Neidio i'r prif gynnwy

Wedi cadarnhau y bydd y swm y gall pobl Cymru ei gadw pan fyddant mewn gofal preswyl yn cynyddu o £30,000 i £40,000 o fis Ebrill 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw hyn fel rhan o ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy’n codi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £50,000 yn ystod tymor y Cynulliad.

Mae'r cynnydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, a dechreuodd y drefn hon ym mis Ebrill 2017 pan gafodd y terfyn mewn perthynas â gofal preswyl ei gynyddu i £30,000. 

Diben y terfyn cyfalaf yw pennu p'un a fydd unigolyn yn talu am gost lawn ei ofal preswyl ei hun, neu a fydd yn cael cymorth ariannol tuag at y gost hon gan ei awdurdod lleol.

Mae hyd at 4,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal yn talu am gost lawn eu gofal. Gallai nifer sylweddol ohonyn nhw elwa ar y penderfyniad hwn i godi'r terfyn i £50,000, yn ddibynnol ar faint o gyfalaf sydd ganddyn nhw.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn a'r rheini sydd angen gofal i fyw'r bywydau maen nhw'n dymuno. 

"Rydyn ni wedi addo mwy na dyblu'r cyfalaf y mae pobl yn gallu cadw pan fyddant mewn gofal preswyl gan ryddhau mwy o'u harian i'w ddefnyddio fel y mynnan nhw. 

“Rydyn ni ar y trywydd cywir i gyflawni'r addewid i bobl Cymru. Rydyn ni'n gwybod bod ymhell dros 400 o bobl eisoes yn elwa ar y cynnydd i'r terfyn, a gallwn ddisgwyl i hyn godi'n sylweddol pan fydd y terfyn yn cael ei gynyddu i £50,000."