Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y terfyn newydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, gan ddechrau drwy ei godi i £30,000 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ein cynllun pum mlynedd, “Symud Cymru Ymlaen”, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fwy na dyblu terfyn swm y cyfalaf sy’n cael ei ddefnyddio wrth godi tâl am ofal cymdeithasol preswyl, a hynny o £24,000 i £50,000.

Heddiw, cyhoeddodd Rebecca Evans y bydd y terfyn newydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, gan ddechrau drwy ei godi i £30,000 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Mae’r penderfyniad i gyflwyno’r newid fesul cam yn adlewyrchu’r adborth a gafwyd oddi wrth awdurdodau lleol a darparwyr cartrefi gofal, a’r bwriad yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o amser i addasu i’r newidiadau. Mae’r penderfyniad hefyd yn seiliedig ar yr ymchwil annibynnol a gafodd ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i wybod bydd fyddai’r costau diweddaraf o weithredu’r newid.

O fis Ebrill nesaf bydd y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei ddiystyru’n llawn yn holl asesiadau ariannol awdurdodau lleol, wrth godi tâl am ofal cymdeithasol.  

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

“Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn, a’r rheini y mae angen gofal arnyn nhw. Dyna pam mae ymrwymiad yn ein cynllun pum mlynedd “Symud Cymru Ymlaen” i fwy na dyblu’r cyfalaf y caiff pobl ei gadw pan fyddan nhw mewn gofal preswyl. Mae hyn yn rhyddhau mwy o’u harian iddyn nhw ei ddefnyddio yn ôl eu dymuniad.

“Rydyn ni’n cymryd camau pendant i gyflawni’r ymrwymiad hwn. Mae’n dda gen i gyhoeddi y bydd terfyn y cyfalaf yn codi i £30,000 o fis Ebrill nesaf. Mae hwn yn gam cyntaf positif tuag at gyflawni ein hymrwymiad i sicrhau terfyn o £50,000.

“Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu barn rhanddeiliaid y byddai gweithredu’r cap newydd fesul cam yn rhoi amser i awdurdodau lleol a chartrefi gofal addasu i’r newidiadau. Hefyd, byddwn ni’n cael y cyfle i fesur yr effaith a gaiff y terfyn uwch o ddydd  i ddydd.

“Hefyd mae’n dda gen i gadarnhau y bydd y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei ddiystyru’n llawn o fis Ebrill nesaf yn holl asesiadau ariannol awdurdodau lleol wrth godi tâl am ofal cymdeithasol. Bydd y newid hwn yn sicrhau na fydd cyn-aelodau’r lluoedd arfog, sy’n derbyn y pensiynau hyn, yn gorfod eu defnyddio i dalu cost eu gofal.”