Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Rhagfyr 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 132 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi eich barn am y newidiadau arfaethedig i bolisi Llwybrau Dysgu 14-19.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Cymeradwywyd y prif gynigion i newid yr ydym yn ymgynghori arnynt i'r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol.
Mae argymhellion y Grŵp yn dangos newid yn y polisi Llwybrau Dysgu 14-19 sydd yn cymryd mewn i ystyriaeth:
- cydbwysedd mwy priodol rhwng cynnig dewis i ddysgwyr ac ansawdd y dewisiadau dysgu a ddarperir yng Nghyfnod Allweddol 4
- newidiadau sylweddol yn nhirwedd addysg Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r ymgynghoriad yn holi eich barn yn benodol ar y broses o weithredu’r newidiadau polisi arfaethedig a fydd yn effeithio ar reoliadau trefniadau ariannu a chynllunio busnes a chyflawni darpariaeth 14-19.