Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac anabledd ar gyfer 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)
Gwybodaeth am y gyfres:
Pobl ifanc 16 i 18 oed
- Roedd gostyniad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yna, cynyddodd y gyfran hon rhwng 2017 a 2019 cyn gostwng eto yn 2020. Dros y blynyddoedd diweddaraf, mae maint y newid yn amrywio’n ôl pa ffynhonell sy’n cael ei defnyddio.
- Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), yn ystod 2020 roedd 11.1% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET (11,300) o gymharu â 11.7% (11,900) yn ystod 2019.
- Ar sail yr arolwg poblogaeth blynyddol, am y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd bod 9.9% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 7.9% yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Pobl ifanc 19 i 24 oed
- Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), yn ystod 2020 roedd 15.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET (36,400) gostyngiad o gymharu ag 16.1% (38,900) yn 2019.
- Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% i 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.
- Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2021, amcangyfrifwyd bod 14.9% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 14.6% yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Ffynonellau ystadegol
- Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 19 KB
ODS
19 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.