Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y pecynnau profi cyflym hyn ar gyfer y coronafeirws ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener yma (16 Ebrill) ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried yr opsiwn i allu casglu’r pecynnau profi hyn o leoliadau eraill, yn ogystal â’r opsiwn o’u hanfon yn uniongyrchol i gartrefi pobl.

Y gobaith yw y bydd sicrhau bod mwy o brofion llif unffordd ar gael yn golygu bod profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer y coronafeirws yn fwy cyfleus a hygyrch i bobl nad ydynt yn rhan o gynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Nid oes gan tua 1 o bob 3 o bobl sydd â coronafeirws symptomau ond gallant ddal i heintio eraill, sy'n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o gadw pobl yn ddiogel wrth i gyfyngiadau gael eu lleddfu'n raddol.

Ym mhob safle profi, bydd pobl yn gallu casglu profion llif unffordd cyflym rhwng 08:00 a 13:00. Ni fydd angen iddynt wneud apwyntiad cyn casglu’r profion. Yna, bydd safleoedd yn cau er mwyn eu glanhau’n drylwyr ac yn ail agor ar gyfer profion PCR symptomatig rhwng 14:00 a 20:00 bob diwrnod.

Fel mater o drefn, gall pob person gasglu dau becyn o saith hunan-brawf llif unffordd i’w defnyddio gartref. Argymhellir eich bod yn gwneud y profion ddwywaith yr wythnos, gan gofnodi’r canlyniadau ar borthol Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae’n bwysig bod y broses brofi mor gyfleus a hygyrch â phosibl. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i becynnau hunan-brofi gael eu defnyddio gan bobl sy’n methu gweithio gartref, fel bod modd iddynt wneud y profion yn rheolaidd. Bydd hyn yn helpu i’w cadw nhw, a’u teuluoedd, yn ddiogel.

Gwyddom nad yw hyd at un o bob tri o bobl sydd â’r coronafeirws yn dangos unrhyw symptomau o gwbl, ac felly gallant ei ledaenu’n ddiarwybod iddyn nhw eu hunain. Wrth inni barhau i lacio cyfyngiadau, bydd y broses o brofi pobl asymptomatig yn rheolaidd yn hollbwysig i’n brwydr yn erbyn y feirws.