Neidio i'r prif gynnwy

Ynghylch y ddogfen hon

Hanes fersiwn
Fersiwn Newid Dyddiad
1.0 Cwblhawyd y fersiwn gyntaf 14 Hydref 2015
1.1 Diweddarwyd yn dilyn cyfarfod cychwynnol Pwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru 17 Rhagfyr 2015
1.2 Egluro a chyd-destun ychwanegol 10 Mawrth 2016
1.3 Ychwanegu’r ISBN a thestun amgen i’r tablau 18 Ebrill 2016
1.4 Newidiwyd y gofynion ynghylch yr ôl-ddodiaid (paragraff 5) Cael gwared ar y gofyniad i adael enw parth .gov.uk o fewn 3 blynedd o fabwysiadu Parth Ail Lefel Cymru (paragraff 4.m) Diweddaru’r tabl aelodau (paragraff 2) Cynnwys atodiad o sefydliadau sydd angen dynodydd daearyddol (Atodiad A) 10 Ionawr 2017
1.5 Wedi ychwanegu DMARC i’r amodau defnydd 16 Hydref 2017
1.6 Newid aelodaeth ym Mhwyllgor Enwi a Chymeradwyo Cymru 08 Mawrth 2018
1.7 Tectun ychwanegol ynghylch polisi rheoli digwyddiadau  29 Ebrill 2020

Beth sydd dan sylw yn y ddogfen hon?

Mae'r canllawiau hyn yn nodi prosesau ac egwyddorion llywodraethu ar gyfer gofodau enw parth .llyw.cymru a .gov.wales.  

ISBN: 978-1-4734-6656-2 

Ar gyfer pwy mae'r ddogfen hon?

  • sefydliadau sydd am wneud cais am enw parth .llyw.cymru neu .gov.wales
  • sefydliadau sy'n gyfrifol am reoli gwasanaethau sy'n defnyddio enw parth .llyw.cymru neu .gov.wales

Noder: Dylai staff Llywodraeth Cymru gyfeirio at Polisi enwau parth ar gyfer gwefannau a gwasanaethau ar-lein Llywodraeth Cymru.

Noder: Ni ddylech ddefnyddio enw parth .llyw.cymru na .gov.wales, er enghraifft, ar ddeunydd hyrwyddo, nes y caiff ei gymeradwyo gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru. Ni fydd y Pwyllgor hwn yn gyfrifol am unrhyw gostau yr eir iddynt gan sefydliadau sy'n methu â dilyn y canllawiau hyn.

Noder: Dylai Cynghorau Cymuned a Thref hefyd gyfeirio at Ganllawiau Statudol Llywodraeth Cymru - Mynediad i Wybodaeth am Gynghorau Cymuned a Thref.

Strwythur parthau a rheoli parthau

Mae'r system fyd-eang ar gyfer enwau parth rhyngrwyd yn bodoli er mwyn gwneud gwasanaethau rhyngrwyd yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr cyffredin. Mae Llywodraeth Cymru wedi noddi'r gwaith o greu'r parthau lefel uchaf (PLUau) .cymru a .wales.

O fewn y PLUau hyn, mae dau Barth Ail Lefel wedi'u cadw at ddefnydd y sector cyhoeddus:.llyw.cymru a .gov.wales. Mae'r Parthau Ail Lefel yn cefnogi'r set nodau Cymraeg ac maent yn barthau ‘caeedig’: caiff eu defnydd ei gyfyngu i sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr fod y gwasanaeth yn cael ei redeg gan sefydliad sy'n atebol i'r cyhoedd y gallant ei adnabod a chysylltu ag ef all-lein.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gyfyngu ar nifer ac amrywiaeth ei gwefannau, a’u dwyn ynghyd ar .llyw.cymru / .gov.wales. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ei gwybodaeth a’i gwasanaethau, ac yn cryfhau ei hunaniaeth ar-lein. Er bod llywodraeth leol, i raddau helaeth, yn gweithredu ar wahân ac nad yw’n rhan o’r broses hon, mae’r un egwyddorion yn berthnasol ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y polisi hwn. Felly, i gadw nifer y parthau dan reolaeth, dyrennir enwau parth i sefydliadau llywodraeth leol, nid i ymgyrchoedd neu fentrau masnachu lleol.

Caiff sefydliadau cymwys yn y sector cyhoeddus yng Nghymru eu hannog yn gryf i fabwysiadu enwau parth Ail Lefel, a reolir gan Lywodraeth Cymru drwy Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru a Jisc Services Ltd (JSL).

Pwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru a Jisc Services Ltd

Bydd Pwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru yn asesu ceisiadau yn erbyn y meini prawf a nodir yn y canllawiau hyn ac mae'n gyfrifol am y canlynol: 

  • cymeradwyo neu wrthod ceisiadau am enwau parth
  • cymeradwyo neu wrthod ceisiadau i addasu enwau parth
  • ystyried apeliadau yn erbyn y penderfyniadau uchod 

Mae Pwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru yn gweithredu ar ffurf rithwir ac yn cwrdd unwaith y flwyddyn i adolygu'r canllawiau ac i drafod unrhyw faterion cysylltiedig sy'n codi.  

Enw O Yn cynrychioli
Simon Matthews Cadeirydd y Pwyllgor Tîm Digidol Corfforaethol Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru
Aeddan Davies Tîm Digidol Corfforaethol Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru
Kathryn Jenkins Pennaeth Diogelwch Gwybodaeth Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru
Ben Chapman JSL JSL
Daniel Hurford CLILC Awdurdodau lleol
Jason Taylor Cyngor Ceredigion Awdurdodau lleol
Andrew Evans Cyngor Ceredigion Awdurdodau lleol

Jisc Services Ltd (JSL) sy'n gweinyddu'r Parthau Ail Lefel .llyw.cymru a .gov.wales. ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu systemau gwneud cais, apelio, cofrestru, addasu a dileu enw parth. Mae JSL yn gwmni nid er elw sydd hefyd yn gweinyddu'r Parth Ail Lefel .gov.uk ar ran Llywodraeth y DU.

Cymhwysedd

Yn ogystal â Llywodraeth Cymru, dim ond y mathau canlynol o sefydliadau sector cyhoeddus sy'n gymwys i wneud cais am barthau .llyw.cymru a .gov.wales:

  • Asiantaethau ac adrannau anweinidogol Llywodraeth Cymru
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (gweithredol, cynghorol a thribiwnlys)
  • Comisiynau ac ymchwiliadau Llywodraeth Cymru
  • Is-gwmnïau o dan berchenogaeth lwyr Llywodraeth Cymru
  • Arolygiaethau
  • Deiliaid swyddi statudol annibynnol
  • Cyrff cenedlaethol nas cwmpasir fel arall
  • Awdurdodau unedol
  • Cynghorau cymuned a thref
  • Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau ar y cyd, cydbwyllgorau a chyrff partneriaeth sy'n cynnwys un neu fwy o'r uchod. Fel arfer, dim ond i bartneriaethau sydd â statws cyfreithiol drwy eu hawl eu hunain y rhoddir enwau .llyw.cymru a .gov.wlaes. Yr opsiwn cyntaf i bartneriaethau bob amser ddylai fod i ddefnyddio tudalennau ar y we sy’n perthyn i un o’r cyrff partneriaeth.

Amodau defnydd

Unwaith y caiff parthau ac is-barthau .llyw.cymru a .gov.wales. eu cymeradwyo a'u gwneud yn fyw, rhaid iddynt gydymffurfio â'r amodau defnydd canlynol.

  • Rhaid i wasanaethau sy'n defnyddio enwau parth .llyw.cymru neu .gov.wales gydymffurfio â deddfwriaeth bresennol Cymru, y DU ac Ewrop, gan gynnwys Hawlfraint, Mesur y Gymraeg y Ddeddf Diogelu Data, a'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.
  • Rhaid i wasanaethau sy'n defnyddio .llyw.cymru neu .gov.wales allu gwrthsefyll bygythiadau i ddiogelwch nawr ac yn y dyfodol. Dylai sefydliadau gymryd camau rhesymol a chymesur sy'n rhoi sicrwydd i'w hunain o ran diogelwch. Er enghraifft, gallai awdurdod unedol fuddsoddi mewn profion Archwiliad Iechyd TG blynyddol a gallai cyngor cymuned ofyn am sicrwydd gan y cwmni sy'n lletya ei wefan. Os canfyddir bod gwasanaeth .llyw.cymru neu .gov.wales wedi'i danseilio, rhaid dilyn polisi rheoli digwyddiad y sefydliad a bydd JSL neu'r gweinyddwr System Enwi Parthau perthnasol yn cael ei gyfarwyddo i gyfeirio'r parth neu'r is-barth dan sylw at dudalen lanio ddiogel tra eir i'r afael â'r materion diogelwch.
  • Rhaid i wasanaethau sy'n defnyddio .llyw.cymru neu .gov.wales allu gwrthsefyll bygythiadau i ddiogelwch nawr ac yn y dyfodol. Dylai sefydliadau gymryd camau rhesymol a chymesur sy'n rhoi sicrwydd i'w hunain o ran diogelwch. Er enghraifft, gallai awdurdod unedol fuddsoddi mewn profion Archwiliad Iechyd TG blynyddol a gallai cyngor cymuned ofyn am sicrwydd gan y cwmni sy'n lletya ei wefan. Os canfyddir bod gwasanaeth .llyw.cymru neu .gov.wales wedi'i danseilio, yna bydd JSL neu'r gweinyddwr System Enwi Parthau perthnasol yn cael ei gyfarwyddo i gyfeirio'r parth neu'r is-barth dan sylw at dudalen lanio ddiogel tra eir i'r afael â'r materion diogelwch.
  • Rhaid i'r enw parth fod at ddefnydd penodol ac unigryw sefydliad y cafodd ei gofrestru ar ei gyfer.
  • Rhaid i'r enw parth fod yn brif enw parth y sefydliad ar gyfer ei wefan a’i e-bost. Ni ddylai ddatrys nac ailgyfeirio at hafan gwasanaeth lletya, unrhyw asiant neu dudalen arall ar barth .gov.uk neu barth nad yw'n un sector cyhoeddus. Bydd ceisiadau am ddim ond e-bost yn cael eu caniatáu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.
  • Dylai pob sefydliad cymwys ddefnyddio un enw parth .llyw.cymru a .gov.wales yn unig.
  • Os bydd sefydliad wedi gosod gwasanaeth ar gontract i drydydd parti, dylai'r gwasanaeth hwnnw barhau i fod ar gael fel rhan o barth .llyw.cymru a / neu .gov.wales y sefydliad. Mae hyn yn anfon neges mai'r sefydliad sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn ac yn atebol drosto, hyd yn oed pan fydd rhywun arall yn ei ddarparu.
  • Dylid caffael parthau cyfatebol nad ydynt yn rhai sector cyhoeddus (.co.uk, .cymru, .org.uk ac ati) at ddibenion amddiffynnol yn unig. Fodd bynnag, mae defnyddio .llyw.cymru a .gov.wales yn lleihau’r angen i gofrestru parthau o’r fath at ddibenion amddiffynnol ac argymhellwn y dylid ystyried yn ofalus a oes eu hangen. Pe byddech yn dewis cofrestru unrhyw barthau at ddibenion amddiffynnol, ni ddylid eu cyfeirio at unrhyw wasanaeth sy'n cael ei letya ar barth .llyw.cymru neu .gov.wales, rhaid iddynt fod heb eu datrys.
  • Ni ddylid hysbysebu na marchnata is-barthau. Yn hytrach, rhaid defnyddio is-ffolder o'r prif barth, a all ailgyfeirio at yr is-barth. Er enghraifft, bydd yr enw  parth “X.llyw.cymru/cronfaddata” a hysbysebir yn ailgyfeirio at “cronfaddata.X.llyw.cymru”.
  • Mae'n dderbyniol, ac yn ddymunol efallai gan rai sefydliadau, i hepgor yr www at ddibenion marchnata e.e. “Ewch i X.llyw.cymru am ragor o wybodaeth”. Fodd bynnag, rhaid i'r enw parth gydag www o'i flaen (www.X.llyw.cymru) weithio fel cyfeiriad. Dylid defnyddio'r ffurf gydag www fel y dewis Ddynodydd Adnodd Unigryw (URI) a'i dyfynnu fel dolenni mewn dogfennau swyddogol.
  • Mae cymeradwyaeth y Pwyllgor yn amodol ar statws y sefydliad. Os bydd hyn yn newid ar ôl i gymeradwyaeth gael ei rhoi, yna mae'n rhaid i'r sefydliad roi gwybod i JSL. Os daw sefydliad yn anghymwys, efallai y gellir cytuno i roi cyfnod gras o hyd at 90 diwrnod er mwyn trosglwyddo i barth newydd.
  • Os caiff sefydliad ei ddisodli gan sefydliad arall, neu os bydd yn uno â sefydliad arall, rhaid iddo roi gwybod i'r Pwyllgor am y dyddiad newid. Disgwylir y caiff parth yr hen sefydliad ei gau i lawr o fewn chwe mis i'r dyddiad y cymerodd y sefydliad newydd ei bwerau a'i ddyletswyddau statudol.
  • Mae cymeradwyaeth gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru yn golygu mai'r sefydliad a wnaeth y cais yn unig sydd â'r hawl i ddefnyddio’r enw parth, ond nid yw'n llwyr berchen arno.
  • Os bydd sefydliad sy'n gwneud cais eisoes yn defnyddio enw parth heblaw am .llyw.cymru neu .gov.wales yna, o fewn mis i gymeradwyaeth gan y Pwyllgor, rhaid i'r enw parth blaenorol hwn ailgyfeirio’n barhaus at yr enw parth .llyw.cymru a/neu .gov.wales newydd. Bydd JSL yn cynnal unrhyw enw parth .gov.uk yn barhaol os oes modd cyfiawhau ei gadw oherwydd llif traffig uchel neu ystyriaethau brandio.
  • Rhaid i’r person cyswllt a enwir ar y ffurflen fod yn swyddog yn y sefydliad sy’n gwneud cais am y parth. (yn achos cynghorau tref a phlwyf, y clerc fydd y person cyswllt.). Er mwyn sicrhau amhleidioldeb gwleidyddol, ni cheir enwi aelod etholedig fel y person cyswllt. Chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i Jisc ar unwaith os bydd y manylion cyswllt yn newid o gwbl.
  • Argymhellir y dylai rheolwyr enwau parth .llyw.cymru a .gov.cymru unigol sefydlu a chadw cyfeiriad e-bost generig ar gyfer tîm y wefan, er enghraifft, timgwe@X.gov.uk neu postfeistr@X.gov.uk
  • Bydd yn rhaid i wefannau sy'n defnyddio enwau parth .llyw.cymru neu .gov.wales ddefnyddio cod sy'n cydymffurfio â safonau W3C.
  • Un amod o ddefnyddio parth is . gov.wales neu llyw.cymru yw eich bod yn gosod ac yn cynnal DMARC drwy greu a chynnal cofnodion TXT angenrheidiol yn eich DNS.

Os na fydd sefydliad yn parchu'r amodau hyn, bydd y Pwyllgor yn gweithio'r gyda'r sefydliad i unioni'r sefyllfa. Ystyrir bod methu â gweithredu'r datrysiad yn barhaus yn gyfystyr â thorri'r telerau, ac mae dwy gosb y gall Pwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru eu defnyddio:

  • Gwaharddiad: Os parheir i dorri telerau ar ôl 90 diwrnod, gellir diffodd y System Enwi Parthau ar gyfer y parth. Dim ond pan gaiff yr achos o dorri telerau ei ddatrys y caiff y parth ei adfer.
  • Tynnu'n ôl: Os bydd achos o dorri telerau difrifol neu barhaus, yna bydd y System Enwi Parthau ar gyfer y parth yn cael ei dileu. Er mwyn adfer y System Enwi Parthau, bydd yn rhaid i'r sefydliad wneud cais o'r newydd.

Egwyddorion a chonfensiynau enwi

Dylai enwau parth wneud y canlynol:

  • Adlewyrchu enw cyfreithiol neu enw masnachu cofrestredig y sefydliad sy'n gwneud cais
  • Lleihau'r risg o gymysgu rhwng enwau cofrestredig, sefydliadau, enwau masnachu neu nodau masnach eraill
  • Sicrhau eglurder ynghylch cylch gwaith daearyddol sefydliad h.y. ni ddylai cyrff rhanbarthol awgrymu bod ganddynt gwmpas cenedlaethol. Caniateir cwtogi’r enw cyn belled â’i fod yn rhoi syniad clir o’r lleoliad (e.e. caiff Llansanffraid Glan Conwy ddefnyddio glanconwy-cc).
  • Osgoi'r risg o ffugio anfwriadol
  • Bod mor fyr, syml a hawdd ei ynganu â phosibl. Os yw enw sefydliad yn cynnwys geiriau a ddefnyddir yn aml, megis arddodiaid neu gysyllteiriau, gellir hepgor y rhain i’w symleiddio (e.e. caiff Nant-y-glo a Blaenau ddefnyddio nantygloblaenau-cc).

Rhaid i enwau parth wneud y canlynol:

  • Cynnwys nodau alffaniwmerig (a-z) a rhifau (0-9) ASCII yn unig, er gellir caniatáu eithriadau ar gyfer nodau Cymraeg (e.e. â ac ŷ)
  • Cynnwys o leiaf dri nod
  • Peidio â gwrthdaro â phrotocolau'r rhyngrwyd fel www, ftp, dns, whois
  • Peidio â chynnwys acronymau na thalfyriadau oni bai y gellir dangos bod dealltwriaeth gyffredin o'u hystyr
  • Peidio â chynnwys mwy na 64 o nodau 

Nid oes angen mwyach i enwau parth gynnwys 'cymru' ac ati gan fod y cwmpas daearyddol yn amlwg yn y Parthau Ail Lefel .llyw.cymru a .gov.wales. 

Ôl-ddodiaid

Rhaid i awdurdodau unedol ddefnyddio'r fformat ‘ardal.llyw.cymru’ e.e. sirgar.llyw.cymru. Rhaid i Gynghorau Dinas ddefnyddio eu henw llawn, er enghraifft cyngordinasbangor.llyw.cymru. Caiff cyrff cymwys eraill ddewis rhwng defnyddio eu henw llawn neu ôl-ddodiad ond rhaid iddynt arddel yr un penderfyniad yn Gymraeg a Saesneg. Nid oes angen i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddefnyddio ôl-ddodiad.

Enghreifftiau:

  • cyngorcymunedllansadwrn.llyw.cymru neu llansadwrn-cc.llyw.cymru
  • barrytowncouncil.gov.wales neu barry-tc.gov.wales
  • eryri.llyw.cymru
  • northwalesfireservice.gov.wales neu northwales-fire.gov.wales

Os bydd trefi neu gymunedau mewn gwahanol rannau o Gymru yn rhannu'r un enw, rhaid i'r enw parth gadarnhau lleoliad y sefydliad. Mae’r sefydliadau sy’n cael eu heffeithio gan hyn i’w gweld yn
Atodiad A. Er enghraifft:

  • argoed-caerffili-cc.llyw.cymru
  • argoed-siryfflint-cc.llyw.cymru

Os bydd sefydliad yn penderfynu rhannu gwefan â sefydliadau eraill yn ei ardal, dylai'r enw parth adlewyrchu cyd-destun daearyddol y sefydliadau dan sylw. Er enghraifft, byddai cynghorau cymuned ym Mhenllyn sy'n rhannu gwefan yn defnyddio'r enw parth “cymunedaupenllyn.llyw.cymru”. 

Gwneud cais i ddefnyddio enw parth

Dewis cofrestrydd parthau a gymeradwywyd

Mae gan JSL gontractau cymorth gydag amrywiaeth o gofrestrwyr parthau. Dim ond cofrestrwyr a gefnogir o'r fath all wneud cais am enw parth .llyw.cymru neu .gov.wales. Os nad yw cofrestrydd presennol sefydliad wedi'i gefnogi, bydd JSL yn barod i wneud trefniadau cymorth er mwyn galluogi cais o'r fath. Rhaid i gofrestrydd parthau gysylltu â JSL yn uniongyrchol i roi hyn ar waith.

Ceir manylion am gynllun cofrestrwyr a gymeradwywyd JSL a rhestr o gofrestrwyr ar wefan JSL (yn Saesneg yn unig).

Y broses gwneud cais

Rhaid i bob sefydliad ddilyn y broses hon wrth wneud cais am barth .llyw.cymru neu .gov.wales:

  • bydd cofrestrydd parthau'r sefydliad yn cyflwyno cais i JSL drwy'r ffurflen ar-lein
  • bydd JSL yn trosglwyddo’r cais i Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru 
  • bydd y Pwyllgor yn asesu'r cais ac yn ymateb i JSL o fewn deg diwrnod gwaith
  • JSL yn rhoi gwybod i'r cofrestrydd parthau ynglŷn â'r penderfyniad
  • os caiff ei gymeradwyo, ac yn amodol ar daliad, bydd JSL yn cofrestru'r enw parth ar ran y sefydliad
  • os caiff ei wrthod, bydd JSL yn rhoi gwybod i'r sefydliad beth oedd rhesymau'r Pwyllgor

Mae'r broses hon hefyd yn gymwys i geisiadau am enwau parth, addasiadau i enwau parth a dileu enwau parth.

Darbwyllir peidio â defnyddio enwau parth .llyw.cymru a .gov.wales at ddibenion marchnata a chyflwyno gwasanaethau byrdymor nad ydynt yn rhai craidd Bydd y Pwyllgor yn asesu ceisiadau ar sail achosion unigol.

Rhoi gwybod i Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru bod gwasanaeth yn fyw

Pan fydd y gwasanaeth yn fyw, rhaid i'r sefydliad roi gwybod i'r Pwyllgor yn uniongyrchol drwy anfon e-bost (digital@llyw.cymru) yn cadarnhau’r canlynol:

  • URL .llyw.cymru a / neu .gov.wales hafan y gwasanaeth
  • y dyddiad yr aeth yn fyw fel gwefan gyhoeddus
  • bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â'r holl amodau defnydd a nodir uchod, ac y bydd yn parhau i gydymffurfio a hwy

Talu am y gwasanaeth

Mae'r swm sy'n ddyledus wedi'i gyhoeddi ar wefan JSL. Mae'r ffi gychwynnol yn talu am y ddwy flynedd gyntaf, ac ar ôl hynny bydd ffi adnewyddu yn daladwy am bob cyfnod dwy flynedd dilynol.

Bydd cofrestrwyr parthau, drwy ymuno â Chyfrif Aelodaeth ISP a Gymeradwywyd JSL, yn cytuno i dderbyn cyfrifoldeb am dalu eu hanfonebau JSL yn amserol. Os na wneir taliadau o fewn 60
diwrnod i ddyddiad yr anfoneb, mae JSL yn cadw'r hawl i atal yr enw parth ac, o fewn 30 diwrnod arall, i dynnu'r enw parth yn ôl.

Lle bo'r cofrestrydd wedi nodi nad yw'n barod i gymryd cyfrifoldeb am y taliad adnewyddu, yna o fewn 60 diwrnod bydd JSL yn atal yr enw parth ac yn cymryd camau rhesymol i gysylltu â'r sefydliad am gyfarwyddiadau ynglŷn â ffordd ymlaen. Os bydd hyn hefyd yn aflwyddiannus, yna o fewn 30 diwrnod arall bydd JSL yn tynnu'r enw parth yn ôl.

Adnewyddu'r gwasanaeth

Bydd JSL yn cysylltu â'r cofrestrydd enwau parth cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd i bennu a yw'r sefydliad yn dymuno adnewyddu am ddwy flynedd arall. Tybir y bydd sefydliadau yn dymuno adnewyddu a chadarnhau eu hadnewyddiad yn brydlon. Bydd JSL yn ceisio cadarnhad i adnewyddu ddwywaith yn ystod cyfnod o 90 diwrnod. Os na cheir cadarnhad, yna bydd JSL yn tynnu'r enw parth yn ôl.

Apeliadau

Mae gan sefydliad yr hawl i apelio yn erbyn gwrthodiad gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru, ond rhaid iddo wneud hynny o fewn deg diwrnod gwaith i gael y penderfyniad. Nid yw methu â sicrhau cymeradwyaeth gan y Pwyllgor cyn argraffu deunydd ysgrifennu neu ddeunydd cyhoeddusrwydd yn sail ar gyfer apelio.

Mae'r broses apelio fel a ganlyn:

  • bydd sefydliad yn rhoi gwybodaeth newydd i'w gofrestrydd parthau sy'n mynd i'r afael â rhesymau'r dros wrthod
  • bydd y cofrestrydd parthau yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i JSL, sy'n ei rhannu gyda'r Pwyllgor
  • bydd y Pwyllgor yn asesu'r wybodaeth newydd ac yn ymateb i JSL gyda phenderfyniad o fewn deg diwrnod gwaith
  • bydd JSL yn rhoi gwybod i'r cofrestrydd parthau ynglŷn â'r penderfyniad 
  • os caiff ei gymeradwyo, ac yn amodol ar daliad, bydd JSL yn cofrestru'r enw parth ar ran y sefydliad
  • os caiff ei wrthod, ni fydd y Pwyllgor yn gwrando ail apêl 

Is-barthau ac is-ffolderi

Darbwyllir peidio â defnyddio parthau pedwaredd a phumed lefel (is-barthau) yn gryf ac ni ddylid eu defnyddio dim ond er mwyn lletya cynnwys amgen neu i rannu gwefan yn ôl ardal gynnwys.
Dylid ond defnyddio is-barthau ar gyfer:

  • safleoedd mewnrwyd corfforaethol sy'n cario traffig mewnol y unig
  • safleoedd allrwyd corfforaethol sydd â chyfrinair ac sydd wedi'u hanelu'n at randdeiliaid penodol, a ddefnyddir fel arfer i gyfnewid data preifat
  • datblygu neu brofi systemau nad ydynt yn gyfeiriadwy yn gyhoeddus
  • elfen neu wasanaeth gwe sydd angen ei gyfeirio at ddatrysiad trydydd parti na ellir ei integreiddio'n lleol e.e. datrysiad cronfa ddata

Cofrestru amddiffynnol

Dylai sefydliadau ystyried caffael enwau parth masnachol cysylltiedig fel .com, .cymru, a .org.uk er mwyn lleihau'r risg o ddefnyddiwr yn drysu drwy:

  • deipiosgwatio (enwau parth wedi'u camsillafu'n fwriadol)
  • seibrsgwatio (cofrestru enwau parth tebyg yn annidwyll)
  • difenwi seibr (creu gwefan er mwyn cyfleu gwybodaeth dwyllodrus, anwir neu ddifrïol)

Ni ddylid cyfeirio parthau a gofrestrwyd at ddibenion amddiffynol at unrhyw barth .llyw.cymru neu .gov.wales, rhaid iddynt fod heb eu datrys.

Nid oes angen i sefydliadau gofrestru unrhyw enwau parth .llyw.cymru neu .gov.wales eraill at ddibenion amddiffynol gan fod gan Bwyllgor Enwi a Chymeradwyaethau Cymru reolaeth lwyr dros eu defnydd.

Gwneud newidiadau i enw parth neu ei ganslo

Er mwyn gwneud newidiadau i enw parth, mae'n rhaid i sefydliad ofyn i'w gofrestrydd parthau gysylltu â JSL drwy'r ffurflenni perthnasol ar ei wefan. Yn ogystal, rhaid i sefydliadau anfon llythyr â llofnod ar bapur pennawd drwy ffacs neu e-bost i JSL yn awdurdodi'r newidiadau ar 0300 300 2213 neu naming-admin@ja.net.

I ganslo enw parth, rhaid i sefydliad ofyn i'w gofrestrydd parthau e-bostio JSL ar namingadmin@ja.net. Yn ogystal, rhaid i sefydliadau anfon llythyr drwy ffacs neu e-bost i JSL yn awdurdodi'r canslo ar 0300 300 2213 neu naming-admin@ja.net

Atodiad A: Sefydliadau sydd angen dynodydd daearyddol

Cyngor Cymuned Argoed – Caerffili
Cyngor Cymuned Argoed – Sir y Fflint

Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr – Powys
Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr – Ceredigion

Cyngor Cymdeithas Llanfair – Gwynedd
Cyngor Cymuned Llanfair – Bro Morgannwg

Cyngor Cymuned Llanfynydd – Sir Gaerfyrddin
Cyngor Cymuned Llanfynydd – Sir y Fflint

Cyngor Cymuned Llangwm – Sir Fynwy
Cyngor Cymuned Llangwm – Sir Benfro
Cyngor Cymuned Llangwm – Conwy

Cyngor Cymuned Llangynog – Sir Gaerfyrddin
Cyngor Cymuned Llangynog – Powys 

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 137 KB.

Maint Ffeil 137 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.