu twf economaidd a buddsoddiad, diogelu diwydiannau domestig, a sicrhau cystadleuaeth deg mewn marchnadoedd byd-eang.
Mae prif elfennau polisi masnach yn cynnwys tariffau (trethi ar nwyddau wedi’u mewnforio), cwotâu (cyfyngiadau ar faint o nwyddau y gellir eu mewnforio), cymorthdaliadau (cymorth ariannol i ddiwydiannau domestig), a chytundebau masnach (cytundebau dwyochrog neu amlochrog rhwng gwledydd i hwyluso masnach). Mae polisi masnach hefyd yn cynnwys rheoliadau sy’n ymwneud â hawliau eiddo deallusol, safonau llafur, a mesurau diogelu amgylcheddol.
Gall polisi masnach hefyd gynnwys ysgogiadau i annog masnach gynhwysol, gan sicrhau mynediad at gytundebau masnach ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig a chael gwared ar rwystrau diangen i fasnach.
Cyd-destun
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r amgylchedd masnachu wedi newid yn gyfan gwbl. Wrth i’r byd newid, mae Cymru’n newid hefyd.
Mae ein ffyniant wedi dibynnu ar fasnach ers tro byd, gyda chyfleoedd yn agor o amgylch y byd yn ogystal â gartref yng Nghymru. Yr her ar y cyd i ni yng Nghymru yw nodi’r cyfleoedd hynny ac arfogi ein hunain i fanteisio arnynt i’r eithaf er mwyn hybu llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru, yn unol â’n gwerthoedd a’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae angen i’n polisi masnach yng Nghymru ategu ein Strategaeth Ryngwladol, sy’n nodi ein tair uchelgais graidd: codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, tyfu ein heconomi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad, a sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Mae angen i’n polisi masnach hefyd fodloni ein hymrwymiad yn y Cynllun Gweithredu Allforio i wneud y canlynol:
“Sicrhau bod ein hallforwyr yn barod ar gyfer unrhyw amgylchedd masnachu newydd (gofynion) gyda’r UE, ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben wedi i’r DU ymadael â’r UE ac unrhyw gytundebau masnach rydd newydd eraill.”
Masnach a datganoli
Mae penderfyniad y DU i ymadael â’r UE yn golygu y gall Llywodraeth y DU nawr negodi a chytuno ar gytundebau masnach newydd, gyda phartneriaid masnachu ledled y byd. Dim ond Llywodraeth y DU all ddod â’r Deyrnas Unedig gyfan i gytundebau masnach. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU wrth negodi cytundebau masnach ac mae gan y Senedd gymhwysedd i basio deddfau sy’n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol.
Felly, mae gan Gymru ddiddordeb amlwg mewn cytundebau masnach gan y gallant effeithio ar ein pobl, ein lleoedd a’n busnesau, a chreu cyfleoedd a rhwymedigaethau rhyngwladol newydd.
Y Senedd, a Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am weithredu rhwymedigaethau mewn meysydd datganoledig. Ein rôl mewn negodiadau yw hyrwyddo buddiannau Cymru fel bod Llywodraeth y DU yn negodi cytundebau sy’n creu cyfleoedd sydd o fudd i Gymru, sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, ac nad ydynt yn tanseilio ein polisi domestig ein hunain.
Mae sicrhau manteision economaidd mewn negodiadau masnach yn hanfodol bwysig. Ochr yn ochr â hyn, mae masnach yn gysylltiedig yn ei hanfod â materion byd-eang eraill ac rydym am sicrhau bod ein gwerthoedd craidd wedi’u cynnwys yng nghytuniadau rhyngwladol y DU. Er enghraifft, roedd Cytundeb Masnach Rydd newydd y DU gyda Seland Newydd yn cynnwys darpariaethau trawsbynciol cynhwysfawr gan gynnwys penodau penodol ar yr Amgylchedd, Llafur, Datblygu a Masnach, a Chydraddoldeb Rhywiol.
Efallai y bydd gan wahanol wledydd wahanol ddulliau o ymdrin â materion, fel hawliau dynol a diogelu’r amgylchedd, a rhaid ystyried ymgysylltu â’r gwledydd hyn yn ofalus gan beidio eu diystyru.
Mae Cymru bob amser wedi ceisio dylanwadu ar newid drwy ymgysylltu rhyngwladol cadarnhaol, diplomyddiaeth gyhoeddus, ac arwain drwy esiampl gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan dderbyn bod newid sylweddol yn cymryd amser. Rydym yn defnyddio ein cysylltiadau a’n hymgysylltiad rhyngwladol i hyrwyddo ein gwerthoedd a’n diwylliant ac ni ddylai cytundebau masnach danseilio’r dull hwn o ymdrin.
Ymdrin â Pholisi Masnach drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a gyda’i gilydd, gyda’r nod o atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae’r Ddeddf yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Roedd y Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, weithio i’w cyflawni, yn ogystal â phum ffordd o weithio y dylid eu defnyddio i’w cyflawni.
Dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r pŵer i ddod â chytundebau rhyngwladol sy’n rhwymo’r DU i gyd, ond mae’n debygol y bydd unrhyw gytundeb masnach yn cael effeithiau hirdymor ar lesiant economaidd a chymdeithasol Cymru ac, felly, mae’r cysylltiad rhwng y nodau llesiant a pholisi masnach ryngwladol yn arwyddocaol. Bydd cytundebau masnach hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar allu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, i gyflawni yn erbyn y nodau a’r amcanion a nodir yn y Ddeddf.
Er nad yw Llywodraeth y DU yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei harwain gan y nodau llesiant a’r ffyrdd o weithio wrth gyfleu ei blaenoriaethau i Lywodraeth y DU ac wrth ddadansoddi cytundebau masnach.
Yn hanesyddol, mae negodiadau masnach wedi canolbwyntio’n gul ar fanteision economaidd datblygu cysylltiadau masnachu agosach â phartneriaid masnachu eraill. Fodd bynnag, mae cytundebau masnach mwy diweddar wedi ehangu i gynnwys set ehangach o feysydd trawsbynciol fel busnesau bach a chanolig, grymuso economaidd ar gyfer menywod, llafur a newid yn yr hinsawdd. Ni ellir anwybyddu effaith cytundebau masnach ar feysydd polisi ehangach ac, os nad ydynt yn cael eu hystyried yn llawn, gall cytundebau masnach arwain at ganlyniadau anfwriadol mewn amrywiaeth o feysydd. Mae cytundebau masnach yn creu rhwymedigaethau rhyngwladol sydd, mewn egwyddor, yn clymu cenedlaethau’r dyfodol. Gall y rhwymedigaethau hynny wyro dros amser oddi wrth ddyheadau polisi domestig a gallant fod yn gymhleth, gan gymryd llawer o amser i’w hailnegodi.
Mae’r effaith bosibl y gallai polisi masnach ei chael ar ein nodau llesiant, boed hynny drwy effeithio ar fusnesau, defnyddwyr, cymunedau, polisi domestig neu’r effaith a gawn yn fyd-eang, ar flaen ein meddwl. Yng Nghymru, rydym yn ystyried polisi masnach drwy lens Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal ag o safbwynt economaidd. Mae’r dadansoddiad rydym wedi’i gynnal ar gytundebau Awstralia, Seland Newydd a Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) wedi cael ei wneud drwy’r lens hon, gan ystyried sut mae penodau o’r cytundebau hyn yn berthnasol i’r nodau llesiant cenedlaethol.
Sut mae’r 7 nod llesiant yn dylanwadu ar bolisi masnach
Mae’r saith nod llesiant cenedlaethol wedi’u sefydlu yn ymwneud â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr polisïau yng Nghymru roi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith:
Gweithredu mewn modd sy’n sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion hwythau.
Yn sail i’r nodau hyn, mae’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy wedi’i hymgorffori yn sylfaen datganoli yng Nghymru ers 1998. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn cynnwys pum ffordd o weithio sydd wedi’u bwriadu i ddangos arferion gorau ac i gefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Y rhain yw integreiddio, cydweithio, hirdymor, cynnwys ac atal.
Yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb i gysoni ein gwerthoedd polisi masnach â’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio.
Y saith nod llesiant: Cymru Lewyrchus
Sut gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru Lewyrchus:
- Rydym am weld cytundebau masnach yn datgloi masnach ychwanegol i fusnesau Cymru drwy roi hwb i’r economi a chynyddu cyflogau ledled Cymru, gan ddileu tariffau ar allforion nwyddau Cymru.
- Dylai unrhyw gytundeb masnach a negodir gan Lywodraeth y DU gynyddu gwaith teg yng Nghymru ac ni ddylai danseilio, na pheryglu, hawliau a gwarchodaeth bresennol y gweithwyr.
- Rydym eisiau gweld darpariaethau i helpu i gefnogi Busnesau Bach a Chanolig i fanteisio ar gytundebau masnach.
- Rydym eisiau gweld darpariaethau arloesi, gan gynnwys pennod arloesi ar wahân, yn cael eu cynnwys ym mhob cytundeb masnach i ddarparu mecanwaith i drafod arloesi ar fasnach. Dylai hyn gynnwys dulliau rheoleiddio, masnacheiddio technolegau newydd a chadernid cadwyni cyflenwi i sicrhau bod cytundebau masnach yn dal yn addas i’r diben wrth i’n heconomi dyfu.
- Byddem am weld mesurau diogelu priodol i atal diwydiannau domestig rhag effeithiau niweidiol mewnforion rhad.
- Dylai cytundebau masnach ystyried y defnydd cymesur ac effeithlon o adnoddau o ran yr hyn rydym yn ei fasnachu.
Nod
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.
Y saith nod llesiant: Cymru gydnerth
Sut gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru gydnerth:
- Rydym yn disgwyl y dylai darpariaethau amgylcheddol fod yn rhan allweddol o negodiadau masnach, ac na ddylai unrhyw gytundeb masnach effeithio ar ein gallu i gyflawni ein hymrwymiadau presennol yn ddomestig ac o dan gytundebau a chynghreiriau rhyngwladol (ee ein haelodaeth o’r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy) neu ein hatal rhag gwneud ymrwymiadau uchelgeisiol yn y dyfodol. Yn ychwanegol, ni ddylai cytundebau masnach geisio ailddatgan ymrwymiadau neu dargedau rhyngwladol yn unig ond, yn hytrach, dylid eu defnyddio fel cyfle i wella a chryfhau ymrwymiadau presennol.
- Byddwn bob amser yn gofyn i Lywodraeth y DU geisio darpariaethau uchelgais uchel i adlewyrchu’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar yr amgylchedd, o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau lefelau uchel o warchodaeth amgylcheddol.
- Dylai cytundebau masnach gynnwys darpariaethau sy’n cydnabod effaith masnach, ac yn annog cydweithredu, ym meysydd ansawdd aer, bioamrywiaeth, coedwigaeth gynaliadwy a rheoli amaethyddol, a’r amgylchedd morol.
Nod
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).
Y saith nod llesiant: Cymru iachach
Sut gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru Iachach:
- Rhaid i gytundebau masnach beidio â newid egwyddorion sylfaenol y GIG yng Nghymru ac yn y DU – gofal yn cael ei ddarparu am ddim i bawb yn ôl yr angen ac yn cael ei ariannu drwy drethiant cyffredinol.
- Ni ddylai pob cytundeb masnach sy’n cael ei negodi gan Lywodraeth y DU effeithio ar ein gallu i reoleiddio a bodloni ein hymrwymiadau iechyd datganoledig.
- Byddem eisiau cytundebau masnach i helpu i gynyddu’r cyflenwad a mynediad at weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, ac i feddyginiaethau costeffeithiol.
- Dylid defnyddio cytundebau masnach i gael mynediad at ddewis ehangach o fwydydd iach cost isel.
- Dylai unrhyw gytundeb masnach sicrhau ein bod yn gallu cynnal ein safonau uchel ar fesurau iechydol a ffytoiechydol a bod mesurau i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrth-ficrobaidd yn cael eu cynnal a’u gwella.
- Mae ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ehangach yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles. Rydym am sicrhau bod yr holl ddarpariaethau mewn cytundeb masnach yn cefnogi iechyd a llesiant y rheini yng Nghymru ac nad yw’n gwaethygu anghydraddoldebau iechyd.
Nod
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Y saith nod llesiant: Cymru sy’n fwy cyfartal
Sut gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru sy’n Fwy Cyfartal:
- Dylai cytundebau masnach gynnwys darpariaethau i helpu i leihau tlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol ar draws poblogaethau ac ardaloedd daearyddol, gan gynnwys mynediad at waith teg a chyfleoedd i fusnesau a phobl yng Nghymru gyfrannu at negodiadau masnach.
- Rydym am weld pennod ar wahân ar fasnach a rhywedd yn cael ei chynnwys yng nghytundebau masnach y DU, gan fod hyn yn rhoi arwydd clir i bartneriaid masnachu o bwysigrwydd hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a gwella gallu menywod i fanteisio i’r eithaf ar gytundebau masnach. Byddem hefyd am weld darpariaethau sy’n gysylltiedig â rhywedd drwy gydol y cytundeb masnach.
- Dylai cytundebau masnach gynnwys darpariaethau llafur gorfodadwy, gan gynnwys pennod llafur ar wahân gyda darpariaethau i orfodi 8 confensiwn craidd y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO).
- Rydym am weld asesiadau effaith realistig gan Lywodraeth y DU er mwyn i ni allu lliniaru’r effeithiau ar y sectorau a’r cymunedau yng Nghymru y gallai cytundeb masnach effeithio’n negyddol arnynt. Ni ddylai cytundebau masnach greu manteision i rai, ar draul anfanteision sylweddol i eraill.
Nod
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Y saith nod llesiant: Cymru o gymunedau cydlynus
Sut gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru o Gymunedau Cydlynus:
- Byddwn yn ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU y byddai cytundebau sy’n cael effeithiau anghymesur o negyddol ar sectorau penodol yn effeithio’n anochel ar y cymunedau o’u cwmpas. Er enghraifft, mae amaethyddiaeth yn arbennig o bwysig i gymunedau gwledig, gan ddarparu gweithgarwch economaidd a chyflogaeth. Mae’r un peth yn wir am ardaloedd eraill sy’n dibynnu’n drwm ar un sector penodol. Bydd cyfleoedd cyflogaeth ehangach, yn ogystal ag ystyriaethau iechyd (fel y nodir o dan ‘llewyrchus’ ac ‘iachach’ uchod) hefyd yn cael effaith ar gymunedau.
- Gallai cynnwys darpariaethau mewn cytundebau masnach i alluogi symudedd ieuenctid a symudedd busnes-i-fusnes hyrwyddo amrywiaeth a chyfrifoldeb byd-eang yn ein cenedlaethau i ddod.
- Dylai cytundebau masnach gynnwys darpariaethau i wella gwasanaethau allweddol, a allai arwain at
gymunedau mwy cysylltiedig.
Nod
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Y saith nod llesiant: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Sut y gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu:
- Byddwn yn egluro i Lywodraeth y DU drwy gydol negodiadau cytundebau masnach bod rhai sectorau, fel amaethyddiaeth, yn rhan annatod o gefnogi diwylliant Cymru a chymunedau Cymraeg eu hiaith. Byddwn yn defnyddio ein gweithgareddau allforio, lle bo hynny’n briodol, i dynnu sylw at gryfder diwylliant Cymru a hunaniaeth genedlaethol fel ffactorau cadarnhaol o ran annog cyfleoedd masnach a mewnfuddsoddi sy’n deillio o gytundebau masnach.
- Byddem yn gofyn i lywodraeth y DU eithrio unrhyw ymrwymiadau a rhwymedigaethau a wnaed ar y diwydiant clyweledol (diwydiannau creadigol) oherwydd gallai’r darpariaethau hyn gael effaith negyddol ar y Gymraeg a’i diwylliant.
Nod
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Y saith nod llesiant: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Sut gallai cytundebau masnach gyfrannu at Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang:
- Credwn y dylid defnyddio cytundebau masnach i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a’n hamgylchedd naturiol. Rydym am weld pennod benodol ar newid yn yr hinsawdd ym mhob cytundeb masnach, ynghyd â darpariaethau sy’n ymwneud â’r hinsawdd drwy gydol y cytundeb masnach. Ni ddylai cytundebau masnach geisio ailddatgan ymrwymiadau neu dargedau rhyngwladol yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd yn unig ond, yn hytrach, dylid eu defnyddio
fel cyfle i wella a chryfhau ymrwymiadau presennol. - Byddem eisiau gweld ymrwymiadau cadarn o fewn cytundebau masnach i helpu i wella safonau lles anifeiliaid a bygythiad byd-eang ymwrthedd gwrthficrobaidd.
- Dylai cytundebau masnach gynnwys pennod ar Fasnach a Datblygu i gydnabod pwysigrwydd masnach fel cyfrwng i hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol a lleihau tlodi. Dylai darpariaethau mewn cytundebau masnach ganiatáu ar gyfer monitro effeithiau’r cytundeb ar wledydd datblygedig.
- Dylid defnyddio cytundebau masnach fel platfform ar gyfer ymgysylltu adeiladol ynghylch yr amgylchedd, hawliau dynol, iechyd a chydraddoldeb.
Nod
Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang.
Dylanwad
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi “egwyddor datblygu cynaliadwy” ar waith sy’n golygu gweithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion hwythau.
Sut mae’r 5 ffordd o weithio yn dylanwadu ar bolisi masnach
Mae pum ffordd o weithio y mae angen inni eu hystyried er mwyn gweithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Dyma sut y byddwn yn defnyddio’r ffyrdd o weithio, a sut rydym am i Lywodraeth y DU gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy, wrth negodi cytundebau masnach:
1. Cydweithio
Sut y gallai cydweithio ag unrhyw berson arall (neu sut y gallai gwahanol rannau o’r corff gydweithio) gynorthwyo’r corff i fodloni ei amcanion llesiant neu gynorthwyo corff arall i fodloni ei amcanion.
Yr hyn rydym yn ei ofyn gan Lywodraeth y DU
- Parhau i ymgysylltu â llywodraethau datganoledig yn gyson, ar lefel Gweinidogion a swyddogol, a bod yn dryloyw drwyddi draw. Byddem hefyd yn annog Llywodraeth y DU i ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â busnesau, undebau llafur, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil yng Nghymru drwy gydol oes cytundeb masnach.
Beth fyddwn ni’n ei wneud
- Parhau i weithio’n agos ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru, a gyda’n hystod o randdeiliaid, i nodi’r cyfleoedd a’r risgiau posibl sy’n deillio o gytundebau masnach sy’n cael eu negodi gan Lywodraeth y DU. Byddwn hefyd yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn cael safbwynt Cymru ar gytundebau masnach posibl a sut gallai cytundebau masnach, o bosibl, helpu neu lesteirio ein nodau llesiant.
2. Integreiddio
Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill. Yn benodol, lle gall camau a gymerir gan
y corff gyfrannu at fodloni un amcan ond y gallent fod yn niweidiol i fodloni un arall.
Yr hyn rydym yn ei ofyn gan Lywodraeth y DU
- Rhoi strategaeth polisi masnach gynhwysfawr ar waith sy’n nodi sut y dylai masnach ryngweithio â meysydd polisi allweddol fel yr amgylchedd, hawliau dynol, iechyd a chydraddoldeb.
- Cynnal asesiadau effaith cynhwysfawr cyn llofnodi cytundeb masnach i nodi effeithiau posibl ar draws ystod o sectorau, gan gynnwys eu heffaith ar lywodraethau datganoledig.
Beth fyddwn ni’n ei wneud
- Byddwn yn parhau i ystyried polisi masnach drwy lens Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal ag o safbwynt economaidd. Mae’r dadansoddiad rydym wedi’i gynnal ar gytundebau Awstralia, Seland Newydd a Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) wedi cael ei wneud drwy’r lens hon, gan ystyried sut mae penodau o’r cytundebau hyn yn berthnasol i’r nodau llesiant cenedlaethol.
3. Cynnwys
Pwysigrwydd cynnwys pobl eraill sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth.
Yr hyn rydym yn ei ofyn gan Lywodraeth y DU
- Rhoi strwythurau ar waith i sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n effeithiol â phobl, busnesau, undebau llafur a chymdeithas sifil yng Nghymru. Dylid ymgysylltu drwy gydol oes y cytundeb masnach, o gwmpasu cytundeb hyd at weithredu a monitro drwy’r pwyllgorau a sefydlwyd o dan y cytundebau masnach.
Beth fyddwn ni’n ei wneud
- Sicrhau bod gan Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg gynrychiolaeth o’r gwahanol sectorau busnes, cymdeithas sifil gan gynnwys cyrff cyhoeddus a’r byd academaidd, a chynrychiolaeth Undebau Llafur. Mae’r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach yn rhoi cyngor arbenigol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ar faterion polisi masnach ac mae’n helpu i lunio safbwynt Llywodraeth Cymru, gan gyfeirio’n benodol at negodiadau masnach Llywodraeth y DU ar ôl Brexit.
- Byddwn yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ymgysylltu’n allanol gydag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys arweinwyr y sector, busnesau, undebau llafur, cymdeithas sifil, cyrff cyhoeddus fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r byd academaidd.
4. Meddwl am yr hirdymor
Pwysigrwydd cydbwyso anghenion byrdymor â’r angen i ddiogelu’r gallu i fodloni anghenion hirdymor hefyd, yn enwedig pan fydd pethau sy’n cael eu gwneud i fodloni anghenion byrdymor yn gallu cael effeithiau hirdymor niweidiol.
Yr hyn rydym yn ei ofyn gan Lywodraeth y DU
- Cynnal asesiadau effaith cynhwysfawr cyn llofnodi unrhyw gytundeb masnach. Dylai’r asesiadau effaith amlinellu effeithiau posibl cytundeb masnach ar y DU ac ar Gymru yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor ar draws pob sector.
- Ar ôl cadarnhau cytundeb, sicrhau bod asesiadau rheolaidd a thrylwyr o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cytundebau masnach yn cael eu cynnal.
Beth fyddwn ni’n ei wneud
- Gweithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid, ar draws amrywiaeth o sectorau, i ganfod effeithiau hirdymor posibl cytundeb masnach ar fusnesau a dinasyddion Cymru a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU.
- Parhau i ymgysylltu â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i fonitro effaith y cytundeb masnach ar ôl ei gadarnhau i sicrhau ei fod yn parhau i fod o fudd i Gymru ac nad yw’n cael effaith negyddol ar ein nodau llesiant.
5. Atal
Sut y gall defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd, neu waethygu problem, gyfrannu at fodloni amcanion llesiant y corff, neu amcanion corff arall.
Yr hyn rydym yn ei ofyn gan Lywodraeth y DU
- Y mgysylltu’n eang â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraethau datganoledig a chymdeithas sifil, i nodi risgiau posibl cytundebau masnach yn ystod y broses gwmpasu a negodi.
- Monitro effaith cytundebau masnach newydd yn effeithiol i weld sut maen nhw’n cymharu â’r rhagamcanion cychwynnol. Dylai adroddiadau monitro fod yn gynhwysfawr, yn dryloyw ac yn cynnwys ymatebion rhanddeiliaid a dadleuon seneddol.
- Defnyddio’r pwyllgorau a sefydlwyd dan y cytundebau yn effeithiol i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n codi o’r cytundeb – gan wahodd cyfraniadau gan lywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid perthnasol wrth gyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgorau. Prif bwrpas pwyllgorau yw goruchwylio’r gwaith o weithredu cytundebau masnach, sydd, yn gyffredinol, yn cynnwys monitro cydymffurfiad â’r rhwymedigaethau a amlinellir yn y cytundeb masnach; trafod mynediad pellach i’r farchnad; adolygu a diwygio elfennau o’r cytundeb i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithlon; asesu effaith y cytundeb ar lif masnach; ac ymgysylltu â busnesau i ddeall heriau’r farchnad.
Beth fyddwn ni’n ei wneud
- Gweithio gyda’n rhanddeiliaid i nodi risgiau posibl a allai gael mwy o effaith ar rai rhanbarthau neu sectorau yng Nghymru (er enghraifft, amaethyddiaeth) nag yng ngweddill y DU.
- Gweithio ar draws Llywodraeth Cymru, a gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid allanol, i gyfrannu tystiolaeth o safbwynt Cymru i bwyllgorau a sefydlwyd o dan y cytundebau masnach.
Y dyfodol
Bydd ein polisi masnach yn parhau i gael ei ategu gan ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru lewyrchus, ein gwerthoedd, ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd a’n cyfrifoldebau deddfwriaethol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Edrych tua’r dyfodol
Byddwn yn parhau i weithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd-eang; parchu a diogelu hawliau dynol; cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd byd-eang a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.
Byddwn yn sicrhau bod ein gwerthoedd, fel yr amlinellir yn y ddogfen hon, yn cael eu clywed a’u hystyried gan Lywodraeth y DU drwy gydol y broses o negodi cytundeb masnach, o gwmpasu cytundeb posibl hyd at ei roi ar waith. Rydym yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i ddadlau y dylai cytundebau masnach gynnwys darpariaethau i weithredu fel platfform ar gyfer ymgysylltu adeiladol ynghylch yr amgylchedd, safonau defnyddwyr, hawliau gweithwyr, hawliau dynol, iechyd a chydraddoldeb.
Byddwn yn sicrhau bod ein hallforwyr yn barod ar gyfer amgylcheddau masnachu newydd i’w galluogi i fanteisio ar gyfleoedd masnachu o ganlyniad i gytundebau masnach. Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau yng Nghymru i ddeall amodau, gweithdrefnau a rheoliadau masnachu mewn marchnadoedd allforio targed, gan gynnwys y rheini lle mae cytundebau masnach ar waith, fel rhan o’r broses o fodloni Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Allforio.
WG49954