Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif bwyntiau

Image
AR sail yr SFR, roedd 11.1% o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn NEET yn 2019 a 15.7% o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

Pobl ifanc 16 i 18 oed

  • Yn gyffredinol, roedd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET wedi bod yn gostwng yn raddol rhwng 2011 a 2017, ond gwelwyd ychydig o gynnydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae maint y cynnydd hwn yn amrywio yn dibynnu ar y ffynhonnell a ddefnyddiwyd.
  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), ar ddiwedd 2019 roedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET (11,200) o gymharu â 10.6% (10,800) ar ddiwedd 2018.
  • Ar sail yr arolwg poblogaeth blynyddol, am y flwyddyn yn gorffen Chwarter 1 2020, amcangyfrifwyd bod 9.2% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 8.2% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter 1 2019.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

  • Ar sail y SFR, ar ddiwedd 2019 roedd 15.7% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET (37,400) gostyngiad o gymharu ag 16.0% (38,500) yn 2018.
  • Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% to 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
  • Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter 1 2020, amcangyfrifwyd bod 15.4% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 16.2% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn Chwarter 1 2019.

2. Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ôl nodwedd

Rhywedd

O’r gyfres SFR mae hefyd yn bosibl cynhyrchu rhaniad rhywedd o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET.

Pobl ifanc 16 i 18 oed

Mae Siart 2 yn dangos bod cyfran y bechgyn a merched 16 i 18 oed sy’n NEET wedi dilyn tueddiadau tebyg yn fras rhwng 2004 a 2019, gyda merched yn llai tebygol o fod yn NEET na bechgyn yn sgil lefelau uwch o gyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant. Mae ffigurau dros dro ar gyfer 2019 yn dangos:

  • bod 12.2% (6,300) o fechgyn 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu ag 11.5% (6,100) yn 2018
  • bod 10.0% (4,900) o ferched 16 i 18 oed yn NEET, cynnydd o 9.6% (4,700) yn 2018
Image
Mae Siart 2 yn dangos, 10.0% o fenywod a 12.2% o ddynion fel cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

Pobl ifanc 19 i 24 oed

Mae Siart 3 yn dangos bod y cyfrannau o fechgyn a merched 19 i 24 oed a oedd yn NEET wedi bod yn cydgyfeirio dros amser.

Mae cyfran y merched sy’n NEET wedi bod yn gyson uwch na bechgyn dros y gyfres hon tan 2018, lle roedd cyfran ychydig yn fwy o fechgyn yn NEET na merched. Newidiodd hyn eto yn 2019 yn ôl y ffigurau dros dro.

Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2019 yn dangos:

  • roedd 15.2% (18,900) o fechgyn 19 i 24 oed yn NEET, gostyngiad o 16.5% (20,900) yn y flwyddyn flaenorol
  • roedd 16.3% (18,500) o ferched 19 i 24 oed yn NEET, cynnydd o 15.4% (17,700) yn y flwyddyn flaenorol
Image
Mae Siart 3 yn dangos, mae merched yn fwy tebygol o fod yn NEET gyda 16.3% o fenywod a 15.2% o ddynion fel cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

Oedran

Gellir defnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol hefyd i ddarparu dadansoddiadau o gyfraddau NEET yn ôl nodweddion, nad ydynt ar gael drwy gyfres SFR. Gan fod y samplau’n fach, wrth edrych ar is-grwpiau bu’n rhaid defnyddio amcangyfrifon yn seiliedig ar gyfartaledd y 3 chyfnod ac felly dylid eu defnyddio i gymharu grwpiau neu ranbarthau’n unig.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod cyfran y bobl ifanc sy'n NEET yn ôl oedran. Mae'r cyfraddau'n amrywio o 4.5% ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 16.5% ar gyfer y rhai sy'n 21 oed.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

Mae cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn cynyddu gydag oedran yn gyffredinol. Mae’r cyfraddau’n amrywio o 4.5% i bobl ifanc 16 oed i 16.5% i bobl ifanc 21 oed.

Anabledd

Image
Mae Siart 5 yn dangos bod cyfran y bobl anabl sy'n NEET yn 17.7% yn 16 i 18 oed o gymharu â 7.0% pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed nad ydynt yn anabl.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

  • Mae cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn uwch ar gyfer pobl anabl yn y ddau grŵp oedran.
  • Mae pob ifanc anabl yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed. Mae cyfran y bobl anabl sy’n NEET yn codi o 17.7% ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed i 40.3% ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Rhanbarth

Image
Mae Siart 6 yn dangos bod gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau sy'n amrywio o 12.8% ar gyfer De-ddwyrain Cymru i 14.2% yng nghanolbarth a De-orllewin Cymru.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

  • Mae cyfraddau NEET yn gwahaniaethu ychydig rhwng rhanbarthau. Roedd cyfran y bobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n NEET yn amrywio o 12.8% yn y De-ddwyrain i 14.2% yn y Canolbarth a’r De-orllewin.

3. Diffiniadau

Addysg a hyfforddiant

Ar gyfer amcangyfrifon SFR: mae’n seiliedig ar y rhai sydd wedi ymrestru ar gwrs mewn ysgol, coleg Addysg Bellach, sefydliad Addysg Uwch (yn cynnwys y Brifysgol Agored) neu gyda darparwr seiliedig ar waith yng Nghymru. Yn ogystal, amcangyfrifir nifer y rhai sydd mewn cyflogaeth sy’n dilyn hyfforddiant oddi ar y swydd hefyd.

Ar gyfer yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr Arolwg Poblogaeth Pobl: ymatebwyr i’r Arolwg sydd naill ai:

  • yn gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd
  • sydd ar gynllun cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth ar hyn o bryd
  • sy’n gweithio neu’n astudio tuag at unrhyw gymwysterau
  • sydd wedi cwblhau unrhyw addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â swydd yn y 4 wythnos ddiwethaf
  • sydd wedi ymrestru ar unrhyw gwrs addysg llawn amser neu ran-amser ar hyn o bryd ac eithrio dosbarthiadau hamdden ac yn dal i’w mynychu neu’n aros i’r tymor (ail)ddechrau

Cyflogaeth

Defnyddir yr Arolwg Poblogaeth Pobl i amcangyfrif y gyfran mewn cyflogaeth ar gyfer amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr SFR a’r Arolwg. Yn ogystal, defnyddir statws cyflogaeth o ddata ymrestru ôl-16 yn yr SFR.

O’r Arolwg Poblogaeth Pobl, bydd ymatebwyr mewn cyflogaeth os ydynt naill ai:

  • yn gyflogedig
  • yn hunangyflogedig
  • ar raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth
  • yn weithiwr teulu di-dâl

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ni ellir cymharu ffigurau’r datganiad hwn â rhai mewn datganiadau cyn 2015, a oedd yn adrodd ar y rhai a oedd yn nodi anabledd cyfredol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd neu anabledd sy’n cyfyngu ar waith.

4. Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn gyda’r amcangyfrifon diweddaraf o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol a phrif gyfres SFR. I ategu’r allbwn blynyddol hwn, cyhoeddir pennawd a thablau bob chwarter wrth i ddata Arolwg Poblogaeth Blynyddol newydd ddod ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfresi hyn, ac amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, wedi’u darparu yn ein canllaw i ddeall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru.

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r Dangosydd Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r ‘Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’ a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau yn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn lefel a chyfran pobl ifanc sy’n NEET.

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid ym mis Ionawr 2013, a chynllun gweithredu ym mis Hydref 2013. Mae’r Fframwaith yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y bobl ifanc 11 i 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae’r fframwaith yn seiliedig ar 6 elfen allweddol:

  1. Nodi pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio
  2. Gwell broceriaeth a chydgysylltu o ran cymorth
  3. Prosesau tracio a phontio cryfach drwy’r system i bobl ifanc
  4. Sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pobl ifanc
  5. Atgyfnerthu sgiliau cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cyflogaeth
  6. Gwell atebolrwydd ar gyfer Awdurdodau Lleol

Mae dangosyddion ynghylch cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn rhan o asesiad cynnydd blynyddol y Strategaeth Tlodi Plant.

Cywirdeb

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn arolwg o gartrefi a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau personol ymatebwyr, yn cynnwys eu statws marchnad lafur a’u gweithgarwch addysg a hyfforddiant. Mae’r Arolwg yn cyfuno samplau wedi’u hybu yr Arolwg Llafurlu ac yn darparu data pedwar chwarter treiglol.

Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon seiliedig ar samplau ac felly yn gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifiedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol o gyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed sy’n NEET. Cyfrifwyd y rhain gan ragdybio hapsampl pwysedig syml ac nid ydynt yn ystyried cynllun y sampl ac felly awgrym o’r cyfwng hyder a ddarperir ganddynt yn unig. Hefyd, mae’r dull addasu ar gyfer dosrannu gwerthoedd coll yn creu maint sampl cyfanredol artiffisial a ddefnyddir i gyfrif cyfyngau hyder. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu ac felly mae amcangyfrifon ar gyfer is-grwpiau a rhanbarthau ar gyfer grwpiau oedran 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed sydd o ddiddordeb yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfartaleddau tri chyfnod.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae Siart 1 yn dangos y lefelau a’r duedd debyg mewn pobl ifanc sy’n NEET o 2005 ymlaen wedi’u dangos rhwng y gyfres SFR a’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn gyffredinol, gyda gwahaniaeth o 3 phwynt canran ar y mwyaf.

Polisi diwygiadau

Bydd ffigurau dros dro 2019 yn cael eu datgan yn derfynol yng nghyhoeddiad y flwyddyn nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Dylid ond cyflwyno diwygiadau yn unol â diwygiadau i ddata ffynhonnell. Mae data Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn ôl i 2012 wedi’i ail-bwysoli’n ddiweddar, ac mae’r gyfres SFR wedi’i diweddaru gyda’r data newydd hwn.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r SFR diweddaraf yn darparu data newydd ar gyfer 2018 a data dros dro ar gyfer 2019. Mae’r amcangyfrifon dros dro’n defnyddio’r data gorau ar gyfer 2019 sydd ar gael ar bob agwedd ar gyfranogiad; mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu.

Cyfres SFR

Bydd ffigurau dros dro 2019 yn cael eu datgan yn derfynol yn y cyhoeddiad SFR nesaf, sydd i’w gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021. Yn achos y gyfran o bobl ifanc 16 i 18 oed yr amcangyfrifir eu bod yn NEET yn 2018, roedd y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif dros dro a gyhoeddwyd yn y datganiad blaenorol a’r amcangyfrif cyhoeddedig terfynol yn 0.3 pwynt canan ar sail y talgryniad cyhoeddedig.

Cyfres yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae’r amcangyfrifon hyn o bobl ifanc sy’n NEET yn cael eu diwygio pan mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhyddhau setiau data Arolwg Poblogaeth Blynyddol diwygiedig.

Hygyrchedd ac eglurder

Nid yw’n bosibl dadgyfuno amcangyfrif NEET SFR i lefel awdurdodau lleol oherwydd y ffordd mae’r data wedi’i roi at ei gilydd gan ddefnyddio data ymrestru a chan fod y statws cyflogaeth yn cael ei amcangyfrif drwy ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed mae nifer yr ymatebwyr i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn gymharol fach ym mhob awdurdod; llai na 100 o ymatebwyr.

Defnyddiwyd yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol i amcangyfrif cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn ôl rhanbarth. Fodd bynnag, gan fod maint y samplau tua 200-500 ym mhob ardal ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mae’r amcangyfrifon wedi’u cyfartaleddu dros y tair blynedd dreiglol ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. Y rhanbarthau sy’n cael eu defnyddio yw:

Y Gogledd

Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

Y Canolbarth a’r De-orllewin

Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

Y De-ddwyrain

Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd.

Agweddau cymharydd a chydlyniant

Mae’r dull a ddefnyddir i ddiffinio pobl ifanc sy’n NEET gan ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cael ei gysoni â methodoleg y cytunwyd arno yn y DU o gyfrif amcangyfrifon NEET. Mae rhagor o wybodaeth yn y papur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r Adran Addysg yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau NEET pobl ifanc 16 i 18 oed ar gyfer Lloegr gan ddefnyddio methodoleg debyg i’r SFR bob blwyddyn. Darparodd y Datganiad Ystadegol diweddaraf ffigurau dros dro ar gyfer 2019. Mae Siart 7 yn cymharu amcangyfrifon Cymru a Lloegr. Nid yw Lloegr yn darparu mesur cyfwerth ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Image
Mae Siart 7 yn dangos y bwlch cynyddol rhwng Cymru (11.3%), ac amcangyfrifir bod Lloegr (6.6%) rhwng 16 a 18 oed yn NEET.

Cyfranogiad oedolion a phobl ifanc ar StatsCymru

Rhwng 2005 a 2012 dilynodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yng Nghymru a Lloegr dueddiadau tebyg yn fras, ond bod gan Gymru gyfran fwy o bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET na Lloegr. O 2005, fodd bynnag, gostyngodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a oedd yn NEET yng Nghymru nes 2006, gan olygu bod gan Gymru gyfran debyg i Loegr yn 2005 a 2006.

Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2019 yn dangos bwlch mwy rhwng Cymru a Lloegr, gyda chyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n NEET yn Lloegr yn cynyddu ychydig i 6.6%. Mae’r gwahaniaeth yn rhannol yn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol yn 2013/14 gan Lywodraeth y DU a gynyddodd yr oedran gorfodol ar gyfer addysg a hyfforddiant i’r holl bobl ifanc yn Lloegr.

Ar gyfer y ddwy gyfres, mae angen dehongli newidiadau mewn tuedd yn ofalus, gan y gellid priodoli newidiadau i effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn.

Nid yw’r Alban a Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi amcangyfrifon NEET ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed y gellir eu cymharu’n uniongyrchol.

Arolwg Llafurlu/Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Mae’r Adran Addysg hefyd yn cyhoeddi briff chwarterol ar bobl ifanc sy’n NEET sy’n cynnwys cyfraddau NEET yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol. Yn ogystal, o fis Mai 2013 mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu amcangyfrifon y DU o bobl ifanc sy’n NEET, sydd hefyd yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol.

Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon chwarterol yn uniongyrchol ag amcangyfrifon Arolwg Poblogaeth Blynyddol Cymru a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn. Nid oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng Cymru a Lloegr na mesur Arolwg Llafurlu y DU yn cael ei ddarparu gan nad yw maint y sampl ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yn ddigon mawr. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond gan ddefnyddio’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn lle’r Arolwg Llafurlu, gallwn ddarparu amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET ledled y DU.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon swyddogol a gynhyrchir gan yr Adran Addysg a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac adrannau perthnasol eraill a dylid eu dehongli’n ofalus felly. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol erthygl yn egluro’r gwahaniaeth rhwng ystadegau NEET ledled y DU, ochr yn ochr â’u cyhoeddiad cyntaf o amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET yn y DU:

Mae Tabl 1 yn dangos amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc sy’n NEET ar gyfer pob un o wledydd y DU ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben yn Ch1 2019 a Ch1 2020.

Yn achos pobl ifanc 16 i 18 oed, gostyngodd y gyfran yr amcangyfrifiwyd eu bod yn NEET ychydig yng Nghymru a ledled y DU gyfan.

Tabl 1: Amcangyfrifon o gyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
  Pobl ifanc 16 i 18 oed   Pobl ifanc 19 i 24 oed  
  Chwarter 1 2019 Chwarter 1 2020 Chwarter 1 2019 Chwarter 1 2020
Cymru 8.2 8.4 16.3 15.0
Lloegr 7.3 7.4 14.4 14.3
Yr Alban 8.6 11.2 13.2 12.7
Gogledd Iwerddon 4.3(!) 3.6(!) 13.9 14.8
Y DU 7.3 7.6 14.4 14.2

(!) Mae'r eitem ddata'n seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel.

Ffynhonnell: Arolwg Poblogaeth Blynyddol

Yn Chwarter 1 2020 cynyddodd cyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed yr amcangyfrifwyd eu bod yn NEET yng Nghymru a holl wledydd y DU, ac eithrio Gogledd Iwerddon. Gostyngodd y bwlch rhwng y DU a Chymru ychydig o 0.9 pwynt canran yn Chwarter 1 2019 i 0.8 pwynt canran yn Chwarter 1 2020.

National Statistics status

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf. Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi cynnwys nifer o ddelweddau gweledol yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
  • Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Y sylwadau’n fwy ystyrlon wrth gymharu’r ddwy gyfres wahanol

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwynwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o’r dangosyddion cenedlaethol sef “Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.”

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Jonathan Ackland
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Telephone: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 24/2020