Neidio i'r prif gynnwy

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn amlinellu'r polisi a ffefrir gennym ar gynhyrchu, storio a chludo hydrogen, fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'r argyfyngau hyn yn golygu bod angen datgarboneiddio ein diwydiannau a'n cyflenwad ynni - a hynny’n gyflym, yn llwyr ac mewn ffordd gynaliadwy. Ar yr un pryd, rhaid cefnogi swyddi a gweithgarwch economaidd, osgoi trosglwyddo problemau i genedlaethau'r dyfodol a sicrhau pontio ar gyfer y bobl a'r busnesau y bydd y newid yn effeithio arnynt.

Mae angen eglurder ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru ar hydrogen er mwyn sicrhau y gall ein heconomi a'n cymunedau elwa ar botensial hydrogen i fod yn rhan o ddyfodol di-garbon.  

Bydd rhai o'r penderfyniadau a fydd yn effeithio ar ddefnyddio hydrogen yng Nghymru yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol gan Lywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i drafod ei pholisïau hydrogen â Llywodraeth y DU wrth iddi eu datblygu, a hefyd â diwydiant a chynhyrchwyr ynni, er mwyn sicrhau eu bod yn llwyr ystyried anghenion Cymru. Mae sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru bolisi clir ar hydrogen yn rhan o'r broses honno.  

Felly, rydym yn ceisio barn diwydiant, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill ar y safbwynt polisi a ffefrir gennym sy'n cefnogi hydrogen:

  • pan fydd yn gwneud cyfraniad clir a chynaliadwy at ddatgarboneiddio.
  • Pan fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach a gwyrddach.
  • pan nad yw ei ddefnyddio yn estyn yn ddiangen y defnydd o danwydd ffosil.

Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd y polisi yn cael ei gyhoeddi yn gyntaf ar ffurf datganiad ysgrifenedig, ac yna cyhoeddir canllawiau manwl ar gyfer penderfynwyr a datblygwyr.

Cefndir

Ym mis Mehefin 2023 cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ei adroddiad cynnydd ar leihau allyriadau yng Nghymru. Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor 58 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan gynnwys argymhelliad i asesu'r potensial ar gyfer cynhyrchu hydrogen ar raddfa fawr yng Nghymru, ac i gydgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch sut y gall Cymru gyfrannu orau at gynlluniau hydrogen ledled y DU. Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru'r argymhellion ynghylch hydrogen, gan gydnabod bod gan hydrogen rôl wrth ddatgarboneiddio System Ynni Cymru, am ei fod yn darparu ffordd hyblyg o gynhyrchu trydan a datgarboneiddio diwydiant a morgludo.

Wrth ddatblygu ei dealltwriaeth o hydrogen, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu a chyhoeddi nifer o adroddiadau ac ymgynghoriadau:

  • Yn 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Lwybr a Chynllun Gweithredu ar gyfer Hydrogen a oedd yn meincnodi'r diwydiant hydrogen yng Nghymru. Cafodd ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021.
     
  • Ers 2021 mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £2.8 miliwn ar gyfer astudiaethau dichonoldeb hydrogen drwy'r gronfa Ymchwil ac Arloesi Busnes Hydrogen ar gyfer Datgarboneiddio (HyBRID) yn 2021. 
     
  • Roedd Adroddiad ar Ddal Carbon yn amlinellu llwybrau datgarboneiddio posibl gan ddefnyddio CCUS (dal, defnyddio a storio carbon) a hydrogen12. 
     
  • Roedd Adroddiad Gridiau Ynni’r Dyfodol i Gymru  yn asesu’r senarios ynni ar gyfer Cymru yn y dyfodol er mwyn cyflawni sero-net erbyn 2050. Nododd yr adroddiad ei bod yn debygol y bydd hydrogen yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru i gefnogi'r broses bontio o'r 2030au ymlaen. Mae'n fwyaf tebygol o fod yn gost-effeithiol wrth fodloni anghenion diwydiant, trafnidiaeth drom (e.e. morgludo) a chynhyrchu trydan. Mae rhagor o ansicrwydd yn parhau ynghylch ei ddefnyddio mewn meysydd eraill.

Mae hydrogen yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Cynllun Sero-Net Cymru 2021 i 2025, sy'n trafod posibiliadau ar gyfer newid i danwydd hydrogen ar draws amrediad o ddefnyddiau terfynol.
  • Mae strategaeth Arloesi i Gymru yn cydnabod bod gan hydrogen rôl i'w chwarae wrth gyrraedd ein targedau newid hinsawdd
  • Mae'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth ar gyfer 2022 i 2027 yn ystyried ffyrdd posibl o ddefnyddio hydrogen yn y sector trafnidiaeth; ac  
  • Mae'r Strategaeth Gwres i Gymru yn edrych ar hydrogen ar gyfer gwresogi diwydiannol a domestig yn bennaf o amgylch clystyrau diwydiannol.

Cyd-destun datblygu'r polisi

Yn dilyn cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar 17 Mawrth 2021, gwnaeth y Senedd reoliadau, y cyfeirir atynt gyda'i gilydd fel 'Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) 2021':

  • Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021;
  • Rheoliadau Newid Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2021;
  • Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021; a
  • Rheoliadau Newid Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2021. 

Mae'r rheoliadau hyn yn gosod targedau heriol ar gyfer lleihau allyriadau 63% erbyn 2030, 89% erbyn 2040 ac o leiaf 100% erbyn 2050, yn seiliedig ar lefelau 1990. Mae diwydiant a chynhyrchu pŵer yn cyfrif am fwy na hanner allyriadau presennol Cymru, felly mae datgarboneiddio diwydiant a'r ffordd rydym yn cynhyrchu pŵer yn hanfodol i gadw at y cyllidebau carbon hyn, a rhaid gwneud hynny'n gyflym.

Yng Nghymru Sero-Net: Cyllideb Carbon 2 (2021 i 2025), ail-nododd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i bontio teg yng Nghymru, wedi'i adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y Ddeddf yw lliniaru unrhyw effeithiau anfwriadol a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae datgarboneiddio yn eu darparu i sicrhau bod effeithiau cadarnhaol a negyddol yn cael eu rhannu'n deg. Mae hyn yn golygu, wrth inni symud tuag Gymru lanach, gryfach a thecach, na fydd neb yn cael ei adael ar ei ôl.

Cyn bwysiced â hynny, rhaid osgoi 'allforio' allyriadau drwy yrru diwydiannau dramor, gan y byddai hynny'n effeithio ar ein gallu i adeiladu economi wyrddach yng Nghymru a gallai sbarduno diwydiannau i symud i wledydd sydd â safonau amgylcheddol is. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o leihau allyriadau ar frys wrth hefyd gadw diwydiannau cynaliadwy yng Nghymru.

Amcan polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi parhau i gloddio a defnyddio unrhyw danwyddau ffosil. Mae hyn yn rhan annatod o'n cynlluniau sero-net ac mae eisoes wedi cael ei gymhwyso i lawer o feysydd polisi, gan gynnwys ein polisi ar echdynnu glo ac echdynnu petrolewm – mae amserlen ar gyfer datganiadau a pholisïau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio ynni yn Atodiad 1.

Felly, mae'n rhaid i bolisi ynni ar gyfer Cymru, gan gynnwys wrth ystyried hydrogen, adlewyrchu tri gofyniad cyffredinol:

  1. Mae angen cyflenwad ynni diogel a fforddiadwy arnom, a diwydiant cynaliadwy yng Nghymru. Mae'r argyfwng hinsawdd a'n dibyniaeth bresennol ar gyflenwadau o danwydd ffosil, sy'n ddrud ac yn dod o ffynonellau byd-eang, yn tanlinellu pwysigrwydd ynni fforddiadwy, glân, carbon isel sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
     
  2. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus penodedig i ddatblygu mewn modd cynaliadwy. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) ddatblygu mewn modd cynaliadwy, hynny yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae hynny'n golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu mewn modd sy'n sicrhau bod anghenion cenedlaethau heddiw yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.  

    Mae'r Ddeddf yn gosod saith nod llesiant y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru geisio eu cyflawni. Bydd cyflawni'r nodau hyn hefyd yn cyfrannu at sicrhau ein bod yn newid i sero-net mewn ffordd deg. Bydd y polisi hydrogen a gynigir yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni'r nodau llesiant canlynol: 'Cymru lewyrchus' (sy'n cynnwys gweithredu ar newid hinsawdd), 'Cymru gydnerth', a 'Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang'.

Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 

Bydd y polisi hydrogen a gynigir yn gwneud cyfraniad uniongyrchol at amcanion y Rhaglen Lywodraethu:

  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a'r  argyfwng natur ym mhopeth a wnawn.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni weithio i'r eithaf i ddatgarboneiddio.
  1. Mae dyletswydd statudol arnom i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid yn yr hinsawdd yn unol â'r hierarchaeth ynni (tudalen 93) ar gyfer cynllunio .

Drwy adeiladu economi gryfach a gwyrddach, bydd y polisi hwn yn cyfrannu at amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sef datblygu economi y gall y Gymraeg ffynnu ynddi. Mae economi ffyniannus yn sicrhau sylfaen gadarn i gymunedau Cymraeg, gan ganiatáu i bobl aros yng Nghymru a chael swyddi yma, a denu pobl ifanc yn ôl gyda phosibilrwydd da o gael swyddi o ansawdd uchel.

Hydrogen a'i rôl wrth ddatgarboneiddio ynni a diwydiant

Mae Llywodraethau ledled y byd yn cydnabod yn gynyddol fod gan hydrogen carbon isel rôl bwysig i’w chwarae wrth leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn enwedig mewn sectorau sy’n anodd eu datgarboneiddio drwy atebion eraill. Mae hydrogen yn un o'r ffyrdd posibl y gallwn gefnu ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, wrth hefyd gefnogi'r economi werdd.  

Gallai cynhyrchu hydrogen yng Nghymru ddod o ystod o brosesau a ffynonellau, megis electrolysis, ailffurfio nwy naturiol â stêm methan gyda dal carbon, bioynni  neu gynhyrchu niwclear. Er bod hydrogen yn dal i fod yn dechnoleg sy'n cael ei datblygu, mae ei briodweddau unigryw yn golygu y gallai fod â rôl sylweddol yn system ynni, trafnidiaeth, diwydiant a gwresogi Cymru. Ar hyn o bryd, mae cynhyrchu a defnyddio hydrogen yn y DU yn gymharol gyfyngedig o ran maint a chwmpas, ond mae diddordeb mewn prosiectau yn cynyddu ledled Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfle i feddwl am y ffordd mae angen inni ddefnyddio hydrogen yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar ei botensial ar gyfer datgarboneiddio, a sicrhau'r ffyniant mwyaf posibl ar gyfer dinasyddion Cymru drwy fuddsoddi cynaliadwy, swyddi a chreu cyfoeth.

Bydd datblygu hydrogen yng Nghymru yn cael ei ysgogi i raddau helaeth gan anghenion diwydiannau a'r penderfyniadau maent yn eu gwneud ynghylch y llwybrau gorau ar gyfer datgarboneiddio a thwf economaidd. Mae diwydiannau a chynhyrchwyr ynni wedi bod yn glir, bydd hydrogen yn rhan o'u strategaeth gyffredinol ar gyfer datgarboneiddio'r economi i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a hynny ynghyd â defnyddio ynni’n fwy effeithlon a newid tanwydd. 

Mae gallu hydrogen i ddarparu dewis arall yn lle tanwydd ffosil, sy'n cynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn dibynnu ar sut mae'n cael ei gynhyrchu, ble mae'n cael ei ddefnyddio, sut mae'n cael ei ddefnyddio, ac a yw'n disodli cynhyrchu a defnyddio ynni sy'n ddwysach o ran carbon. Defnyddir lliwiau yn aml i ddisgrifio'r gwahanol ddulliau cynhyrchu.

Mae hydrogen llwyd a brown yn cael eu cynhyrchu drwy ailffurfio neu nwyeiddio tanwydd ffosil heb ddal yr allyriadau CO2 sy'n cael eu creu yn ystod y broses gynhyrchu. Mae'r broses hon wedi cael ei defnyddio'n helaeth yn y gorffennol yn gam cyntaf i gynhyrchu amonia o lo neu nwy, ac mae'n cael ei defnyddio'n helaeth mewn purfeydd ledled y byd i gynhyrchu hydrogen o ffracsiynau olew trwm. Oherwydd y colledion ynni sy'n gysylltiedig â'i gynhyrchu, gallai defnyddio hydrogen llwyd yn danwydd gynyddu allyriadau CO2 o'i gymharu â defnyddio tanwydd ffosil. 

Yn yr un modd mae hydrogen glas yn cael ei gynhyrchu o danwydd ffosil, nwy naturiol yn benodol; fodd bynnag, mae'r allyriadau CO2 sy'n deillio o'r broses hon yn cael eu dal a'u storio'n barhaol mewn ffurfiannau daearegol drwy ddal a storio carbon (CCS). Mae cynhyrchu hydrogen glas yn golygu buddsoddiad mawr oherwydd, yn ogystal ag adeiladu'r cyfleuster cynhyrchu hydrogen, mae hefyd angen adeiladu'r cyfleuster dal CO2, ac wedyn cludo'r CO2 a ddaliwyd i gyfleuster storio parhaol. Er mwyn cynhyrchu hydrogen glas mae angen trwydded ar gyfer chwistrellu a storio CO2 mewn safle cymwys ar gyfer storio daearegol. Gall cael y drwydded hon gymryd 3 i 10 mlynedd, yn dibynnu ar nodweddion y safle. Felly, mae'n debygol y bydd buddsoddiadau mewn cynhyrchu hydrogen glas ar raddfa fawr tuag at darged 2030 yn cael eu gwneud yn rhan o fentrau a gefnogir gan y llywodraeth neu fentrau cydgysylltiedig. 

Gellir cynhyrchu hydrogen gwyrdd drwy electrolysis dŵr gan ddefnyddio naill ai trydan adnewyddadwy pwrpasol, a / neu drydan wedi'i ddarparu o'r grid. Yr ystod effeithlonrwydd ar gyfer electrolysis ar hyn o bryd yw 70-80%. Rydym yn disgwyl gostyngiad cyflym yng nghost hydrogen gwyrdd - bydd ei gynhyrchu'n costio'r un peth â hydrogen glas ar ddechrau'r 2030au. Bydd parhau i ddatblygu seilwaith llenwi hydrogen yn ysgogi defnydd ehangach o gerbydau trydan celloedd tanwydd, yn enwedig mewn HGVau (Rhwydwaith casglu, defnyddio a storio carbon i Gymru: adroddiad, tudalen 24).

Mae cynhyrchu nwy hydrogen o drydan adnewyddadwy drwy electrolysis yn gadael troed carbon isel iawn, gan fod bron dim allyriadau nwyon tŷ gwydr yn deillio o'r broses. Gall cynhyrchu hydrogen o'r fath ddarparu ffordd lân a chost-effeithiol o storio trydan pan fydd gormod wedi cael ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy amrywiol, a thrwy hynny alluogi ffracsiynau mwy o ynni adnewyddadwy, yn bennaf solar ffotofoltäig a gwynt, yn y cyfuniad o ddulliau cynhyrchu trydan. 

Safon Hydrogen Carbon Isel y DU

Mae Safon Hydrogen Carbon Isel y DU yn gosod trothwy uchaf ar gyfer faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a ganiateir yn y broses gynhyrchu er mwyn i hydrogen gael ei ystyried yn 'hydrogen carbon isel'. Bwriad cydymffurfio â'r Safon yw helpu i sicrhau bod datblygiadau cynhyrchu hydrogen carbon isel newydd yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein targedau ar gyfer lleihau carbon, ac yn gosod metrig clir y gellir gwerthuso'r holl weithrediadau cynhyrchu hydrogen yn ei erbyn.

Mae gan hydrogen glas a gwyrdd y potensial i gynhyrchu hydrogen sy'n cydymffurfio â'r Safon bresennol, yn ogystal â hydrogen a gynhyrchir o ailffurfio nwy, nwyeiddio biomas a nwyeiddio gwastraff. 

Datblygu'r polisi hydrogen a ffefrir gennym

Ar 8 Tachwedd 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd ddatganiad yn y Senedd, yn nodi ein safbwynt ar hydrogen a'i botensial i gyfrannu at ddatgarboneiddio. Roedd y datganiad yn cydnabod y gallai hydrogen, os yw'n cael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy, ddarparu un o'r ychydig ffyrdd o ddatgarboneiddio diwydiant trwm drwy newid tanwydd, ac o leihau allyriadau mewn dulliau trafnidiaeth lle mae gwneud hynny'n anodd, yn enwedig mewn cerbydau nwyddau trwm, hedfan a morgludo. Mae cryn botensial hefyd i ddefnyddio hydrogen yn ffordd o storio ynni adnewyddadwy, yn enwedig os gellir ei ddefnyddio i storio trydan pan fydd gormod wedi cael ei gynhyrchu. Efallai y bydd ganddo hefyd rôl gyfyngedig i'w chwarae ar gyfer gwresogi, yn lle nwy naturiol.

Felly, mae hydrogen yn cynnig potensial clir a sylweddol i fod yn rhan o'r broses o newid i ynni a diwydiant carbon isel cynaliadwy. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod unrhyw gynnig ar gyfer cynhyrchu neu ddefnyddio hydrogen yn ystyried ei ddwysedd carbon a'i effaith o'i gymharu ag opsiynau  eraill.

Mae'n bwysig sicrhau nad yw amcanion polisi yn symud ein cyfrifoldebau sero-net a'n hallyriadau y tu allan i Gymru, nac yn tynnu cymhellion i fuddsoddi yn ein sectorau ynni a diwydiant. Mae'r un mor hanfodol nad yw buddsoddi mewn hydrogen yn tynnu cymhellion ar gyfer technolegau allyriadau nwyon tŷ gwydr isel eraill sydd wedi cael eu sefydlu a'u profi, nac yn estyn ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn anfwriadol.  

Ar 15 Hydref 2024, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ddatganiad ar yr economi ac ynni gwyrdd. Roedd y datganiad yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yng Nghymru, lle mae diwydiannau cynaliadwy’n cael eu cadw yng Nghymru ac yn parhau i greu swyddi o ansawdd uchel a manteision eraill i’r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Rydym am i ddiwydiant ddibynnu llai o lawer ar danwydd ffosil a chynhyrchu llai o lawer o nwyon tŷ gwydr. Bydd ein polisi ar gyfer hydrogen yn cydnabod ei botensial i gyfrannu at ddatgarboneiddio.

Ein Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

Dyma ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwydiant a chynhyrchu ynni yng Nghymru:

  • Bydd diwydiannau cynaliadwy yn cael eu datblygu a'u cadw yng Nghymru.
  • Bydd Economi Werdd Cymru yn tyfu, gan sicrhau swyddi o ansawdd uchel a manteision ehangach i gymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
  • Bydd diwydiant wedi lleihau'n fawr ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil a bydd yn cynhyrchu llawer llai o nwyon tŷ gwydr.
  • Pan fo tanwyddau ffosil yn dal i gael eu defnyddio ac allyriadau yn dal i gael eu cynhyrchu, bydd cymaint o'r allyriadau hynny â phosibl yn cael eu lleihau a'u dal a'u storio'n ddiogel ac yn barhaol.
  • Bydd gennym gynllun credadwy a chynaliadwy i ddiwydiant allu rhoi’r gorau’n llwyr i gynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr a’i ddibyniaeth ar danwyddau ffosil.

Crynodeb o'r polisi a ffefrir wedi'i gynnig

Er mwyn helpu i gyflawni'r weledigaeth hon, ac i fanteisio i'r eithaf ar botensial cadarnhaol hydrogen yng Nghymru, dyma'r safbwynt polisi a ffefrir gan Lywodraeth Cymru:

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu seilwaith a ffyrdd o ddefnyddio hydrogen sy'n dod i'r amlwg a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar sicrhau sero-net, a chyfnodau pontio teg ar gyfer dinasyddion a diwydiant y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cynhyrchu a defnyddio hydrogen mewn ffordd wedi'i thargedu:

  • pan fydd yn gwneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaus at ddatgarboneiddio, y broses o gefnu ar ddefnyddio tanwydd ffosil, a ffyniant ar gyfer Cymru (wedi'u hategu â thystiolaeth).
  • pan fydd yr hydrogen yn bodloni gofynion Safon Hydrogen Carbon Isel y DU.
  • pan fydd datblygwr/datblygwyr yn gallu cyflwyno tystiolaeth eu bod yn cyfrannu at broses bontio deg ar gyfer y cymunedau a'r diwydiannau hynny y mae defnyddio hydrogen yn effeithio arnynt.

Y datblygwr a ddylai fod yn gyfrifol am ddangos mai hydrogen yw'r dewis cywir, ei fod yn cyfrannu at ddatgarboneiddio tymor hir, a'i fod yn adeiladu economi gryfach, wyrddach.

Egwyddorion polisi allweddol 

Mae'r polisi a ffefrir gennym yn ceisio annog a, phan fo hynny'n briodol, gefnogi'r datblygiadau hynny sydd, o'u hystyried drwy gydol eu cylch bywyd, ar draws cadwyni cyflenwi, ac ar y cyd â thechnolegau a phrosesau eraill, yn darparu'r cyfraniadau mwyaf a chyflymaf at ddatgarboneiddio, ffyniant gwirioneddol ar gyfer Cymru, a phroses bontio deg.  

  • Nid yw'r polisi a ffefrir gennym yn rhagnodi technolegau, prosesau, dulliau cynhyrchu neu'r ffordd y dylai hydrogen gael ei ddefnyddio, a thrwy hynny mae'n rhoi'r hyblygrwydd ehangaf posibl i ddatblygwyr ddyfeisio dulliau arloesol o ymdrin â materion datgarboneiddio ynni a diwydiant Cymru.  
     
  • Ein dull polisi a ffefrir yw canolbwyntio ar ddwysedd allyriadau'r hydrogen yn ei gyfanrwydd, a'i gyfraniad at ffyniant drwy gydol cylch bywyd datblygiad, yn hytrach na chymeradwyo dulliau cynhyrchu penodol. Bydd hyn yn gofyn am dystiolaeth glir a chynlluniau ar gyfer newid i hydrogen carbon is, disodli tanwydd ffosil yn y gadwyn gyflenwi, mabwysiadu technolegau a phrosesau newydd, creu swyddi cynaliadwy newydd, a sicrhau proses bontio deg. Mae hyn yn darparu dulliau gwell ar gyfer mesur dymunoldeb datblygiad yn hytrach na'r dull cynhyrchu yn unig.
     
  • Er mwyn cydymffurfio â'r polisi bydd angen cynhyrchu hydrogen yn unol â Safon Hydrogen Carbon Isel y DU, sydd ar hyn o bryd yn mynnu dwyster allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n llai na neu'n cyfateb i 20 gram o garbon deuocsid cyfatebol fesul megajoule o gynnyrch Hydrogen (20.0g CO₂e / MJLHV).  Mae'r safon hon yn cael ei phennu gan Lywodraeth y DU, yn dilyn ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig, ac mae'n cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd.  Mae defnyddio safon dwysedd carbon, yn hytrach na rhagnodi technoleg neu brosesau, yn sicrhau bod pob cynnig yn cael ei fesur yn erbyn metrig cyson (a metrig sy'n caniatáu i ddatblygwyr gael mynediad at gymorth ariannol Llywodraeth y DU). 
     
  • Roedd y datganiad ym mis Tachwedd 2022 yn cydnabod, er mwyn cefnogi datgarboneiddio diwydiant yng Nghymru, efallai y bydd angen inni fynd drwy gyfnod o ddefnyddio hydrogen glas wedi'i gynhyrchu gan danwydd ffosil. Felly, byddai'r polisi a ffefrir gennym yn caniatáu ar gyfer defnyddio tanwydd ffosil mewn ffordd briodol a chyfyngedig i gynhyrchu hydrogen, ar yr amod y gellir dangos bod ei ddefnyddio'n cyfrannu at lwybr carlam tuag at hydrogen carbon isel (er enghraifft, drwy ddatblygu marchnadoedd ar gyfer hydrogen neu ddatblygu gweithlu medrus hanfodol).   
     
  • Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid hinsawdd yn unol â'r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio ym Mholisi Cynllunio Cymru; lleihau'r galw am ynni, defnyddio ynni yn effeithlon, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, lleihau effaith carbon sy'n deillio o fathau eraill o ynni, a lleihau echdynnu ynni carbon-dwys.
     
  • Prif amcan Polisi Cynllunio Cymru yw sicrhau bod y system gynllunio yn cyfrannu at gyflawni datblygiad cynaliadwy ac yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n canolbwyntio ar bobl a lleoedd a bydd yn sicrhau bod datblygiadau a gaiff eu hadeiladu heddiw yn gadael gwaddol o leoedd cynaliadwy sydd wedi’u dylunio’n dda ac sy’n gwella bywydau pobl.
     
  • Wrth arddangos pontio teg a chyfraniad at nodau llesiant, mae disgwyl i ddatblygwyr ystyried yn ofalus holl ofynion Polisi Cynllunio Cymru a’r holl bolisïau pwysig, er enghraifft: 
    •    Buddsoddi mewn datblygiadau a swyddi ym maes datgarboneiddio. 
    •    Sicrhau nad yw pontio teg yn niweidio’r amgylchedd, ond yn hytrach ei wella.
    •    Ystyried iechyd pobl a chymunedau. 
    •    Sicrhau nad yw llygredd ac allyriadau yn cael eu trosglwyddo i wledydd eraill. 
    •    Cyfrannu’n gadarnhaol at ddiwylliant Cymru, gan alluogi canlyniadau iechyd poisibl, cydlyniant cymunedol a thwf economaidd cynaliadwy (yn enwedig o fewn cymunedau gwledig). 

Rhoi'r polisi ar waith

Ein cynnig yw y byddai'r safbwynt polisi a ffefrir yn cael ei chyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig gweinidogol i'r Senedd. Yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, rydym yn bwriadu ystyried ymhellach y ffordd y gellid ymgorffori'r polisi o fewn rhifynnau Polisi Cynllunio Cymru a Chyllidebau Carbon Sero-Net Cymru yn y dyfodol, y system drwyddedu amgylcheddol a'r system drwyddedu ynni. Byddai hyn yn helpu i hysbysu datblygwyr, diwydiant, rheoleiddwyr perthnasol a'r cyhoedd am ein hamcanion polisi ar gyfer hydrogen yng Nghymru.

Byddai hyn yn sicrhau bod buddsoddiadau cyhoeddus a masnachol yn cael eu cyfeirio at y datblygiadau hynny sy'n darparu'r manteision lles a datgarboneiddio mwyaf ar gyfer Cymru a'i dinasyddion.

Byddai'r polisi yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ei rôl fel perchennog tir a darparwr cyllid buddsoddi a chymorth.  

Byddai hefyd yn sail i'n gwaith ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU a rheoleiddwyr ynghylch yr agweddau ar gynhyrchu, cludo, storio a defnyddio hydrogen y maent yn gyfrifol amdanynt.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cydnabod hierarchaeth ynni. Bydd y polisi hydrogen hwn yn rhoi cyd-destun ychwanegol ar gyfer datblygwyr sy'n ceisio caniatâd cynllunio ynghylch ble y gallai eu datblygiad hydrogen fod yn rhan o'r hierarchaeth hon, yn yr un modd â lle mae PCC yn disgwyl i bob datblygiad newydd liniaru achosion newid yn yr hinsawdd yn unol â'r hierarchaeth ynni ar gyfer cynllunio.

Pan fo hynny'n briodol, mae PCC yn trosi amcanion, strategaethau a pholisi ehangach Llywodraeth Cymru yn bolisi cynllunio. Bydd PCC yn parhau i gael ei fonitro a'i adolygu mewn perthynas ag amcanion, strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, a bydd yn cael ei ddiwygio pan fydd newidiadau i bolisi ar gynllunio defnyddio tir  yn gallu helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn.

Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi'i gynllunio i helpu Cymru i leihau allyriadau carbon. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol) hefyd yn sicrhau bod y system gynllunio yng Nghymru yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso twf glân a datgarboneiddio ac yn helpu i feithrin y gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd. Nodir bod cyflawni ein nodau datgarboneiddio strategol yn ffactor ysgogi allweddol y mae'n rhaid i bob cynllun datblygu ei gefnogi. 

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno â'r polisi a amlinellir yn y ddogfen hon? Os nad ydych, nodwch beth rydych yn anghytuno ag ef a'ch rhesymau dros anghytuno.

Cwestiwn 2: A ydych yn credu bod yr hierarchaeth ynni o fewn PCC yn ddigonol i hysbysu swyddogion cynllunio wrth ddatblygu a defnyddio hydrogen yng Nghymru? Os nad ydych, a ydych yn credu bod angen ei adlewyrchu'n fanylach o fewn PCC?

Cwestiwn 3: Pa fath o wybodaeth neu arweiniad ychwanegol priodol fyddai'n helpu i roi'r polisi hwn ar waith, ar gyfer datblygwyr, buddsoddwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau?

Cwestiwn 4: Pa fath o sefydliad ydych yn ateb ar ei ran e.e. cynhyrchu pŵer, defnyddiwr mawr y diwydiant, busnes bach neu ganolig, trafnidiaeth, y byd academaidd, ymgynghori, unigolyn? Rhowch enw'r sefydliad, pan fo hynny'n briodol 

Cwestiwn 5: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r 'Polisi hydrogen' yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai? Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a peidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 7: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny:

Sut i ymateb

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 16 Mai 2025, a gallwch ymateb yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Yr Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ.

Atodiad 1

Yr amserlen ar gyfer polisïau a datganiadau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio ynni

Er bod polisi ynni, i raddau helaeth, yn fater a gedwir yn ôl, mae llawer y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros y degawd diwethaf i newid i economi carbon isel. Mae hyn yn rhoi amlinelliad o esblygiad yr ymrwymiadau a pholisïau allweddol yng Nghymru sydd wedi hwyluso'r newid hwn.   

  • Y Rhaglen Lywodraethu 2007 i'r presennol
  • Amcanion llesiant
  • Datganiadau Polisi Penodol
  • Cyhoeddiadau Gweinidogol Allweddol 

Datganoli Deddfwriaethol 2007 i'r presennol: mae'r wefan hon yn rhoi trosolwg o sut mae pwerau deddfwriaethol wedi esblygu yng Nghymru 

Y Rhaglen Lywodraethu 

Mae Rhaglen Lywodraethu fel arfer yn cael ei chyhoeddi ar ddechrau'r Senedd, ac mae'n amlinellu'r strategaeth, y polisi a'r rhaglen ddeddfwriaethol a fydd yn cael eu datblygu a'u cyflwyno yn ystod y tymor Senedd hwnnw. 

Mae'r gwahanol Raglenni Llywodraethu o 2007 i'r presennol yn gwneud ymrwymiadau niferus a chyson i ddatgarboneiddio, gan gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy, a chyfyngu'n gynyddol ar y defnydd o danwydd ffosil. O 2016 ymlaen, yn dilyn cyflwyno Deddf Llesiant 2015, mae'r Rhaglenni Llywodraethu hefyd yn cynnwys amcanion llesiant. 

Cafodd Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 ei chyhoeddi'n wreiddiol ar 15 Mehefin 2021, a'i diweddaru ar 7 Rhagfyr 2021. Mae Rhaglen Llywodraethu 2021 i 2026 yn cynnwys dau faes strategol sy'n berthnasol i bolisi ynni:

Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud cymaint o gynnydd ag y bo modd tuag at ddatgarboneiddio

  • Lansio Cynllun Buddsoddi deng mlynedd newydd yn Seilwaith Cymru ar gyfer economi ddi-garbon.

Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

  • Comisiynu cyngor annibynnol a fydd yn ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035
  • Mynd ar drywydd datganoli’r pwerau sydd eu hangen i’n helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystad y Goron yng Nghymru
  • Cynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio am danwydd ffosil yng Nghymru, ar dir ac yn nyfroedd Cymru, gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael inni

Cyhoeddiadau Polisi 

2010 

Chwyldro Carbon Isel – Datganiad Polisi Ynni Llywodraeth Cynulliad Cymru (Mawrth 2010) 
Yn ôl Rhagair y Cabinet ar gyfer Datganiad Polisi Ynni 2010, newid yn yr hinsawdd yn benodol yw'r her amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol fwyaf sy'n wynebu'r blaned.

2012 

Ynni Cymru – Newid Carbon Isel
Yn ôl Rhagair y Prif Weinidog ar gyfer Datganiad Polisi Ynni Cymru 2012 mae 'ynni yn fater sy'n diffinio ein cenhedlaeth'. Fel cenedl, mae gennym lawer o adnoddau ynni sy'n rhoi cyfle gwych i ysgogi ein hymgyrch dros Gymru decach a mwy ffyniannus. Bydd Llywodraeth Cymru yn harneisio ein potensial ynni mewn ffordd sy'n creu economi gynaliadwy, carbon isel i Gymru, wrth inni wynebu'r heriau mawr sy'n deillio o'r newid yn yr hinsawdd a diogelwch ynni. 

Trosglwyddo i ynni carbon isel a rôl nwy
Roedd Datganiad Polisi Ynni Cymru 2012 yn amlinellu dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o'r broses o newid i economi carbon isel.

2014 

Ynni Cymru: cynllun cyflawni carbon isel 
Amlinellodd Cynllun Cyflawni 2014 sut y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu'r cynigion a nodir yng Nghynllun Cyflawni Ynni Cymru: Newid Carbon Isel, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth  2012.

2018 

Polisi Petrolewm (10 Rhagfyr 2018)
Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Polisi ar Echdynnu Petrolewm 2018 (10 Rhagfyr 2018)
Roedd Deddf Cymru 2017 yn gam pwysig wrth drosglwyddo rhagor o reolaeth i Weinidogion Cymru ar gyfer cydsynio i brosiectau ynni yng Nghymru, gan gynnwys trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yn y dyfodol. Roedd y pwerau newydd yn gyfle i ystyried cydbwysedd priodol ffynonellau ynni yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.

2021 

Datganiad Polisi Glo (22 Mawrth 2021)
Polisi Llywodraeth Cymru yw cefnu, mewn ffordd drefnus, ar gloddio am lo a defnyddio glo. Felly, nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymeradwyo trwyddedau newydd gan yr Awdurdod Glo i gloddio am lo, nac ychwaith newidiadau i drwyddedau sy’n bodoli eisoes. Efallai y bydd angen trwyddedau glo o dan amgylchiadau cwbl eithriadol a phenderfynir ar bob cais yn ôl ei rinweddau ei hun, ond bydd y rhagdybiaeth bob amser yn erbyn codi glo.

Datganiadau'r Cyfarfod Llawn

2016 

Datganiad Cyfarfod Llawn: Y Bumed Senedd  

Datganiad gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod wedi ymrwymo i'r uchelgeisiau a nodir yn ‘Ynni Cymru’. Mae gen i dair blaenoriaeth glir ar gyfer y Cynulliad hwn. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail, byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli'r broses o newid i economi carbon isel. Byddwn yn llywio’r newid hwn i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol, a lleihau ansicrwydd. Mae'n rhaid inni barhau i dyfu’r economi ar yr un pryd â lleihau allyriadau a rheoli fforddiadwyedd.  Byddaf yn sicrhau bod ein polisïau a'n cymorth yn cyd-fynd â'i gilydd a’u bod yn gweithio tuag at gyflwyno system ynni carbon isel ar gyfer Cymru.

2020 

Datganiad Llawn: trosglwyddo o danwydd ffosil i system ynni sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy

Datganiad gan Julie James AC, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

Er bod negeseuon gan Lywodraeth y DU wedi bod yn ddryslyd ac yn anghyson, rydym wedi bod yn glir ac yn gyson. Byddwn yn cadw tanwydd ffosil yn y ddaear, a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael inni er mwyn dod ag echdynnu tanwydd ffosil i ben yng Nghymru yn raddol. Byddwn ni'n adeiladu system ynni hyblyg, clyfar, adnewyddadwy sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy. A byddwn ni'n sicrhau bod ein haelwydydd, ein busnesau a'n cymunedau yn elwa ar y pontio gyda rhagor o ddiogelwch ynni a llai o berygl i gwsmeriaid fod yn agored i brisiau byd-eang tanwydd ffosil. 

2023 

Cyhoeddwyd y Fframwaith Pontio Teg ar sut i sicrhau sero-net mewn ffordd deg.

2024 

Amlinellodd y Strategaeth Gwres i Gymru sut y byddem yn trosglwyddo i Wres Carbon Isel.

Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y maent yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Sail gyfreithiol prosesu gwybodaeth a gesglir yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus; sef arfer ein hawdurdod swyddogol i gynnal rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb yr anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu gan staff a fydd yn cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal rhagor o ddadansoddiadau o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’i gadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac o'r ffaith y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn yr ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru fel arall yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael ei gadw amdanoch chi, a'i weld
  • i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i ofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • yr hawl i gludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod: 

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ.
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Manylion cyswllt

Rhagor o wybodaeth:
Yr Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ.
E-bost: ymatebionynni-energyresponses@llyw.cymru

Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd. This document is also available in English.