Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Gyllid, yn lansio cynigion i eithrio pobl ifanc sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y cynlluniau hyn yw'r rhai diweddaraf mewn cyfres o fesurau a gynlluniwyd i sicrhau bod y system dreth gyngor yn decach yng Nghymru - un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru.

Os caiff y cynigion eu cymeradwyo y dilyn ymgynghoriad dros gyfnod o chwe wythnos, ni fydd unrhyw berson ifanc sy'n gadael gofal yn gorfod talu'r dreth gyngor hyd nes y byddant yn 25 oed.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Rwyf eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol yn gwneud pob peth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u cynorthwyo wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol.

“Blwyddyn diwethaf, gofynnais i'r awdurdodau lleol ystyried defnyddio'u pwerau disgresiwn i ganiatáu goddefeb llwyr rhag talu’r dreth gyngor i bob un sy'n gadael gofal, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau unigol. Ym mis Hydref 2017, Cyngor Tor-faen oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i eithrio’r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor.

"Dyma gyfle pwysig i sicrhau bod ein system dreth gyngor yn decach, ac rwy'n awyddus i glywed safbwyntiau pawb ac i weithio gyda rhanddeiliaid er mwyn gwella’n dull o weithredu."

Fel rhan o'i hadduned i wneud y system dreth gyngor yn decach, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i gynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, cynllun sy'n cynnig cymorth gyda biliau treth gyngor i tua 300,000 o aelwydydd incwm isel, sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 7 Tachwedd a 19 Rhagfyr a bydd yn ymgynghori ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sefydliadau'r trydydd sector sy'n cynrychioli'r rhai sy'n gadael gofal ynghyd â'r rhai sy'n gadael gofal eu hunain.

Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn dwyn deddfwriaeth ymlaen er mwyn eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor o 1 Ebrill 2019 ymlaen.