Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a statws anabledd ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

Pobl ifanc rhwng 16 i 18 oed

  • Yn gyffredinol, mae’r gyfran o bobl ifanc rhwng 16 i 18 oed sydd heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) wedi gostwng yn raddol ers 2011, ond cynyddodd ychydig yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae maint y cynnydd hwn yn amrywio yn dibynnu ar y ffynhonnell a ddefnyddir.
  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf, ar ddiwedd 2018, roedd 10.3% o bobl ifanc rhwng 16 i 18 oed yn NEET o’i gymharu â 9.4% ar ddiwedd 2017.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben gyda Chwarter 1 2019, amcangyfrifwyd bod 8.2% o bobl ifanc rhwng 16 i 18 oed yn NEET, o’i gymharu â 8.3% ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben gyda Chwarter 1 2018.

Pobl ifanc rhwng 19 i 24 oed

  • Mae’r gyfran o bobl ifanc rhwng 19 i 24 oed sydd yn NEET wedi gostwng ers y dirwasgiad ac mae nawr yn sefyll ychydig dros 16%.
  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf, ar ddiwedd 2018, roedd 16.1% o bobl ifanc rhwng 19 i 24 oed yn NEET, cyfran debyg i 2017.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben gyda Chwarter 1 2019, amcangyfrifwyd bod 16.2% o bobl ifanc rhwng 19 i 24 oed yn NEET, o’i gymharu â 14.2% ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben gyda Chwarter 1 2018.

Ffynonellau ystadegol

  • Datganiad ystadegol cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
  • Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Adroddiadau

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.