Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi ystadegau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yw’r datganiad ystadegol cyntaf (SFR) blynyddol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur sy’n defnyddio amrywiol ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad. Mae’r SFR diweddaraf yn darparu amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2022 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2023.

Mae’r amcangyfrifon a nodir yn y datganiad hwn yn darparu data mwy amserol na’r gyfres SFR flynyddol. Cânt eu defnyddio i roi amcan o’r tueddiadau yng nghyfran y bobl ifanc sy’n NEET, a hefyd i roi manylion ychwanegol fesul nodwedd.

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell ac nad oes modd eu cymharu mewn ffordd syml. Mae ein canllaw Deall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru yn darparu rhagor o wybodaeth.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn llai cadarn yn ystadegol nag amcangyfrifon SFR gyda gwahaniaethau cynyddol rhwng y ddwy ffynhonnell ddata fel nodir yn y datganiad SFR. Fodd bynnag, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu i ni ddarparu ystadegau manylach a mwy amserol ar bobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n NEET yng Nghymru, a amlinellir yn y datganiad hwn.

Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ABB) wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol (ABB).

Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Dylai defnyddwyr ystyried tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â thueddiadau a gyhoeddwyd yn y datganiad cyntaf ystadegol blynyddol - Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur, sef y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth am bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.

Roedd amcangyfrifon y datganiad hwn o gyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn arfer cwmpasu’r grwpiau oedran 16 i 18 ac 19 i 24. Oherwydd gostyngiad ym maint sampl yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, mae’r amcangyfrifon hyn wedi’u newid i gwmpasu grŵp oedran 16 i 24 gyda’i gilydd yn hytrach nag fel dau grŵp oedran gwahanol, er mwyn darparu amcangyfrifon mwy cadarn a dibynadwy.

Prif bwyntiau

  • Y gyfradd NEET ar gyfer pobl 16 i 24 oed yng Nghymru oedd 11.6% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, i lawr 2.0 pwynt canran yn ystod y flwyddyn.
  • Y Gogledd oedd â'r gyfradd NEET uchaf o ranbarthau economaidd Cymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, sef 14.6%. Y De-ddwyrain oedd â'r gyfradd isaf, sef 11.4%.
  • Yn y cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, cyfran y bobl anabl a oedd yn NEET oedd 18.1% yn y grŵp 16 i 18 oed, a 38.3% yn y grŵp 19 i 24 oed.
  • Yn y cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, amcangyfrifir bod 12.9% o bobl ifanc Wyn yn NEET, o gymharu â 7.8% o bobl ifanc Ddu, Asiadd ac ethnig leiafrifol.

Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Ffigur 1: Pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, gyda chyfyngau hyder o 95%, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2010 i fis Rhagfyr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos cyfraddau NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru, gyda chyfyngau hyder o 95%. Mae’r gyfradd NEET wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, er gwaethaf cyfraddau amrywiol yn y gyfres yn ystod y cyfnod hwn. Ers 2020, mae’r cyfyngau hyder wedi ehangu yn sgil effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar yr arolwg.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

11.6% oedd y gyfradd NEET ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, i lawr 2.0 pwynt canran yn ystod y flwyddyn. Dros y tymor hirach, mae’r gyfradd wedi gostwng 2.4 pwynt canran dros y pum mlynedd diwethaf a 4.7 pwynt canran dros y degawd diwethaf.

Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn ôl nodwedd

Oherwydd bod y samplau yn fach, wrth edrych ar is-grwpiau bu’n rhaid defnyddio amcangyfrifon ar sail cyfartaledd tri chyfnod. Dylid defnyddio amcangyfrifon o’r fath i gymharu grwpiau neu ranbarthau yn unig.

Rhywedd

Mae modd gweld cyfran y bobl ifanc NEET yn ôl rhyw yn y datganiad SFR diweddaraf sy’n cynnwys data hyd at a chan gynnwys yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer blwyddyn galendr 2023.

Rhanbarth

Ffigur 2: Pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl rhanbarthau economaidd Cymru, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau economaidd Cymru, gyda’r gyfradd uchaf yn y Gogledd, a’r isaf yn y De-ddwyrain.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Yn y cyfnod o dair blynedd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024 roedd gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau economaidd Cymru. Roedd cyfran y bobl ifanc NEET 16 i 24 oed yn amrywio o 11.4% yn y De-ddwyrain i 14.6% yn y Gogledd.

Anabledd

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ceir rhagor o wybodaeth yn y diffiniad o anabledd.

Ffigur 3: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl anabledd, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos cyfran y bobl 16 i 18 ac 19 i 24 oed sy’n NEET yn ôl statws anabledd. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl nad ydynt yn anabl, gyda’r gyfran fwyaf o’r rhai NEET yn bobl ifanc 19 i 24 oed sy’n anabl.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Nodyn [u2]: Mae'r eitem ddata ar gyfer y rhai 16 i 18 oed sy’n anabl yn seiliedig ar rhwng 25 a 39 ymateb, ac mae wedi'i nodi fel eitem o ansawdd cyfyngedig.

Mae pobl ifanc anabl yn llawer mwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed. Yn y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024, mae cyfran y bobl anabl sy’n NEET yn codi o 18.1% ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed i 38.3% ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Ethnigrwydd

Mae’r arolwg yn gofyn i ymatebwyr sut y byddent yn disgrifio eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn - Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.

Ffigur 4: Pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos bod pobl ifanc Wyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na’r rhai o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Nodyn [u1]: Mae'r eitem ddata ar gyfer pobl ifanc Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn seiliedig ar rhwng 10 a 24 ymateb, ac mae wedi'i nodi fel eitem o ansawdd isel.

Yn y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2024 roedd pobl ifanc Wyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Amcangyfrifwyd bod 12.9% o bobl ifanc Wyn yn NEET o gymharu â 7.8% o bobl ifanc Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Diffiniadau

Addysg a hyfforddiant

Ar gyfer yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: ymatebwyr i’r Arolwg sydd naill ai:

  • yn gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd
  • ar gynllun cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth ar hyn o bryd
  • yn gweithio neu’n astudio tuag at unrhyw gymwysterau
  • wedi cwblhau unrhyw addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â swydd yn y 4 wythnos ddiwethaf
  • wedi ymrestru ar unrhyw gwrs addysg llawn amser neu ran-amser ar hyn o bryd ac eithrio dosbarthiadau hamdden ac yn dal i’w mynychu neu’n aros i’r tymor (ail)ddechrau

Cyflogaeth

O’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, bydd ymatebwyr mewn cyflogaeth os ydynt naill ai:

  • yn gyflogedig
  • yn hunangyflogedig
  • ar raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth
  • yn weithiwr teulu di-dâl

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ni ellir cymharu ffigurau’r datganiad hwn â rhai mewn datganiadau cyn 2015, a oedd yn adrodd ar y rhai a oedd yn nodi anabledd cyfredol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd neu anabledd sy’n cyfyngu ar waith.

Rhanbarth

Defnyddiwyd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i amcangyfrif cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn ôl rhanbarth economaidd. Fodd bynnag, gan fod maint y samplau ar gyfer blwyddyn unigol yn llai ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mae’r amcangyfrifon wedi’u rhoi fel cyfartaledd dros dair blynedd dreigl ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. Y rhanbarthau sy’n cael eu defnyddio yw.

Y Gogledd

  • Ynys Môn
  • Gwynedd, Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Y Canolbarth a’r De-orllewin

  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot

Y De-ddwyrain

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Caiff ei ddiweddaru bob chwarter gyda’r amcangyfrifon diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yw’r datganiad ystadegol cyntaf (SFR) blynyddol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur sy’n defnyddio amrywiol ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad.

Fodd bynnag, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu i ni ddarparu ystadegau manylach a mwy amserol ar bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru, a amlinellir yn y datganiad hwn.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn llai cadarn yn ystadegol nag amcangyfrifon SFR gyda gwahaniaethau cynyddol rhwng y ddwy ffynhonnell ddata fel nodir yn y datganiad SFR.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r gyfres Datganiadau Ystadegol Cyntaf ar bobl ifanc NEET, yn ogystal ag amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, yn ein canllaw Ddeall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru.

Bydd data’r Datganiad Ystadegol Cyntaf cael eu defnyddio i fonitro’r Dangosydd Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r ‘Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’ a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau yn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn lefel a chyfran pobl ifanc sy’n NEET. 

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn wreiddiol yn 2013 ac fe'i adnewyddwyd ym mis Medi 2022. Mae’r Fframwaith yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn cynnwys 6 cydran craidd:

  • Adnabod unigolion yn gynnar
  • Broceru
  • Monitro cynnydd
  • Darpariaeth
  • Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
  • Atebolrwydd

Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i Cymru Gryfach, Tecach, Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'r atodiad technegol ar gyfer y strategaeth yn cyfeirio at y dangosydd cenedlaethol yn ymwneud â phobl ifanc mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant er bod hyn yn cael ei fonitro drwy’r gyfres SFR (gweler hefyd yr adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol isod). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc.

Cywirdeb

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg o gartrefi a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau personol ymatebwyr, yn cynnwys eu statws marchnad lafur a’u gweithgarwch addysg a hyfforddiant. Mae’r Arolwg yn cyfuno samplau wedi’u hybu yr Arolwg Llafurlu ac yn darparu data treigl pedwar chwarter.

Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon seiliedig ar samplau ac felly yn gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifiedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o gyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed sy’n NEET yng Nghymru ac maent wedi'u cynnwys yn ffigur 1 ac yn y tablau gwe a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Cyfrifwyd y rhain gan ragdybio hapsampl pwysedig syml ac nid ydynt yn ystyried cynllun y sampl ac felly awgrym o’r cyfwng hyder a ddarperir ganddynt yn unig. Hefyd, mae’r dull addasu ar gyfer dosrannu gwerthoedd coll yn creu maint sampl cyfanredol artiffisial a ddefnyddir i gyfrif cyfyngau hyder. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu, ac felly mae’r amcangyfrifon yn mynd yn llai dibynadwy. Oherwydd hyn, mae’r amcangyfrifon ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth ac ardaloedd daearyddol is yn seiliedig ar gyfartaleddau tair blynedd.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG)

Mae'r (SYG) wedi ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer cyfnodau sy'n cwmpasu'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 1 2020 i'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 4 2022. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ailbwysoliad hwn a'i effaith mewn erthygl a gyhoeddwyd gan yr SYG ar Effaith ailbwysoli ar yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG).

Nid yw'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi'i ailbwysoli eto yn unol ag ailbwysoli'r Arolwg o’r Llafurlu ym mis Chwefror 2024 i gynnwys yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth. Cynhaliwyd yr ail-bwysoli hwn yn dilyn gostyngiad mewn ansawdd data. Bydd amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn parhau i gael eu cyhoeddi yn seiliedig ar fethodoleg bwysoli blaenorol yr Arolwg o’r Llafurlu.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y datganiad ystadegol hwn ei rannu ymlaen llaw, ac yna’i gyhoeddi ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Caiff y datganiad ei gyhoeddi ar ffurf PDF hygyrch (PDF/A), ynghyd â thaenlen ar fformat data agored. Dilynir canllawiau hygyrchedd wrth lunio’r datganiad a’r daenlen.

Cymharedd a chydlyniant

Ffigur 5: Pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, 2010 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn cymharu cyfraddau NEET yr SFR a chyfraddau NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed. Mae’r ddau fesur yn dangos tuedd debyg yng nghyfraddau NEET pobl ifanc 16 i 24 oed ers 2010. Fodd bynnag, mae’r amrywiadau rhwng yr SFR a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi bod yn fwy yn gyffredinol ers 2020.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o gyfres yr SFR a chyfres yr Arolwg Blynyddol o’r boblogaeth ar unigolion NEET

(p): Nid yw ffigurau’r SFR ar gyfer 2023 yn rhai terfynol.

Mae’r dull a ddefnyddir i ddiffinio pobl ifanc sy’n NEET gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cael ei gysoni â methodoleg y cytunwyd arno yn y DU o gyfrif amcangyfrifon NEET. Mae rhagor o wybodaeth yn y papur a gyhoeddwyd gan y SYG (Yr Archifau Genedlaethol).

Arolwg o’r Llafurlu / Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae’r Adran Addysg hefyd yn cyhoeddi briff blynyddol ar bobl ifanc sy’n NEET sy’n cynnwys cyfraddau NEET yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol. Yn ogystal, o fis Mai 2013 mae’r SYG wedi cynhyrchu amcangyfrifon y DU o bobl ifanc sy’n NEET, sydd hefyd yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol.

Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon chwarterol yn uniongyrchol ag amcangyfrifon Arolwg Blynyddol o Boblogaeth Cymru a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn. Nid oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng Cymru a Lloegr na mesur Arolwg Llafurlu y DU yn cael ei ddarparu gan nad yw maint y sampl ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yn ddigon mawr. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hytrach na’r Arolwg o’r Llafurlu, gallwn amcangyfrif nifer y bobl ifanc sy’n NEET ar draws y DU. Darperir yr amcangyfrifon hyn yn Nhabl 7 y gwe-dablau a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad hwn.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon swyddogol a gynhyrchir gan yr Adran Addysg a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ynghyd â’r adrannau perthnasol eraill, a dylid bod yn ofalus felly wrth eu dehongli. Cyhoeddodd y SYG erthygl yn egluro’r gwahaniaeth rhwng ystadegau NEET ledled y DU, ochr yn ochr â’u cyhoeddiad cyntaf o amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET yn y DU.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.

Dibynadwyedd

Rydym yn cyhoeddi canllawiau i ddefnyddwyr ar y gwahanol ffynonellau NEET ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynnwys arweiniad manwl ar y gwahaniaethau rhwng y ffynonellau a'r diffiniadau, a throsolwg cryno o'r fethodoleg a ddefnyddir ar gyfer pob ffynhonnell.

Mae'r data ar gyfer y datganiad hwn wedi'u cyfrifo ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ac maent wedi'u gosod gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw yn yr adran Ystadegau ac Ymchwil ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ystod y prosesu, mae'r mynediad at y data wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy'n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae’r data yn y datganiad hwn i gyd yn deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi mynd yn gynyddol anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn llai ystadegol gadarn nag amcangyfrifon yr SFR. Mae’r ddwy ffynhonnell ddata wedi amrywio’n gynyddol, fel y nodir yn y datganiad SFR. Fodd bynnag, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu inni ddarparu ystadegau mwy manwl ac amserol ynghylch pobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n NEET yng Nghymru, sydd wedi’u hamlinellu yn y datganiad hwn.

Yn flaenorol, ystyrid yr amcangyfrifon hyn yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi gweld gostyngiad ym meintiau’r samplau dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi cael ei ailbwysoli yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid rhoi’r gorau i’r achrediad hwn dros dro, ac y dylid ailddynodi’r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol.

Mae'n dal i fod yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylid nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch amcangyfrifon sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â’r tueddiadau a gyhoeddir yn y datganiad cyntaf ystadegol blynyddol: Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sef y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yng Nghymru.

Wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn, mae pob cam dan arweiniad ystadegwyr proffesiynol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.

Gwerth

Mae ein hystadegau swyddogol ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn dangos y tueddiadau yng nghyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n NEET yng Nghymru. Mae’r ystadegau hyn wedi’u cyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall y tueddiadau diweddaraf mewn cyfraddau NEET. Bydd yr ystadegau yn cael eu diweddaru bob chwarter drwy gydol y flwyddyn.

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:

  • Cyngor i Weinidogion
  • llywio'r broses benderfynu ynglŷn â pholisi addysg a chyflogadwyedd yng Nghymru
  • cynorthwyo a monitro cynnydd rhaglenni sydd â'r nod o ddarparu a gwella cyfleoedd addysgol a chyflogaeth i bobl ifanc yng Nghymru, megis y Warant i Bobl Ifanc, y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a'r dangosydd cenedlaethol

Ochr yn ochr â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a’I hailddefnyddio’n eang ac sy’n cydymffurfio â chanllawiau gwaith dadansoddi’r Llywodraeth ar ryddhau ystadegau mewn taenlenni.

Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr. Hefyd, cyhoeddir ein holl allbynnau ar ystadegau’r farchnad lafur yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Caiff data SFR a gyhoeddwyd yn y datganiad Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur eu defnyddio i fonitro’r Dangosydd Cenedlaethol a’r garreg filltir yn ymwneud â:

  • (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Mae dangosydd 22 ‘Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran’, yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol:

  • Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 14/2025