Neidio i'r prif gynnwy

Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020 yn cynnwys rhan o gyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae’n bosibl fod rhai o’r newidiadau a nodwyd yn deillio o amodau a achoswyd gan y pandemig. Er enghraifft dysgu a ohiriwyd neu a fethwyd, newidiadau i arholiadau ac asesiadau a newidiadau yn amgylchiadau’r farchnad lafur yn ystod cyfnod y pandemig.

Prif bwyntiau

Image
AR sail yr SFR, roedd 11.1% o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn NEET yn 2020 a 15.2% o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Roedd gostyniad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yna, cynyddodd y gyfran hon rhwng 2017 a 2019 cyn gostwng eto yn 2020. Dros y blynyddoedd diweddaraf, mae maint y newid yn amrywio’n ôl pa ffynhonell sy’n cael ei defnyddio.
  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2020 roedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET (11,300) o gymharu â 11.7% (11,900) ar ddiwedd 2019.
  • Ar sail yr arolwg poblogaeth blynyddol, am y flwyddyn yn gorffen Chwarter 1 2021, amcangyfrifwyd bod 9.4% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 9.2% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter 1 2020.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2020 roedd 15.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET (36,400) gostyngiad o gymharu ag 16.1% (38,900) yn 2019.
  • Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% - 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
  • Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter 1 2021, amcangyfrifwyd bod 15.3% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 15.4% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter 1 2020.

Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl nodwedd

Rhywedd

O’r gyfres SFR mae hefyd yn bosibl cynhyrchu rhaniad rhywedd o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

Mae Siart 2 yn dangos bod cyfran y bechgyn a merched 16 i 18 oed sy’n NEET wedi dilyn tueddiadau tebyg yn fras rhwng 2004 a 2020, gyda merched yn llai tebygol o fod yn NEET na bechgyn yn sgil lefelau uwch o gyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant. Aeth y tueddiad hwn i’r cyfeiriad arall yn y ffigurau dros dro ar gyfer 2020.

  • bod 10.5% (5,500) o fechgyn 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 12.7% (6,600) yn 2019
  • bod 11.7% (5,800) o ferched 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 10.7% (5,200) yn 2019
Image
Mae Siart 2 yn dangos 11.7% o fenywod a 10.5% o ddynion fel cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

Pobl ifanc 19 i 24 oed

Mae cyfrannau’r gwrywod a benywod 19 i 24 oed sy’n NEET wedi bod yn cydgyfeirio dros y blynyddoedd diweddaraf, hyd at 2019.

Mae cyfran y merched sy’n NEET wedi bod yn gyson uwch na bechgyn dros y gyfres hon tan 2018, lle roedd cyfran ychydig yn fwy o fechgyn yn NEET na merched. Mae hyn wedi mynd i’r cyfeiriad arall yn y ddwy flynedd ers hynny.

Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2020 yn dangos:

  • roedd 16.8% (21,100) o fechgyn 19 i 24 oed yn NEET, cynnydd o 15.6% (19,800) yn y flwyddyn flaenorol
  • roedd 13.5% (15,300) o ferched 19 i 24 oed yn NEET, gostyngiad o 16.6% (19,100) yn y flwyddyn flaenorol
Image
Mae Siart 3 yn dangos mae dynion yn fwy tebygol o fod yn NEET gyda 13.5% o fenywod a 16.8% o ddynion fel cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

Oedran

Gellir defnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol hefyd i ddarparu dadansoddiadau o gyfraddau NEET yn ôl nodweddion, nad ydynt ar gael drwy gyfres SFR. Gan fod y samplau’n fach, wrth edrych ar is-grwpiau bu’n rhaid defnyddio amcangyfrifon yn seiliedig ar gyfartaledd y 3 chyfnod ac felly dylid eu defnyddio i gymharu grwpiau neu ranbarthau’n unig.

Image
Mae'r cyfraddau'n amrywio o 5.6% ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18.3% ar gyfer y rhai sy'n 21 oed.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

Mae cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn cynyddu ag oedran yn gyffredinol rhwng 16 a 21. Yna, mae’n gostwng ag oedran rhwng 21 a 24 oed. Mae’r cyfraddau’n amrywio o 5.6% i bobl ifanc 16 oed i 18.3% i bobl ifanc 21 oed. Mae’r cyfraddau’n amrywio o 5.6% i bobl ifanc 16 oed i 18.3% i bobl ifanc 21 oed. bledd

Anabledd

Image
Y cyfran y bobl anabl sy'n NEET yn 18.1% yn 16 i 18 oed o gymharu â 7.3% pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt yn anabl.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

  • Mae pob ifanc anabl yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl.
  • Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed. Mae cyfran y bobl anabl sy’n NEET yn codi o 18.1% ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed i 41.2% ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Crefydd

Image
Mae Siart 6 yn dangos bod gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau sy'n amrywio o 13.1% ar gyfer De-ddwyrain Cymru i 14.4% yn y Gogledd Cymru.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

  • Mae cyfraddau NEET yn gwahaniaethu ychydig rhwng rhanbarthau. Roedd cyfran y bobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n NEET yn amrywio o 13.1% yn y De-ddwyrain i 14.4% yn y Gogledd.

Diffiniadau

Addysg a hyfforddiant

Ar gyfer amcangyfrifon SFR: mae’n seiliedig ar y rhai sydd wedi ymrestru ar gwrs mewn ysgol, coleg Addysg Bellach, sefydliad Addysg Uwch (yn cynnwys y Brifysgol Agored) neu gyda darparwr seiliedig ar waith yng Nghymru. Yn ogystal, amcangyfrifir nifer y rhai sydd mewn cyflogaeth sy’n dilyn hyfforddiant oddi ar y swydd hefyd.

Ar gyfer yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Pobl: ymatebwyr i’r Arolwg sydd naill ai:

  • yn gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd
  • sydd ar gynllun cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth ar hyn o bryd
  • sy’n gweithio neu’n astudio tuag at unrhyw gymwysterau
  • sydd wedi cwblhau unrhyw addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â swydd yn y 4 wythnos ddiwethaf
  • sydd wedi ymrestru ar unrhyw gwrs addysg llawn amser neu ran-amser ar hyn o bryd ac eithrio dosbarthiadau hamdden ac yn dal i’w mynychu neu’n aros i’r tymor (ail)ddechrau.

Cyflogaeth

Defnyddir yr Arolwg Poblogaeth Pobl i amcangyfrif y gyfran mewn cyflogaeth ar gyfer amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr SFR a’r Arolwg. Yn ogystal, defnyddir statws cyflogaeth o ddata ymrestru ôl-16 yn yr SFR.

O’r Arolwg Poblogaeth Pobl, bydd ymatebwyr mewn cyflogaeth os ydynt naill ai:

  • yn gyflogedig
  • yn hunangyflogedig
  • ar raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth
  • yn weithiwr teulu di-dâl.

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ni ellir cymharu ffigurau’r datganiad hwn â rhai mewn datganiadau cyn 2015, a oedd yn adrodd ar y rhai a oedd yn nodi anabledd cyfredol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd neu anabledd sy’n cyfyngu ar waith.

Gwybodaeth ansawdd

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn gyda’r amcangyfrifon diweddaraf o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol a phrif gyfres SFR. I ategu’r allbwn blynyddol hwn, cyhoeddir pennawd a thablau bob chwarter wrth i ddata Arolwg Poblogaeth Blynyddol newydd ddod ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfresi hyn, ac amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, wedi’u darparu yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru.

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Dangosydd Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r ‘Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’ a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau yn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn lefel a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ym mis Ionawr 2013, a chynllun gweithredu ym mis Hydref 2013. Mae’r Fframwaith yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc 11 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae’r fframwaith yn seiliedig ar 6 elfen allweddol: Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio; Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth; Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc; Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc; Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth a Gwell atebolrwydd ar gyfer Awdurdodau Lleol.

Cywirdeb

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn arolwg o gartrefi a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau personol ymatebwyr, yn cynnwys eu statws marchnad lafur a’u gweithgarwch addysg a hyfforddiant. Mae’r Arolwg yn cyfuno samplau wedi’u hybu yr Arolwg Llafurlu ac yn darparu data pedwar chwarter treiglol.

Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon seiliedig ar samplau ac felly yn gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifiedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol o gyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed sy’n NEET. Cyfrifwyd y rhain gan ragdybio hapsampl pwysedig syml ac nid ydynt yn ystyried cynllun y sampl ac felly awgrym o’r cyfwng hyder a ddarperir ganddynt yn unig. Hefyd, mae’r dull addasu ar gyfer dosrannu gwerthoedd coll yn creu maint sampl cyfanredol artiffisial a ddefnyddir i gyfrif cyfyngau hyder. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu ac felly mae amcangyfrifon ar gyfer is-grwpiau a rhanbarthau ar gyfer grwpiau oedran 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed sydd o ddiddordeb yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfartaleddau tri chyfnod.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol (SYG).

Mae Siart 1 yn dangos, o 2005 ymlaen, y lefelau a’r tueddiadau tebyg ymhlith pobl ifanc sy’n NEET a welir rhwng cyfresi’r Datganiadau Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn gyffredinol, er fod ychydig o wahaniaeth o ran amcangyfrifon ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed mewn blynyddoedd mwy diweddar, yn enwedig yn 2020. 

Ym mis Awst 2021 aeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ati i ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o fis Ionawr 2020 ymlaen. Diweddarwyd y data ar y boblogaeth a ddefnyddiwyd i lunio amcangyfrifon am y farchnad lafur, er mwyn gallu adlewyrchu’n well newidiadau o ran mudo rhyngwladol ac effeithiau eraill yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Dylai’r newidiadau a wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol i’r pwysoliad leihau tueddiadau mewn amcangyfrifon ar lefelau cyfanredol uchel. Mae’n bosibl y caiff rhai dadansoddiadau llai eu heffeithio’n negyddol ac y gwelir newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai'r sampl sylfaenol ers dechrau’r pandemig.

Polisi diwygiadau

Bydd ffigurau dros dro 2020 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022. Dylid ond cyflwyno diwygiadau yn unol â diwygiadau i ddata ffynhonnell.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r SFR diweddaraf yn darparu data newydd ar gyfer 2019 a data dros dro ar gyfer 2020. Mae’r amcangyfrifon dros dro’n defnyddio’r data gorau ar gyfer 2020 sydd ar gael ar bob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.

Cyfres SFR

Bydd ffigurau dros dro 2020 yn cael eu datgan yn derfynol yn y cyhoeddiad SFR nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2022. Roedd y diwygiadau rhwng amcangyfrifon dros dro a therfynol 2019 yn fwy na’r rhai a welir gan amlaf pan fo amcangyfrifon dros dro’n cael eu diweddaru â’r data terfynol. Mae hyn yn rhannol oherwydd diwygiadau i lawr yn nifer y bobl ifanc mewn addysg amser llawn a rhan-amser rhwng data dros dro y llynedd a'r data terfynol sydd ar gael ar gyfer y datganiad hwn.

Cyfres yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae’r amcangyfrifon hyn o bobl ifanc sy’n NEET yn cael eu diwygio pan mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhyddhau setiau data Arolwg Poblogaeth Blynyddol diwygiedig.

Hygyrchedd ac eglurder

Nid yw’n bosibl dadgyfuno amcangyfrif NEET SFR i lefel awdurdodau lleol oherwydd y ffordd mae’r data wedi’i roi at ei gilydd gan ddefnyddio data ymrestru a chan fod y statws cyflogaeth yn cael ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed mae nifer yr ymatebwyr i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn gymharol fach ym mhob awdurdod; llai na 100 o ymatebwyr.

Defnyddiwyd yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol i amcangyfrif cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn ôl rhanbarth. Fodd bynnag, gan fod maint y samplau tua 200-500 ym mhob ardal ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mae’r amcangyfrifon wedi’u cyfartaleddu dros y tair blynedd dreiglol ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. Y rhanbarthau sy’n cael eu defnyddio yw:

Y Gogledd

Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

Y Canolbarth a’r De-orllewin

Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

Y De-ddwyrain

Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd.

Agweddau cymharydd a chydlyniant

Mae’r dull a ddefnyddir i ddiffinio pobl ifanc sy’n NEET gan ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cael ei gysoni â methodoleg y cytunwyd arno yn y DU o gyfrif amcangyfrifon NEET. Mae rhagor o wybodaeth yn y papur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Adran Addysg yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau NEET pobl ifanc 16 i 18 oed ar gyfer Lloegr (GOV.UK) gan ddefnyddio methodoleg debyg i’r SFR bob blwyddyn. Darparodd y datganiad ystadegol diweddaraf ffigurau dros dro ar gyfer 2020. Mae Siart 7 yn cymharu amcangyfrifon Cymru a Lloegr. Nid yw Lloegr yn darparu mesur cyfwerth ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Image
Mae Siart 7 yn dangos y bwlch cynyddol rhwng Cymru ac amcangyfrifir bod Lloegr rhwng 16 a 18 oed yn NEET.

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

Rhwng 2005 a 2012 dilynodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yng Nghymru a Lloegr dueddiadau tebyg yn fras, ond bod gan Gymru gyfran fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET na Lloegr. O 2005, fodd bynnag, gostyngodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yng Nghymru nes 2006, gan olygu bod gan Gymru gyfran debyg i Loegr yn 2005 a 2006.

Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2020 yn dangos lleihad bach yn y bwlch rhwng Cymru a Lloegr. Wrth fynd ati i ddehongli tueddiadau, dylid nodi y gwnaed newidiadau deddfwriaethol yn 2013/14 gan Lywodraeth y DU a gynyddodd yr oedran y mae’n ofynnol i holl bobl ifanc Lloegr barhau mewn addysg neu hyfforddiant nes ei gyrraedd.

Ar gyfer y ddwy gyfres, mae angen dehongli newidiadau mewn tuedd yn ofalus, gan y gellid priodoli newidiadau i effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn.

Nid yw’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi amcangyfrifon NEET ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed y gellir eu cymharu’n uniongyrchol.

Arolwg Llafurlu/Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae’r Adran Addysg hefyd yn cyhoeddi briff chwarterol ar bobl ifanc sy’n NEET sy’n cynnwys cyfraddau NEET yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol. Yn ogystal, o fis Mai 2013 mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu amcangyfrifon y DU o bobl ifanc sy’n NEET (SYG), sydd hefyd yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol.

Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon chwarterol yn uniongyrchol ag amcangyfrifon Arolwg Poblogaeth Blynyddol Cymru a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn. Nid oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng Cymru a Lloegr na mesur Arolwg Llafurlu y DU yn cael ei ddarparu gan nad yw maint y sampl ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yn ddigon mawr. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond gan ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn lle’r Arolwg Llafurlu, gallwn ddarparu amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET ledled y DU.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon swyddogol a gynhyrchir gan yr Adran Addysg a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac adrannau perthnasol eraill a dylid eu dehongli’n ofalus felly. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol erthygl yn egluro’r gwahaniaeth rhwng ystadegau NEET ledled y DU (SYG), ochr yn ochr â’u cyhoeddiad cyntaf o amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET yn y DU:

Mae Tabl 1 yn dangos amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc sy’n NEET ar gyfer pob un o wledydd y DU ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben yn Ch1 2020 a Ch1 2021.

Ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, bu gostyngiad yng nghyfran y boblogaeth a amcangyfrifwyd yn NEET ar draws y DU yn ei chrynswth.

Tabl 1a: Amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), 16 i 18 oed yn ôl gwlad y DU, Chwarter 1 2020 a Chwarter 1 2021 (canran)
Gwlad Chwarter 1, 2020 Chwarter 1, 2021
Cymru 9.2 9.4
Lloegr 7.3 6.0
Yr Alban 9.9 10.4
Gogledd Iwerddon 6.5(!) 4.1(!)
DU 7.5 6.5

Ffynhonnell: Arolwg Poblogaeth Blynddol
(!) Mae'r eitem ddata'n seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel.

Tabl 1b: Amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), 19 i 24 oed yn ôl gwlad y DU, Chwarter 1 2020 a Chwarter 1 2021 (canran)
Gwlad Chwarter 1, 2020 Chwarter 1, 2021
Cymru 15.4 15.3
Lloegr 13.9 14.4
Yr Alban 11.2 13.6
Gogledd Iwerddon 16.5 13.5
DU 13.8 14.3

Ffynhonnell: Arolwg Poblogaeth Blynddol

Yn Chwarter 1 2021 cynyddodd y gyfran o’r bobl ifanc 16 i 18 oed a amcangyfrifwyd yn NEET yng Nghymru a’r Alban, ac aeth i lawr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynyddodd y bwlch rhwng Cymru a’r DU o 1.7 pwynt canran yn Chwarter 1 2020 i 2.9 pwynt canran yn Chwarter 1 2021.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf. Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi cynnwys nifer o ddelweddau gweledol yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
  • Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Y sylwadau’n fwy ystyrlon wrth gymharu’r ddwy gyfres wahanol

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cyflwynwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef “Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.”

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Pennawd a thablau’n unig: Hydref 2021

Y datganiad hwn: Gorffennaf 2022 (dros dro)

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.addysgol16@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 8067
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 30/2020