Neidio i'r prif gynnwy

Mae saith o bobl ifanc o Gymru wedi ennill mwy o fedalau nag erioed o'r blaen fel rhan o Dîm y DU yn y 45ed WorldSkills International yn Kazan, Rwsia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

WorldSkills yw cystadleuaeth sgiliau fwyaf y byd sy'n ceisio codi proffil pobl ifanc ddawnus o bob rhan o'r byd i helpu iddynt gyrraedd eu potensial.

Eleni roedd dros 1,600 yn cymryd rhan o 63 o wledydd i gystadlu mewn 56 o wahanol sgiliau.

Roedd Tîm y DU yn cynnwys 37 o bobl ifanc, yn cystadlu mewn sgiliau yn amrywio o saernïaeth i gynnal a chadw awyrennau, ac o flodeuwriaeth i seibrddiogelwch. Enillodd Tîm y DU ddwy fedal aur, un arian ac un efydd yn ogystal â 15 Tarian Ragoriaeth.

Roedd chwech o'r medalau a enillwyd gan Dîm y DU yn dod i Gymru:

  • Phoebe McLavy – trin gwallt – Efydd
  • Chris Caine – saernïaeth – Medal Ragoriaeth,
  • Sam Everton – coginio – Medal Ragoriaeth,
  • Thomas Lewis – gwaith trydanol – Medal Ragoriaeth
  • Collette Gorvett – gwasanaethau bwytai – Medal Ragoriaeth
  • Thomas Thomas – plymio a gwresogi - Medal Ragoriaeth

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Mae cael saith o gystadleuwyr o Gymru ar Dîm y DU yn dangos y bobl ifanc ddawnus iawn sydd gennym yma yng Nghymru a chryfder cynyddol ein sylfaen sgiliau ledled y wlad.

"Mae'r bobl ifanc hyn wedi cynrychioli Cymru a'u cyflogwyr yn fyd-eang ac yn dangos ymrwymiad Cymru fel gwlad i fuddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol.

"I ddychwelyd adref gyda chwe medal, gan gynnwys medal Efydd, yn dystiolaeth o sgiliau, doniau ac ymrwymiad yr unigolion hyn, a rydym yn hynod falch o'n cystadleuwyr o Gymru.