Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac awdurdod lleol ar gyfer Hydref 2017 i Medi 2018.

Pwyntiau allweddol

Pobl ifanc rhwng 16-18 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf - Ar ddiwedd 2017 (dros dro), roedd 9.5% o bobl ifanc rhwng 16-18 mlwydd oed yn NEET (9,800), o'i gymharu â 10.5% (11,200) ar ddiwedd 2016.

  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth - Data newydd Ar gyfer y flwyddyn sy’n diweddu Chwarter 3 2018, amcangyfrifwyd bod 8.8% o bobl ifanc rhwng 16-18 mlwydd oed yn NEET, yr un fath â’r flwyddyn yn dod i ben Chwarter 3 2017.

  • Ar sail Cyrchfannau Disgyblion - Ym mis Hydref 2016, roedd 1.6% o ymadawyr Blwyddyn 11 yn NEET, o’i gymharu â 2.0% yn 2016.

Pobl ifanc rhwng 19-24 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf - Ar ddiwedd 2017 (dros dro), roedd 16.2% o bobl ifanc rhwng 19-24 mlwydd oed yn NEET (46,400), o'i gymharu â 18.5% (47,700) ar ddiwedd 2016.

  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth - Data newydd - Ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 3 2018, amcangyfrifwyd bod 15.2% o bobl ifanc rhwng 19-24 mlwydd oed yn NEET, o'i gymharu â 14.3% ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 3 2017.

Nodyn

Y ffynhonnell swyddogol ar gyfer yr amcangyfrifon o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru yw’r datganiad ystadegol cyntaf blynyddol. Mae’r bwletin hwn yn darparu ystadegau mwy amserol, ond llai cadarn yn ystadegol, i’r defnyddiwr.

Ffynonellau ystadegol

  • Datganiad ystadegol cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur’ gan ddefnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

  • Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

  • Yr arolwg Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru gan Yrfa Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), Ionawr i Medi 2018: tablau - Diwygiedig
, Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
Saesneg yn unig
30 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099