Heddiw, mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans AC, wedi cyhoeddi y bydd deddfwriaeth newydd i eithrio pobl ifanc sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019.
Caiff y cynllun i fwrw ymlaen â rheoliadau i eithrio pobl sy'n gadael gofal ac sydd o dan 25 oed rhag talu'r dreth gyngor ei amlinellu wrth i ymatebion i ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol, trethdalwyr a'r bobl ifanc eu hunain gael eu cyhoeddi.
Mae'r ymateb i'r ymgynghoriad wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda 91% o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynnig i roi'r cymorth ychwanegol hwn i bobl ifanc sy'n gadael gofal, ac 80% yn cytuno y dylai'r eithriad gael ei ymestyn i'r rheini sy'n 25 oed.
Mae'r egwyddor y dylid eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor wedi cael ei derbyn yn eang ers peth amser, ond mae'r lefel o gymorth sydd ar gael i bobl sy'n gadael gofal ledled Cymru wedi bod yn anghyson.
Y ddeddfwriaeth newydd yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o fesurau i sicrhau bod y system dreth gyngor yn decach yng Nghymru - un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Rwyf eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol yn gwneud pob peth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u cynorthwyo wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam cadarnhaol arall yn ein hadduned i wneud y dreth gyngor yn decach, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad."
Wrth i filiau'r dreth gyngor ddechrau cyrraedd blychau post cartrefi Cymru, mae'r Gweinidog Cyllid yn annog pobl i edrych a oes ganddynt hawl i gael cymorth i dalu eu bil.
Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid:
“Mae llawer o ddisgowntiau, gostyngiadau ac esemptiadau ar gael a hoffwn annog pawb i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a allen nhw dalu llai o dreth gyngor.”
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar LLYW.CYMRU.
Caiff y rheoliadau i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ddechrau mis Mawrth.