Heddiw daw newidiadau i rym sy’n golygu bod pobl sy’n byw mewn gofal preswyl yn cael cadw mwy o’u harian – gan wireddu un o brif addewidion Llywodraeth Cymru.
Yng nghynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru, “Symud Cymru Ymlaen”, mae ymrwymiad i fwy na dyblu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir wrth godi tâl am ofal cymdeithasol preswyl, sef o £24,000 i £50,000. O heddiw ymlaen, bydd y terfyn yn codi i £30,000, fel rhan o gynnydd graddol i £50,000.
Hefyd, bydd y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei ddiystyru wrth i awdurdodau lleol gynnal asesiadau ariannol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau nad oes rhaid i gyn-filwyr ddefnyddio unrhyw ran o’r pensiwn hwn i dalu am eu gofal.
Mae’r newidiadau hyn yn rhan o ystod eang o fesurau sy’n cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddi £55 miliwn.
Ymwelodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, â Chartref Nyrsio College Fields yn y Barri i gwrdd â phreswylwyr a staff ac i dynnu sylw at y newidiadau sy’n digwydd.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Mae pobl hŷn sydd wedi chwarae eu rhan ac wedi cyfrannu’n ariannol ar hyd eu hoes yn haeddu mwy o degwch. Dyna pam y byddwn ni, dros gyfnod y Cynulliad hwn, yn dyblu swm yr arian y caiff pobl hŷn ei gadw pan fyddan nhw mewn gofal.
“Dw i’n falch o allu dweud y caiff pobl gadw £30,000 heb iddo gael ei ddefnyddio i dalu am eu gofal o heddiw ymlaen. Bydd hyn yn cynyddu i £50,000 dros y blynyddoedd nesaf.”
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ariannu gofal rhywun os yw ei gyfalaf yn llai na £30,000. Os bydd yn codi swm, bydd hwnnw’n seiliedig ar yr incwm sydd ar gael i’r unigolyn.
Dylai unrhyw rai sy’n meddwl y gallen nhw, neu aelod o’u teulu, elwa ar y trefniadau newydd, gysylltu â’u hawdurdod lleol.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Dyma adeg hynod gyffrous i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni’n dechrau gweld Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dwyn ffrwyth, gyda gofal yn cael ei ganolbwyntio’n llwyr ar yr unigolyn ledled Cymru.
“Mae’r Llywodraeth hon wedi rhoi blaenoriaeth i’r gwasanaethau cymdeithasol fel sector sydd o bwys strategol cenedlaethol. Er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn, rydyn ni wedi cyhoeddi £55 miliwn ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn 2017-18.”