Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi ystadegau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yw’r datganiad ystadegol cyntaf (SFR) blynyddol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur sy’n defnyddio amrywiol ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad. Mae’r SFR diweddaraf yn darparu amcangyfrifon terfynol ar gyfer 2021 ac amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2022

Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn llai cadarn yn ystadegol nag amcangyfrifon SFR gyda gwahaniaethau cynyddol rhwng y ddwy ffynhonnell ddata fel nodir yn y datganiad SFR. Fodd bynnag, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu i ni ddarparu ystadegau manylach a mwy amserol ar bobl ifanc (14 i 24 oed) sy’n NEET yng Nghymru, a amlinellir yn y datganiad hwn.

Yn y diweddariad chwarterol diweddaraf hwn, rydym wedi canolbwyntio ar amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o bobl ifanc sy’n NEET, gan gyflwyno manylion pellach fesul nodwedd.

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw Deall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru yn darparu rhagor o wybodaeth.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2004 i Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos cyfraddau NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yng Nghymru. Mae cyfraddau NEET y ddau grŵp oedran wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, er gwaethaf cyfraddau amrywiol ym mhob cyfres yn ystod y cyfnod hwn. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

7.4% oedd y gyfradd NEET ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, i lawr 1.4 pwynt canran yn ystod y flwyddyn. Dros y tymor hirach, mae’r gyfradd wedi gostwng 0.9 pwynt canran dros y pum mlynedd diwethaf, a 4.5 pwynt canran dros y degawd diwethaf.

16.3% oedd y gyfradd NEET ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, i fyny 2.0 pwynt canran yn ystod y flwyddyn. Dros y tymor hirach, mae’r gyfradd wedi cynyddu 0.3 pwynt canran dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o 4.1 pwynt canran dros y degawd diwethaf.

Cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn ôl nodwedd

Oherwydd bod y samplau yn fach, wrth edrych ar is-grwpiau bu’n rhaid defnyddio amcangyfrifon ar sail cyfartaledd tri chyfnod. Dylid defnyddio amcangyfrifon o’r fath i gymharu grwpiau neu ranbarthau yn unig.

Rhywedd

Mae modd gweld cyfran y bobl ifanc NEET yn ôl rhyw yn y datganiad SFR diweddaraf sy’n cynnwys data hyd at a chan gynnwys yr amcangyfrifon dros dro ar gyfer blwyddyn galendr 2022.

Oedran

Ffigur 2: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, yn ôl oedran, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar yn dangos cyfran y bobl ifanc NEET yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Rhagfyr 2023 ar gyfer pob blwyddyn oedran o 16 i 24 oed. Mae cyfran y rhai sydd rhwng 21 a 24 oed yn uwch na’r rhai sydd rhwng 16 ac 20 oed.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Nodyn [u]: Mae'r eitem ddata ar gyfer y rhai 16 oed yn seiliedig ar rhwng 10 a 25 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel. 

Yn ystod y tair blynedd hyd at fis Rhagfyr 2023, roedd cyfran y bobl ifanc a oedd yn NEET yng Nghymru yn gymharol debyg ymhlith y rheini rhwng 17 ac 20 oed. Fodd bynnag, cynyddodd y gyfradd ar gyfer y rhai rhwng 21 a 24 oed. Ymhlith y rhai a oedd yn 16 oed yr oedd y gyfradd NEET isaf, sef 4.6%, a’r rhai a oedd yn 23 oed oedd â’r gyfradd NEET uchaf, sef 19.3%.

Rhanbarth

Ffigur 3: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl rhanbarth, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar yn dangos bod gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau Cymru, gyda’r gyfradd uchaf yn y Canolbarth a’r De-orllewin, a’r isaf yn y De-ddwyrain.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Yn y cyfnod o dair blynedd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2023 roedd gwahaniaethau bach yn y cyfraddau NEET rhwng rhanbarthau Cymru. Roedd cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed NEET yn amrywio o 12.0% yn y De-ddwyrain i 14.5% yn y Canolbarth a’r De-orllewin.

Anabledd

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ceir rhagor o wybodaeth yn y diffiniad o anabledd.

Ffigur 4: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl anabledd, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos cyfran y bobl 16 i 18 ac 19 i 24 oed sy’n NEET yn ôl statws anabledd. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl nad ydynt yn anabl, gyda’r gyfran fwyaf o’r rhai NEET yn bobl ifanc 19-24 oed sy’n anabl.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Nodyn [u]: Mae'r eitem ddata ar gyfer y rhai 16 i 18 oed sy’n anabl yn seiliedig ar rhwng 25 a 40 ymateb ac wedi'i dosbarthu fel ei bod o ansawdd isel. 

Mae pob ifanc anabl yn llawer fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc nad ydynt yn anabl. Mae’r gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed o gymharu â phobl ifanc 16 i 18 oed. Yn y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, mae cyfran y bobl anabl sy’n NEET yn codi o 19.6% ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed i 38.8% ar gyfer pobl ifanc 19 i 24 oed.

Ethnigrwydd

Mae’r arolwg yn gofyn i ymatebwyr sut y byddent yn disgrifio eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn - Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.

Ffigur 5: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru yn ôl ethnigrwydd, yn y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar yn dangos bod pobl ifanc gwyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na’r rhai o gefndir du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Yn y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 roedd pobl ifanc Gwyn yn fwy tebygol o fod yn NEET na phobl ifanc du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol. Amcangyfrifwyd bod 13.4% o bobl ifanc Gwyn yn NEET o'i gymharu â 9.0% o bobl ifanc du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol.

Diffiniadau

Addysg a hyfforddiant

Ar gyfer yr amcangyfrifon sy’n seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: ymatebwyr i’r Arolwg sydd naill ai:

  • yn gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd
  • sydd ar gynllun cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth ar hyn o bryd
  • sy’n gweithio neu’n astudio tuag at unrhyw gymwysterau
  • sydd wedi cwblhau unrhyw addysg neu hyfforddiant cysylltiedig â swydd yn y 4 wythnos ddiwethaf
  • sydd wedi ymrestru ar unrhyw gwrs addysg llawn amser neu ran-amser ar hyn o bryd ac eithrio dosbarthiadau hamdden ac yn dal i’w mynychu neu’n aros i’r tymor (ail)ddechrau

Cyflogaeth

O’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, bydd ymatebwyr mewn cyflogaeth os ydynt naill ai:

  • yn gyflogedig
  • yn hunangyflogedig
  • ar raglenni cyflogaeth neu hyfforddiant llywodraeth
  • yn weithiwr teulu di-dâl

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru’n derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef y ffynhonnell ddata ar gyfer y datganiad hwn, yn cipio’r data gan ddefnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol neu hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol bob dydd”). Ni ellir cymharu ffigurau’r datganiad hwn â rhai mewn datganiadau cyn 2015, a oedd yn adrodd ar y rhai a oedd yn nodi anabledd cyfredol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd neu anabledd sy’n cyfyngu ar waith.

Rhanbarth

Defnyddiwyd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i amcangyfrif cyfran y bobl ifanc sy’n NEET yn ôl rhanbarth. Fodd bynnag, gan fod maint y samplau ar gyfer blwyddyn unigol yn llai ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed mae’r amcangyfrifon wedi’u rhoi fel cyfartaledd dros dair blynedd dreigl ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed. Y rhanbarthau sy’n cael eu defnyddio yw:

Y Gogledd

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Y Canolbarth a’r De-orllewin

  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot

Y De-ddwyrain

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd

Gwybodaeth ansawdd

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar bobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Caiff ei ddiweddaru bob chwarter gyda’r amcangyfrifon diweddaraf o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. 

Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer gwybodaeth NEET yw’r datganiad ystadegol cyntaf (SFR) blynyddol, Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur sy’n defnyddio amrywiol ffynonellau data i amcangyfrif cyfranogiad. 

Fodd bynnag, mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn caniatáu i ni ddarparu ystadegau manylach a mwy amserol ar bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru, a amlinellir yn y datganiad hwn.

Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn llai cadarn yn ystadegol nag amcangyfrifon SFR gyda gwahaniaethau cynyddol rhwng y ddwy ffynhonnell ddata fel nodir yn y datganiad SFR. 

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r gyfres Datganiadau Ystadegol Cyntaf ar bobl ifanc NEET, yn ogystal ag amcangyfrifon NEET o arolwg cyrchfannau disgyblion Gyrfa Cymru, yn ein canllaw Ddeall y gwahanol ffynonellau o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru

Bydd data’r Datganiad Ystadegol Cyntaf cael eu defnyddio i fonitro’r Dangosydd Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r ‘Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’ a gyflwynwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau yn Llywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau yn lefel a chyfran pobl ifanc sy’n NEET. 

Cyhoeddwyd y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn wreiddiol yn 2013 ac fe'i adnewyddwyd ym mis Medi 2022. Mae’r Fframwaith yn fecanwaith systematig i adnabod ac ymateb i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET, sydd yn NEET a/neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae'n canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ac yn cynnwys 6 cydran craidd:

  1. Adnabod unigolion yn gynnar
  2. Broceru
  3. Monitro cynnydd
  4. Darpariaeth
  5. Cyflogadwyedd a chyfleoedd cyflogaeth
  6. Atebolrwydd

Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i Cymru Gryfach, Tecach, Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau. Mae'r atodiad technegol ar gyfer y strategaeth yn cyfeirio at y dangosydd cenedlaethol yn ymwneud â phobl ifanc mewn cyflogaeth, addysg a hyfforddiant er bod hyn yn cael ei fonitro drwy’r gyfres SFR (gweler hefyd yr adran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol isod). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc.

Cywirdeb

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn arolwg o gartrefi a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am amgylchiadau personol ymatebwyr, yn cynnwys eu statws marchnad lafur a’u gweithgarwch addysg a hyfforddiant. Mae’r Arolwg yn cyfuno samplau wedi’u hybu yr Arolwg Llafurlu ac yn darparu data treigl pedwar chwarter. 

Gan fod y data yn dod o arolwg, mae’r canlyniadau’n amcangyfrifon seiliedig ar samplau ac felly yn gallu amrywio i wahanol raddau, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i’w weld yn ystod amrywiol y gwerth amcangyfrifiedig. Cyfrifwyd cyfyngau hyder o tua 95% ar gyfer amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o gyfran y bobl ifanc 16 i 18 oed a 19 i 24 oed sy’n NEET yng Nghymru ac maent wedi'u cynnwys yn y tablau gwe a gyhoeddir ochr yn ochr â'r datganiad hwn. Mae'r siart isod yn dangos prif gyfres amser NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 a 19 i 24 oed gyda chyfyngau hyder o 95% wedi’u cynnwys.

Ffigur 6: Amcangyfrifon o’r pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, gyda chyfyngau hyder o 95%, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2004 i Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth o bobl ifanc NEET yng Nghymru gyda chyfwng hyder o 95% wedi’u lliwio. Ers 2020, mae’r cyfyngau hyder ychydig yn ehangach ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed, yn sgil effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar yr arolwg.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Cyfrifwyd y rhain gan ragdybio hapsampl pwysedig syml ac nid ydynt yn ystyried cynllun y sampl ac felly awgrym o’r cyfwng hyder a ddarperir ganddynt yn unig. Hefyd, mae’r dull addasu ar gyfer dosrannu gwerthoedd coll yn creu maint sampl cyfanredol artiffisial a ddefnyddir i gyfrif cyfyngau hyder. Mae amrywioldeb y samplau’n cynyddu wrth i’r manylion yn y data gynyddu ac felly mae amcangyfrifon ar gyfer is-grwpiau a rhanbarthau ar gyfer grwpiau oedran 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed sydd o ddiddordeb yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfartaleddau tri chyfnod.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG)  

Mae'r SYG wedi ailgalibradu pwysoliad setiau data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gyfer cyfnodau sy'n cwmpasu'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 1 2020 i'r flwyddyn sy'n dod i ben yn chwarter 4 2022. Ceir rhagor o wybodaeth am yr ailbwysoliad hwn a'i effaith mewn erthygl a gyhoeddwyd gan yr SYG ar Effaith ailbwysoli ar yr Arolwg o’r Llafurlu.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y datganiad ystadegol hwn ei rannu ymlaen llaw, ac yna’i gyhoeddi ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Caiff y datganiad ei gyhoeddi ar ffurf HTML, ynghyd â thaenlen ar fformat data agored. Dilynir canllawiau hygyrchedd wrth lunio’r datganiad a’r daenlen.

Cymharedd a chydlyniant

Ffigur 7: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru, 2004 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell yn cymharu cyfraddau NEET yr SFR a chyfraddau NEET yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ymhlith pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed. Mae’r ddau fesur yn dangos bod cyfraddau NEET wedi gostwng yn 2022. Mae’r SFR yn dangos cyfradd uwch, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 16 i 18 oed.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o gyfres yr SFR a chyfres yr Arolwg Blynyddol o’r boblogaeth ar unigolion NEET

(p): Mae ffigurau SFR ar gyfer 2022 yn rhai dros dro.

Mae’r dull a ddefnyddir i ddiffinio pobl ifanc sy’n NEET gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cael ei gysoni â methodoleg y cytunwyd arno yn y DU o gyfrif amcangyfrifon NEET. Mae rhagor o wybodaeth yn y papur a gyhoeddwyd gan y SYG.

Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Mae’r Adran Addysg hefyd yn cyhoeddi briff blynyddol ar bobl ifanc sy’n NEET sy’n cynnwys cyfraddau NEET yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol. Yn ogystal, o fis Mai 2013 mae’r SYG wedi cynhyrchu amcangyfrifon y DU o bobl ifanc sy’n NEET, sydd hefyd yn seiliedig ar yr Arolwg Llafurlu chwarterol.

Ni ellir cymharu’r amcangyfrifon chwarterol yn uniongyrchol ag amcangyfrifon Arolwg Blynyddol o Boblogaeth Cymru a gyhoeddwyd yn y datganiad hwn. Nid oes cymhariaeth uniongyrchol rhwng Cymru a Lloegr na mesur Arolwg Llafurlu y DU yn cael ei ddarparu gan nad yw maint y sampl ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed ac 19 i 24 oed yn ddigon mawr. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio methodoleg debyg i’r hyn a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond gan ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hytrach na’r Arolwg o’r Llafurlu, gallwn amcangyfrif nifer y bobl ifanc sy’n NEET ar draws y DU. Darperir yr amcangyfrifon hyn yn Nhabl 7 y gwe-dablau a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad hwn.

Bydd yr amcangyfrifon hyn yn wahanol i’r amcangyfrifon swyddogol a gynhyrchir gan yr Adran Addysg a’r SYG, ynghyd â’r adrannau perthnasol eraill, a dylid bod yn ofalus felly wrth eu dehongli. Cyhoeddodd y SYG erthygl yn egluro’r gwahaniaeth rhwng ystadegau NEET ledled y DU, ochr yn ochr â’u cyhoeddiad cyntaf o amcangyfrifon o bobl ifanc sy’n NEET yn y DU.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac sy’n arwydd eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus uchaf. Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â’r Cod, yn cynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaeth. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Wedi cynnwys nifer o siartiau yn dangos tueddiadau hirdymor yn ogystal â sylwadau ar y tueddiadau hyn
  • Cael gwared ar dablau diangen o’r datganiad gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Y sylwadau’n fwy ystyrlon wrth gymharu’r ddwy gyfres wahanol 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiaeth â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’u hailgyflwyno pan fydd safonau’n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Caiff data SFR eu defnyddio i fonitro’r Dangosydd Cenedlaethol yn ymwneud â:

  • (22) Canran o bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, a fesurir ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf mae’n rhaid cyfeirio atynt mewn dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd. 

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Mae dangosydd 22 ‘Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran’, yn cyfateb i garreg filltir genedlaethol:

  • Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16 i 24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch yr adborth i ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 14/2024

Image
Ystadegau Gwladol