Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a statws anabledd ar gyfer Gorffennaf 2017 i Mehefin 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)
Prif bwyntiau
16 i 18 oed
- Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf: ar ddiwedd 2017 (dros dro), roedd 9.5% o bobl ifanc rhwng 16 i 18 mlwydd oed yn NEET (9,800), o'i gymharu â 10.5% (11,200) ar ddiwedd 2016.
- Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: (data newydd) ar gyfer y flwyddyn sy’n diweddu Chwarter 2 2018, amcangyfrifwyd bod 7.9% o bobl ifanc rhwng 16 i 18 mlwydd oed yn NEET, o'i gymharu â 8.7% ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 2 2017.
- Ar sail Cyrchfannau Disgyblion: ym mis Hydref 2017, roedd 1.6% o ymadawyr Blwyddyn 11 yn NEET, o’i gymharu â 2.0% yn 2016.
19 i 24 oed
- Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf: ar ddiwedd 2017 (dros dro), roedd 16.2% o bobl ifanc rhwng 19 i 24 mlwydd oed yn NEET (40,100), o'i gymharu â 18.5% (46,000) ar ddiwedd 2016.
- Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: (data newydd) ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 2 2018, amcangyfrifwyd bod 15.7% o bobl ifanc rhwng 19 i 24 mlwydd oed yn NEET, o'i gymharu â 14.0% ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 2 2017.
Nodyn
Y ffynhonnell swyddogol ar gyfer yr amcangyfrifon o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru yw’r datganiad ystadegol cyntaf blynyddol. Mae’r bwletin hwn yn darparu ystadegau mwy amserol, ond llai cadarn yn ystadegol, i’r defnyddiwr.
Ffynonellau ystadegol
- Datganiad ystadegol cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur’ gan ddefnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
- Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
- Yr arolwg Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru gan Yrfa Cymru.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), Gorffennaf 2017 i Mehefin 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 31 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.