Poblogaeth a gweithlu clwstwr practisau cyffredinol a gofal sylfaenol yn ôl amddifadedd: ar 31 Rhagfyr 2021
Erthygl yn crynhoi sut gellir mesur amddifadedd yn y maes gofal sylfaenol a sut mae'r gweithlu'n wahanol yn ôl lefel amddifadedd cymharol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Yng Nghymru, poblogaeth gyfartalog (gymedrig) practisau cyffredinol yw 8,300, ond mae hyn yn amrywio o 1,400 yn y practis lleiaf i 24,800 yn y practis meddygon teulu mwyaf. Ar gyfartaledd, mae gan bob practis cyffredinol gleifion sydd wedi'u cofrestru gydag ef o 58 o wahanol ardal cynnyrch ehangach haen is (ACEHI). Mae hyn yn amrywio o 7 ACEHI yn y boblogaeth leiaf gwasgaredig o bractisau i 195 ACEHI yn y boblogaeth fwyaf gwasgaredig mewn practisau. Er bod llawer o gleifion yn byw yn agos at eu practis cyffredinol, mae gan y rhan fwyaf o bractisau gleifion sy'n byw mewn amrywiaeth eang o ardaloedd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd mesur amddifadedd yn gywir ar lefel practis cyffredinol a chlwstwr gofal sylfaenol, gan nad yw'r rhain yn ffiniau daearyddol manwl.
Diben yr erthygl hon yw darparu opsiynau ar gyfer dadansoddi amddifadedd cymharol y boblogaeth sydd wedi'i chofrestru ym mhob practis cyffredinol a chlwstwr gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae'r dadansoddiad yn cael ei ymestyn i ddangos sut mae gweithlu practisau cyffredinol (cyfwerth ag amser llawn) yn wahanol yn ôl amddifadedd cymharol y boblogaeth yng Nghymru.
Crynodeb o'r dull
Cafodd yr ACEHI preswyl o gleifion sydd wedi’u cofrestru i bob practis cyffredinol eu paru â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 i gyfrif nifer y cleifion sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHI fel y'u pennwyd gan eu safle MALlC. Yna, roedd practisau cyffredinol yn cael eu graddio ar sail dau ddull mesur er mwyn amcangyfrif amddifadedd ar lefel practis cyffredinol a chlwstwr gofal sylfaenol.
- Nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru â'r practis cyffredinol/clwstwr sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- Canran poblogaeth pob practis cyffredinol/clwstwr sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Sylwer fod MALlC yn fesuriad sy'n seiliedig ar ardal ac nid yw pawb sy'n byw mewn ardal difreintiedig o reidrwydd yn ddifreintiedig eu hun. Mae mesur amddifadedd ar lefel practisau meddygon teulu gan ddefnyddio'r naill fesuriad neu'r llall yn frasamcan o amddifadedd cymharol poblogaeth practisau meddygon teulu. Mae nodyn methodoleg manylach i'w weld ar ddiwedd yr erthygl hon.
Crynodeb o'r canlyniadau
Mae'r erthygl hon a'r tablau StatsCymru yn dangos y practisau sydd â’r nifer fwyaf o gleifion sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Hwn fyddai'r dull mwyaf priodol o fesur amddifadedd i'w ddefnyddio pe bai gan bolisi gofal sylfaenol y nod o helpu'r nifer fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae'r erthygl hon yn nodi practisau hefyd sydd â'r ganran fwyaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Hwn fyddai'r dull mesur mwyaf priodol i'w ddefnyddio pe bai gan bolisi gofal sylfaenol y nod o helpu practisau i ddarparu gwasanaethau i'r cyfrannau mwyaf o gleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae dewis y dull mesur yn bwysig oherwydd dim ond 48 o bractisau sy'n bresennol yn y cwintelau mwyaf difreintiedig gan ddefnyddio'r ddau fesur. Mae hyn yn golygu bod 38% o bractisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig gan ddefnyddio'r dull 'rhif' o fesur yn wahanol i'r practisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn y dull 'canrannol' o fesur.
Mae'r dulliau mesur yn cynhyrchu canlyniadau ychydig yn wahanol hefyd pan ychwanegir data'r gweithlu at y dadansoddiad, er y gellir esbonio’r gwahaniaethau i raddau helaeth gan y ffaith fod gan bractisau boblogaethau gwahanol ac felly weithluoedd o wahanol faint.
- Roedd poblogaeth practisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig 34% yn fwy na'r cwintel mwyaf poblog nesaf gan ddefnyddio'r dull 'rhif' o fesur. Canlyniad hyn oedd bod mwy o feddygon teulu, nyrsys a staff gweinyddol mewn practisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig nag mewn unrhyw un arall.
- Y boblogaeth practisau ar gyfer y cwintel mwyaf difreintiedig oedd y leiaf ond un gan ddefnyddio'r dull canrannol o fesur. Canlyniad hyn oedd mai'r cwintel hwn oedd â'r nifer isaf o bob grŵp staff.
Fodd bynnag, pan gyfrifir gweithluoedd o wahanol feintiau drwy ddefnyddio cymarebau staff yn ôl poblogaeth practisau, mae'r ddau fesur yn cynhyrchu canlyniadau tebyg.
- Practisau yn y cwintel lleiaf difreintiedig oedd â'r nifer fwyaf o feddygon teulu, nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion a staff gweinyddol fesul 10,000 o boblogaeth practisau.
- Roedd practisau yn yr ail gwintel lleiaf difreintiedig yn tueddu i fod â mwy o aelodau staff fesul cymarebau o 10,000 o boblogaeth practisau ar draws y rhan fwyaf o grwpiau staff.
- Roedd practisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig, yr ail fwyaf difreintiedig a'r trydydd cwintel mwyaf difreintiedig yn tueddu i fod â chymarebau tebyg ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau staff.
- Mae cymarebau staff gofal uniongyrchol i gleifion yn dangos y patrwm cliriaf ar draws yr holl fesurau; gyda mwy o staff fesul poblogaeth practisau wrth i lefel yr amddifadedd leihau.
Mae dadansoddiad ar lefel clwstwr gofal sylfaenol yn dangos darlun tebyg i'r dadansoddiad ar lefel practisau.
Gan fod clystyrau gofal sylfaenol yn grwpiau o bractisau, mae elfen fach o 'gyfartalu'. Dyma lle mae clystyrau'n cyfuno practisau sydd â phoblogaethau sy'n byw mewn ardaloedd sydd â gwahanol lefelau o amddifadedd. Yn fras, gall polisïau sydd wedi'u hanelu at lefel y clwstwr dargedu poblogaethau ehangach sydd â lefelau tebyg o amddifadedd yn effeithiol, ond gellir cuddio rhai gwahaniaethau lleol penodol heb ystyried y dadansoddiad ar lefel practisau.
Dadansoddiad o'r boblogaeth mewn practisau cyffredinol gan ddefnyddio MALlC
Yn y poblogaethau o bractisau cyffredinol a gafwyd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG ar 31 Rhagfyr 2021 (ac a grynhowyd ar StatsCymru) roedd 390 o bractisau cyffredinol yng Nghymru.
Graddiwyd y practisau hyn yn ôl amddifadedd cymharol eu cleifion cofrestredig a'u rhannu'n gyfartal i gwintelau'n cynnwys 78 o bractisau'r un. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau o bractisau sy'n eithaf tebyg, gyda chwintel practis 1 yn cynnwys y 78 practis sydd â'r poblogaethau mwyaf ac sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cyhoeddir y rhestr lawn o bractisau gyda chyfanswm eu poblogaeth, nifer y cleifion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, canran poblogaeth practisau sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a'u cwintelau ar StatsCymru.
Gan ddefnyddio'r dull mesur hwn, mae Siart 1 yn dangos bod bron i 370,000 (neu 43%) o gleifion oedd wedi’u cofrestru gyda phractisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig (cwintel 1) yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Roedd y nifer hwn yn gostwng ym mhob cwintel i ychydig o dan 100 o gleifion yn y cwintel lleiaf difreintiedig (cwintel 5).
Mae dewis y dull mesur hwn i gyfrifo amddifadedd ar lefel practis yn golygu bod maint y practis cyffredinol yn cael effaith fawr ar y canlyniadau. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r practis, y mwyaf tebygol yw cyfrif claf sy'n byw mewn ardal ddifreintiedig. Adlewyrchir hyn gan gwintel 1 sydd â'r cyfanswm mwyaf o boblogaeth practisau o bell ffordd, dros 215,000 yn fwy o gleifion na'r cwintel mwyaf ond un.
Er bod maint y practis yn effeithio ar y dull hwn, efallai mai dyma'r dull mwyaf priodol i'w ddefnyddio i nodi neu dargedu'r nifer fwyaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Gan ddefnyddio canran poblogaeth y practis sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig fel dull mesur, roedd dros 317,000 (neu 53%) o boblogaeth practisau'r cwintel mwyaf difreintiedig yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae'r ganran hon yn gostwng ym mhob cwintel i bron i sero yn y cwintel lleiaf difreintiedig.
Nid yw gwahanol feintiau ym mhoblogaethau practisau yn effeithio ar ganran y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig oherwydd bod nifer y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig wedi'i rannu gan faint poblogaeth y practis. Er bod cyfanswm poblogaethau'r practisau ym mhob cwintel yn amrywio, maen nhw'n agosach nag wrth ddefnyddio dull nifer y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Y cwintel mwyaf difreintiedig (cwintel 1) oedd â'r boblogaeth bractisau leiaf ond un.
Byddai'r dull hwn yn fwy priodol i'w ddefnyddio i nodi neu dargedu'r practisau sydd â'r gyfran fwyaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Er hynny, ni fyddai'r dull hwn yn nodi'r practisau sydd â'r nifer fwyaf o gleifion yn byw mewn ardaloedd difreintiedig.
O'r 78 o bractisau meddygon teulu yng nghwintel 1, mae 48 (neu 62%) yn bresennol yng nghwintel 1 yn y ddau ddull.
Dadansoddiad o weithlu practisau cyffredinol yn ôl amddifadedd practisau
Mae'r adran hon yn cyfuno'r dadansoddiad o amddifadedd cymharol ar lefel practisau cyffredinol â data gweithlu practisau cyffredinol ar 31 Rhagfyr 2021. Mae'n defnyddio nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n gweithio mewn practisau ym mhob cwintel, wedi'i rannu yn ôl math eang o swydd (meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn, nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion, a staff gweinyddol). Diffinnir aelod staff amser llawn fel rhywun sy'n gweithio 37.5 awr yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifo FTE a mathau o swyddi ar gael yn natganiad ystadegol gweithlu practisau cyffredinol.
Mae data'r gweithlu wedi'i gyfuno â data amddifadedd gan ddefnyddio nifer y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a chanran poblogaeth y practisau sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ar wahân.
Gan ddefnyddio nifer y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig i fesur amddifadedd, mae Siart 3 yn dangos bod nifer fwy o feddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn, nyrsys a staff gweinyddol FTE mewn practisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig. Ym mhob un o'r categorïau staff hyn, y cwintel lleiaf difreintiedig sydd â'r nifer fwyaf ond un o staff FTE, ac yna cwintelau 2, 3 a 4.
Mae FTEs ar gyfer staff gofal uniongyrchol i gleifion yn dilyn patrwm gwahanol, gyda mwy o staff FTE yn y cwintel lleiaf difreintiedig, ac yna'r cwintel mwyaf difreintiedig.
Fel yr esboniwyd uchod, mae maint y practis yn effeithio ar y dull mesur hwn, nid yn unig o ran y tebygolrwydd o gyfrif person sy'n byw mewn ardal ddifreintiedig, ond fel arfer bydd gan bractisau sydd â phoblogaethau mwy nifer uwch o aelodau staff. Un dull o gyfrif am hyn yw dadansoddi cymhareb yr aelodau staff fesul poblogaeth cwintel (h.y. rhannu nifer aelodau staff â phoblogaethau practisau ym mhob cwintel).
Cwintel Practis | Poblogaeth Practis | Meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn | Nyrsys | Gofal uniongyrchol i gleifion | Gweinyddol |
---|---|---|---|---|---|
1 | 850,792 | 4.80 | 2.95 | 2.33 | 11.40 |
2 | 635,457 | 4.82 | 3.16 | 2.23 | 11.43 |
3 | 627,089 | 4.77 | 2.94 | 2.30 | 11.22 |
4 | 541,418 | 5.18 | 2.92 | 3.04 | 11.87 |
5 | 576,152 | 5.50 | 3.84 | 3.95 | 13.79 |
Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru
Mae'r gymhareb staff i boblogaeth practis yn dangos darlun gwahanol i'r niferoedd staff FTE absoliwt fesul cwintel practisau. Y cwintel lleiaf difreintiedig sydd â'r nifer fwyaf o staff fesul poblogaeth practis ym mhob categori staff (gan gynnwys 5.5 meddyg teulu FTE fesul 10,000 o'r boblogaeth), sy'n sylweddol uwch nag ym mhob cwintel amddifadedd arall. Mae gan gwintelau 1, 2 a 3 gymhareb gymharol debyg ar gyfer pob grŵp staff, ac mae gan gwintel 4 y gymhareb fwyaf ond un ym mhob grŵp staff ar wahân i nyrsys.
Mae defnyddio canran y cleifion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig fel y dull mesur yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol iawn.
Mae'r nifer absoliwt o staff FTE ar ei isaf yn gyson ar gyfer cwintel 1 ac mae ar ei uchaf ar gyfer cwintel 5 mewn tri o'r pedwar grŵp staff, er bod cyfanswm poblogaeth y practisau yn y cwintelau hyn yn debyg iawn (596,000 yng nghwintel 1 a 590,000 yng nghwintel 5).
Yn y cwintel lleiaf difreintiedig, mae staff FTE ar gyfer staff gofal uniongyrchol i gleifion bron ddwywaith y nifer yn y cwintel mwyaf difreintiedig.
Cwintel Practis | Poblogaeth Practis | Meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn | Nyrsys | Gofal uniongyrchol i gleifion | Gweinyddol |
---|---|---|---|---|---|
1 | 595,723 | 4.97 | 2.93 | 2.06 | 11.68 |
2 | 707,925 | 4.79 | 3.05 | 2.25 | 11.35 |
3 | 710,446 | 4.58 | 2.98 | 2.51 | 11.30 |
4 | 627,119 | 5.24 | 3.04 | 2.96 | 11.57 |
5 | 589,695 | 5.45 | 3.76 | 3.91 | 13.72 |
Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru
Mae'r gymhareb staff i boblogaeth practis yn dangos darlun ychydig yn wahanol i'r niferoedd staff FTE absoliwt fesul cwintel practisau. Er bod y gymhareb FTE i boblogaeth ar ei hisaf yn y cwintel mwyaf difreintiedig ar gyfer nyrsys a staff gofal uniongyrchol i gleifion, y gymhareb ar gyfer meddygon teulu yw'r uchaf ond dwy, a'r uchaf ond un ar gyfer staff gweinyddol. Y cwintel lleiaf difreintiedig sydd â'r gymhareb fwyaf ar gyfer pob grŵp staff.
Dadansoddiad MALlC ar lefel clwstwr gofal sylfaenol
At ddibenion y dadansoddiad hwn, mae clystyrau gofal sylfaenol yn grwpiau o bractisau cyffredinol sy'n cydweithio i ddarparu gwasanaethau. Mae pob practis yng Nghymru wedi'i neilltuo i glwstwr. Mae'r dadansoddiad o bractisau cyffredinol a MALlC wedi'i ailadrodd ar lefel clwstwr. Mae'r rhestr lawn o glystyrau gyda chyfanswm eu poblogaeth, nifer y cleifion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, canran poblogaeth y practisau sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a'u cwintelau wedi'u cyhoeddi ar StatsCymru.
Er mwyn bod yn gyson â data poblogaeth practisau cyffredinol a'r gweithlu, mae'r manylion practis-i-glwstwr a ddefnyddiwyd yn cyfeirio at y sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2021, lle'r oedd 64 o glystyrau. Mae manylion y clystyrau wedi newid ychydig yn 2022 ond ni fyddai'n cyfateb yn gywir i ddata poblogaeth practisau na'r gweithlu a gafwyd ar 31 Rhagfyr 2021.
Cafodd y clystyrau hyn eu graddio yn ôl amddifadedd cymharol y cleifion a gofrestrwyd i bractisau yn y clwstwr a'u rhannu'n cwintelau. Gan na ellir rhannu 64 â 5 i rif cyfan, nid yw'r cwintelau'n cynnwys yr un nifer o glystyrau yn union. Mae 12 clwstwr ar gyfer cwintel 3, ac 13 clwstwr ar gyfer gweddill y cwintelau. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau cymharol debyg o glystyrau, gyda chwintel clwstwr 1 yn cynnwys y 13 clwstwr sydd â'r poblogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae'r poblogaethau clwstwr fesul cwintel wedi'u gwasgaru ychydig yn fwy cyfartal nag yn y dadansoddiad ar sail practisau, er bod y boblogaeth yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn sylweddol is na'r cwintelau eraill. Mae'r tueddiad lle mae'r nifer fwyaf o gleifion yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn debyg i'r dadansoddiad ar sail practisau, gyda dros 300,000 o gleifion o ardaloedd difreintiedig yn y cwintel clwstwr mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae nifer uwch o gleifion yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yng nghwintelau 2 i 5, sy'n awgrymu bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ar lefel clwstwr wedi’u lledaenu ychydig yn fwy cyfartal o gymharu â lefel practis.
Mae defnyddio canran y boblogaeth glwstwr sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig fel dull mesur yn rhoi meintiau poblogaeth gwahanol ar gyfer pob cwintel, ond tueddiadau tebyg i raddau helaeth ar gyfer y boblogaeth sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Cwintel 1 sydd â'r cyfanswm poblogaeth isaf (578,000), ac mae bron ei hanner (46%) yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn gostwng i dri o bob deg (31%) o gleifion yng nghwintel clwstwr 2, ac mae'n gostwng i un o bob hanner cant (2%) ar gyfer cwintel clwstwr 5 (y cwintel lleiaf difreintiedig).
O'r tri chlwstwr ar ddeg yng nghwintel 1, mae wyth (neu 62%) yn bresennol yn y ddau fesur o amddifadedd ar lefel clwstwr.
Dadansoddiad o'r gweithlu ar lefel clwstwr gofal sylfaenol
Mae'r adran hon yn cyfuno'r dadansoddiad o amddifadedd cymharol ar lefel clwstwr â data gweithlu practis cyffredinol ar 31 Rhagfyr 2021. Mae'n defnyddio nifer y staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n gweithio mewn practisau ym mhob clwstwr, ym mhob cwintel, wedi'i rannu yn ôl math eang o swydd (meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn, nyrsys, staff gofal uniongyrchol i gleifion, a staff gweinyddol). Diffinnir aelod staff llawn amser fel rhywun sy'n gweithio 37.5 awr yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifo FTE ar gael yn y datganiad ystadegol ar ar y gweithlu practis cyffredinol.
Mae data'r gweithlu wedi'i gyfuno â data amddifadedd gan ddefnyddio nifer y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a chanran poblogaeth practisau sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ar wahân.
Nid oes patrwm clir rhwng nifer y staff FTE mewn practis cyffredinol ar lefel clwstwr yn gyffredinol a lefel amddifadedd cymharol y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda phractisau yn y cwintelau clwstwr.
Y cwintel mwyaf difreintiedig (cwintel 1) sydd â'r lefel staff FTE uchaf ond un ar gyfer meddygon teulu a staff gweinyddol, ond yr isaf ar gyfer nyrsys a staff gofal uniongyrchol i gleifion. Y cwintel lleiaf difreintiedig (cwintel 5) sydd â'r lefel staff FTE uchaf ar gyfer staff gofal uniongyrchol i gleifion, ond yr isaf ond un ar gyfer nyrsys a'r isaf ar gyfer meddygon teulu a staff gweinyddol.
Er nad oes gan y berthynas gydberthyniad perffaith, yn fras mae llai o nyrsys a staff gofal uniongyrchol i gleifion pan fo amddifadedd cymharol y clwstwr yn uwch.
Cwintel Clwstwr | Poblogaeth Clwstwr | Meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn | Nyrsys | Gofal uniongyrchol i gleifion | Gweinyddol |
---|---|---|---|---|---|
1 | 702,879 | 4.97 | 2.62 | 1.93 | 11.41 |
2 | 640,518 | 4.78 | 3.11 | 2.29 | 11.74 |
3 | 648,435 | 4.84 | 3.22 | 2.90 | 11.09 |
4 | 721,055 | 4.86 | 3.16 | 2.57 | 11.86 |
5 | 518,021 | 5.61 | 3.77 | 4.26 | 13.68 |
Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru
Mae dadansoddi cymarebau staff FTE i boblogaeth clwstwr yn lleihau effaith clystyrau o wahanol feintiau ar nifer y staff FTE.
Mae'r cymarebau ar eu hisaf yn y cwintel mwyaf difreintiedig (cwintel 1) ar gyfer nyrsys a staff gofal uniongyrchol i gleifion, isaf ond un ar gyfer staff gweinyddol, ond uchaf ond un ar gyfer meddygon teulu. Mae hyn yn cyferbynnu â’r cwintel lleiaf difreintiedig sydd â'r gymhareb fwyaf ar gyfer pob un o'r pedwar grŵp staff.
Wrth ailadrodd y dadansoddiad gan ddefnyddio'r dull mesur ar gyfer canran y boblogaeth glwstwr sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, mae'r patrwm yn newid.
Y cwintel mwyaf difreintiedig sydd â'r lefel staff FTE isaf ym mhob grŵp staff, a'r cwintel lleiaf difreintiedig ond un (cwintel 4) sydd â'r lefel staff FTE uchaf ym mhob grŵp staff. Mae'r gwahaniaeth yn llai ymhlith meddygon teulu (mae gan gwintel 4 23% yn fwy o staff FTE na chwintel 1) ac mae'r gwahaniaeth fwyaf ymhlith staff gofal uniongyrchol i gleifion (mae gan gwintel 4 115% yn fwy o staff FTE na chwintel 1).
Cwintel Clwstwr | Poblogaeth Clwstwr | Meddygon teulu wedi cymhwyso’n llawn | Nyrsys | Gofal uniongyrchol i gleifion | Gweinyddol |
---|---|---|---|---|---|
1 | 578,179 | 5.14 | 2.65 | 1.88 | 11.28 |
2 | 716,041 | 4.70 | 3.01 | 2.28 | 11.83 |
3 | 617,623 | 4.82 | 3.20 | 2.84 | 11.42 |
4 | 712,187 | 5.13 | 3.37 | 3.29 | 12.00 |
5 | 606,878 | 5.18 | 3.45 | 3.21 | 12.80 |
Ffynhonnell: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG, System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru
Er mai cwintel 1 sydd â'r boblogaeth isaf (578,000), mae ganddi’r gymhareb staff FTE isaf i boblogaeth hefyd ar draws yr holl grwpiau staff ac eithrio meddygon teulu. Fodd bynnag cwintel 5 sydd â'r boblogaeth clwstwr isaf ond un (607,000) ond y gymhareb staff FTE uchaf i boblogaeth ar draws yr holl grwpiau ac eithrio staff gofal uniongyrchol i gleifion.
Nodyn methodoleg
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG (PC y GIG) yn casglu data ar gleifion sydd wedi'u cofrestru gyda phob practis cyffredinol yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data cyfanredol ar hyn bob chwarter ar StatsCymru. Mae PC y GIG hefyd yn rhannu â Llywodraeth Cymru gyfrifiadau poblogaeth practisau yn ôl eu hardal gynnyrch ehangach haen is (ACEHI) breswyl.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae MALlC yn nodi ardaloedd (ACEHI) sydd â'r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn graddio holl ardaloedd bach Cymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,909 (lleiaf difreintiedig). Cyhoeddwyd y MALlC diweddaraf yn 2019.
Cafodd ACEHIau cleifion a gofrestrwyd i bob practis cyffredinol eu paru â MALlC er mwyn nodi nifer y cleifion sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHIau fel y'u pennwyd gan eu safle MALlC. Cyfrifwyd yr holl gleifion sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer pob practis. Gydol yr erthygl hon, rydym yn cyfeirio at hyn fel nifer poblogaeth practisau sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cyfrifir canran y boblogaeth sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o MALlC drwy rannu nifer y cleifion sy'n byw yn yr ardal fwyaf difreintiedig â chyfanswm poblogaeth y practis ar gyfer pob practis.
Er mwyn crynhoi data o 390 o bractisau cyffredinol, cawsant eu grwpio'n gwintelau (pum grŵp gyda'r un nifer o bractisau ym mhob grŵp). Gwnaed hyn drwy raddio pob practis cyffredinol fel bod y practis sydd â'r nifer fwyaf o gleifion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn safle 1; mae'r practis cyffredinol sydd â'r nifer uchaf ond un o gleifion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn safle 2, ac yn y blaen. Defnyddiwyd yr un broses ar gyfer graddio practisau cyffredinol yn ôl canran y cleifion sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Caiff practisau cyffredinol eu cyfuno'n gwintelau yn seiliedig ar eu safle. Er enghraifft, mae'r practisau cyffredinol sydd wedi'u graddio rhwng 1 a 78 wedi'u cynnwys yng nghwintel 1 (y cwintel mwyaf difreintiedig), mae'r practisau cyffredinol sydd wedi'u graddio rhwng 79 a 156 wedi'u cynnwys yng nghwintel 2 (yr ail gwintel mwyaf difreintiedig), ac yn y blaen. Mae 78 o bractisau wedi'u cynnwys ym mhob cwintel.
Ailadroddwyd yr un broses ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol: cafwyd nifer y cleifion a gofrestrwyd i bractisau yn y clwstwr, a oedd yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Rhannwyd y nifer hwn â phoblogaeth y clwstwr i gyfrifo canran y cleifion a gofrestrwyd i bractisau yn y clwstwr a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Caiff clystyrau eu graddio o 1 i 64 a'u rhannu'n gwintelau. Mae 13 clwstwr ym mhob cwintel, ar wahân i gwintel 3 sydd â 12.
Mae'r dull hwn yn ein galluogi i amcangyfrif amddifadedd ym maes gofal sylfaenol drwy bedwar dull mesur gwahanol.
- Nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda phractis cyffredinol sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- Canran poblogaeth pob practis cyffredinol sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- Nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda phractisau sydd â chlwstwr gofal sylfaenol sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- Canran poblogaeth pob clwstwr gofal sylfaenol sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae penderfynu pa ddull mesur sydd fwyaf priodol i'w ddefnyddio yn dibynnu ar ddiben yr hyn y defnyddir y mesur ar ei gyfer. Argymhellir defnyddio dulliau mesur 'rhif' wrth dargedu'r nifer fwyaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, tra ei bod yn fwy priodol defnyddio'r dulliau mesur 'canrannol' wrth dargedu'r crynodiad uchaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Er bod y canlyniadau ar lefel practis a chlwstwr yn weddol debyg, bydd y data ar lefel practis yn darparu dadansoddiad mwy gronynnog o amddifadedd. Mae clystyrau'n grwpio practisau, felly er y gall rhai wasanaethu poblogaethau tebyg yn fras, mae'n anochel y bydd gan rai practisau boblogaeth fwy difreintiedig nag eraill yn yr un clwstwr. Efallai y bydd dadansoddiad o glystyrau’n fwyaf priodol wrth dargedu ardaloedd ehangach, ond gall y darlun manylach gael ei guddio wrth gyfuno data ar gyfer practisau unigol.
Cyhoeddir rhestr lawn o bractisau gyda chyfrifiadau, canrannau a chwintelau ar StatsCymru.
Dim ond trigolion yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru i bractisau cyffredinol yng Nghymru y mae’r dadansoddiad yn eu cynnwys, sy'n ddarostyngedig i'r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMC). Gan fod MALlC yn fesur o amddifadedd sy'n berthnasol i Gymru yn unig, ni ellid cynnwys trigolion Lloegr yn y model. Gan fod gennym ddata wedi'i gasglu ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru wedi’i gasglu ar sail gyson, nid yw practisau Lloegr wedi'u cynnwys, ac felly ni fydd unrhyw breswylwyr o Gymru sydd wedi'u cofrestru i bractisau yn Lloegr yn cael eu cynnwys. Er mwyn rhoi cyd-destun, yn y cyfrif ar 31 Rhagfyr 2021 roedd 21,335 o gleifion wedi'u cofrestru i bractisau cyffredinol yng Nghymru a oedd yn byw yn Lloegr, ac roedd 13,563 o gleifion wedi'u cofrestru i bractisau cyffredinol yn Lloegr a oedd yn byw yng Nghymru.
Pan fo claf yn byw yn Lloegr ond wedi'i gofrestru i feddygfa yng Nghymru, yn y dadansoddiad hwn cânt eu tynnu oddi ar restr y practis hwnnw o faint y boblogaeth hefyd, er mwyn peidio â chamgyfrif canran y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
Roedd 543 o gleifion wedi'u cofrestru i bractisau nad ydynt yn rhai GMC ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad chwaith.
Nid oedd data ACEHI 108 o gleifion ychwanegol a gofrestrwyd i bractisau yng Nghymru yn gyflawn, felly cawsant eu heithrio o'r dadansoddiad hefyd.
Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol
Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall.
Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:
- cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
- dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
- tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
- dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau
Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
- ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
- resymau eraill a nodir
Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.
Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond gellir ei ddefnyddio gydag allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.
Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Ana Stan
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099