I nodi Diwrnod Annibyniaeth America, mae'r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn rhaglen Seren Llywodraeth Cymru yn dathlu yn dilyn cyhoeddiad y bydd mwy o fyfyrwyr nag erioed yn cymryd rhan mewn ysgolion haf yn UDA eleni, ac y bydd naw o fyfyrwyr Seren yn mynychu prifysgolion mawr eu bri yn America o’r hydref hwn ymlaen.
Bydd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr – 53 i gyd – yn treulio pythefnos naill ai ym Mhrifysgol Yale neu Brifysgol Harvard dros yr haf, a hynny i gael blas ar fywyd prifysgol yn UDA. Hefyd, bydd mwy o fyfyrwyr o Gymru nag o unrhyw ran arall o’r DU neu Ewrop yn mynychu rhaglen Yale Young Global Scholars (YYGS) Prifysgol Yale.
Mae naw myfyriwr o Gymru hefyd wedi cael lle yn Yale neu yn Stanford. Mae'r myfyrwyr hyn wedi cael eu cefnogi gan Raglen Ymddiriedolaeth Sutton ac wedi cael pecyn cymorth ariannol o $284k (£223k) ar gyfartaledd. Bydd yr arian hwn yn cyfrannu at eu costau teithio a byw.
Y llynedd, cafodd y bartneriaeth â YYGS ei lansio, gan alluogi 16 myfyriwr i gymryd rhan mewn rhaglen haf. Eleni, bydd 30 o fyfyrwyr yn cael eu croesawu i gyd. Bydd 28 yn mynd i Yale yn Connecticut a dau i Ganolfan Yale yn Beijing.
Hon yw’r flwyddyn gyntaf y bydd grŵp o fyfyrwyr Seren yn cymryd rhan yn rhaglen Ysgol Haf Cyn Coleg Harvard. Roedd y rhaglen ar agor i bum ymgeisydd o Gymru i ddechrau, ond o ganlyniad i ansawdd a nifer y ceisiadau, cafodd y rhaglen ei hehangu er mwyn cynnig 23 lle.
Ar ben hynny, mae 27 o fyfyrwyr Seren wedi cael eu dewis gan Ymddiriedolaeth Sutton i gymryd rhan yn ei rhaglen yn UDA, sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth â Chomisiwn Fullbright UDA-DU. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymweld ag UDA am wythnos ac yn darparu cymorth gyda cheisiadau, a digwyddiadau i helpu i roi arweiniad i fyfyrwyr ar astudio yn UDA.
Cafodd yr holl fyfyrwyr Seren sy’n rhan o'r partneriaethau ag UDA groeso i gymryd rhan mewn dathliad enfawr ym Mae Caerdydd i nodi llwyddiannau Seren ers i’r rhaglen gael ei sefydlu’n llawn yn 2016; yn bennaf ei pherthynas addysgol gryfach a chryfach â phrifysgolion UDA, ehangu Seren i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 8 i 11, a mwy a mwy o fyfyrwyr o Gymru’n cael cynigion gan Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Siaradodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn y digwyddiad gan ddweud:
“Eleni, rydym yn dathlu llawer o lwyddiannau Seren, wrth i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr sydd wedi cyflawni rhaglen lawn Seren ddechrau ar eu pennod nesaf yn y brifysgol.
“Mae astudio dramor yn gallu bod yn brofiad sy’n newid bywyd ac yn gallu arwain at fanteision enfawr. Rwy’n gwybod hynny yn sgil y flwyddyn ‘nes i dreulio’n astudio ym Mhrifysgol Missouri. Bydd y llysgenhadon ifanc hyn dros Gymru mewn sefyllfa wych i hyrwyddo Cymru a’u haddysg ansawdd uchel eu hunain i’w cyfoedion o bob cwr o'r byd.
“Rydym eisoes wedi gweld effaith sylweddol Seren, wrth i fwy o fyfyrwyr fynd ymlaen i brifysgolion blaenllaw, mwy nag erioed yn mynd i ysgolion haf yn UDA a mwy a mwy o fyfyrwyr o Gymru’n mynd i Rydychen a Chaergrawnt. Rydym hefyd wedi gweld hyder, uchelgais a dyheadau myfyrwyr Seren yn tyfu wrth iddyn nhw wireddu eu potensial academaidd – a hynny yng Nghymru, yn y DU neu dramor.”
“Felly, ar Ddiwrnod Annibyniaeth America eleni, hoffwn ddymuno llongyfarchiadau gwresog i bob un ac rwy’n edrych ymlaen at weld sêr y rhaglen eleni’n disgleirio mewn prifysgol enwog yn America!”
Mae'r rhaglen Seren yn dibynnu’n helaeth ar ei phartneriaid ac yn gweithio ar y cyd â phrifysgolion blaenllaw yng Nghymru a’r DU, fel y cynllun peilot Ieithoedd Tramor Modern â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen, a’r cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Aberystwyth sy’n darparu Cyrsiau Ar-lein Enfawr Agored. Mae’r rhaglen hefyd yn gweithio i wneud yn siŵr bod yr unigolion mwyaf llwyddiannus yn ymwybodol o gyfleoedd swyddi i raddedigion yng Nghymru a’u bod yn cael eu hannog i ddychwelyd ar ôl gorffen astudio.
Mae llwyddiant trefniadau cyfnewid academaidd a chyfnewid myfyrwyr Seren wedi arwain at y partneriaethau addysg cyntaf erioed rhwng Cymru ac UDA drwy Gomisiwn Fullbright a Rhaglen Ysgoloriaethau Rhyngwladol Gilman. Bydd y partneriaethau hyn yn gwneud yn siŵr bod mwy o fyfyrwyr o UDA yn dod i Gymru, gan roi Cymru ar y map fel cyrchfan astudio ledled UDA a sefydlu cysylltiadau ymchwil newydd i brifysgolion Cymru.
Roedd y digwyddiad ym Mae Caerdydd wedi croesawu dros 300 o fyfyrwyr presennol Seren a chyn-fyfyrwyr, gwesteion o brifysgolion yn y DU ac UDA, yn ogystal â phartneriaid busnes yn y DU. Cafodd ei gynnal gan Guto Harri, darlledwr a chyn-fyfyriwr yng Ngholeg y Frenhines, a Georgina Campbell Flatter, arbenigwr blaenllaw ar entrepreneuriaeth ym maes technoleg. Bu’r ddau yn ddigon caredig i wirfoddoli eu hamser.
Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdai a oedd wedi’u dylunio i ehangu diddordebau addysgol, gan gynnwys sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr Seren. Cymerodd busnesau a phartneriaid ran mewn sesiwn rwydweithio ryngwladol gyda chynrychiolwyr o UDA, a chynhaliwyd derbyniad gyda’r nos i ddathlu'r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Rhydychen. Anterth y dathliadau oedd y cyhoeddiad bod mwy nag erioed o fyfyrwyr Seren ar eu ffordd i UDA eleni, drwy raglenni ysgol haf ac fel israddedigion.
Aeth Elli Rees o Lanelli i Goleg Gŵyr a chymerodd ran yn rhaglen Ymddiriedolaeth Sutton. Y llynedd, bu hi’n ymweld ag MIT yn Boston, Coleg Dartmouth, Coleg Smith, Coleg Amherst a Choleg Babson. Yn nigwyddiad Seren, siaradodd hi â’r myfyrwyr am ei phrofiadau. Dywedodd:
“Rwy’n dod o dref fach lle nad oes llawer o neb yn mynd i’r brifysgol. Mae Seren wedi rhoi’r byd yn grwn o fy mlaen i. Mae wedi fy helpu i fagu'r dewrder oedd ei angen arna’ i ac i sylweddoli fy mod yn gallu gwneud ceisiadau i brifysgolion mwy – rhai nad oeddwn i byth wedi dychmygu gwneud cais iddynt. Rwyf wedi gallu mynd i ysgolion haf, gan gynnwys un yn America. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod ar y trip cyntaf i Yale, a wnaeth ehangu fy ngorwelion go iawn. Mae’n bwysig dros ben manteisio ar bob cyfle – does gennych chi ddim i’w golli. Efallai fod cytuno i rywbeth yn gwneud i chi deimlo’n bryderus, ond bydd yn talu ar ei ganfed.”
Un myfyriwr sy’n cymryd rhan yn YYGS yr haf hwn yw Shauna Hayden o Ysgol yr Esgob Gore. Mae hanes o salwch meddwl yn nheulu Shauna, sydd wedi ennyn ei diddordeb mewn astudio niwrowyddoniaeth. Dywedodd:
“Mae cael lle ar raglen YYGS wedi gwireddu breuddwyd. Doeddwn i byth yn meddwl byddwn i’n gallu gwneud rhywbeth fel hyn, ond mae ymuno â Seren wedi ei wneud yn bosib. Mae gen i ddiddordeb mewn astudio naill ai seicoleg neu ymchwil niwrowyddoniaeth. Mae rhan o faes llafur YYGS yn canolbwyntio ar wyddorau biofeddygol felly rwy’n gobeithio y bydd hynny’n fy helpu i benderfynu beth rwyf am ei wneud yn y pen draw. Mae bod yn rhan o Seren wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddwn wedi eu cael fel arall. Bydd yn gymorth mawr wrth wneud cais i brifysgolion hefyd.”