Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac anabledd ar gyfer Hydref 2020 i Fedi 2021.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Roedd gostyniad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yna, cynyddodd y gyfran hon rhwng 2017 a 2019 cyn gostwng eto yn 2020. Dros y blynyddoedd diweddaraf, mae maint y newid yn amrywio’n ôl pa ffynhonell sy’n cael ei defnyddio.
  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2020 roedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET (11,300) o gymharu â 11.7% (11,900) ar ddiwedd 2019.
  • Ar sail yr arolwg poblogaeth blynyddol, am y flwyddyn yn gorffen Ch3 2021, amcangyfrifwyd bod 9.3% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 8.3% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch3 2020.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2020 roedd 15.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET (36,400) gostyngiad o gymharu ag 16.1% (38,900) yn 2019.
  • Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% - 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
  • Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch3 2021, amcangyfrifwyd bod 15.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 14.7% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Ch3 2020.

Ffynonellau ystadegol

  • Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
  • Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), Hydref 2020 i Fedi 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 20 KB

ODS
20 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.