Neidio i'r prif gynnwy

Mae cannoedd o filoedd o ddisgyblion yng Nghymru yn gweithredu ar newid hinsawdd wrth i raglen addysg Eco-Ysgolion ddathlu 30 mlynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Eco-Ysgolion yn un o'r rhaglenni ysgolion cynaliadwy byd-eang mwyaf – yn ymgysylltu miliynau o blant ar draws 73 o wledydd, gan ddechrau yn yr ystafell ddosbarth ac ehangu i'r gymuned er mwyn ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf mewn dysgu sy’n seiliedig ar weithredu.

Yng Nghymru, mae 90 y cant o ysgolion ar draws pob awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen Eco-Ysgolion. Mae hyn yn cyfateb i dros 400,000 o ddisgyblion - un o'r cyfraddau cyfranogi uchaf yn y byd!

Mae'r rhaglen Eco-Ysgolion yn grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'w hysgol a'u cymuned ehangach, ac mae'n cefnogi'r dysgwyr i gynllunio a gweithredu camau cadarnhaol gan hyrwyddo gweithredu amgylcheddol yn eu hysgol.

Mae'r pynciau hyn yn torri materion mawr, byd-eang fel newid yn yr hinsawdd yn themâu mwy hylaw a phenodol, sy'n annog pobl ifanc i ystyried newidiadau amgylcheddol y gallant eu gwneud yn eu hysgol a’u bywydau bob dydd.

Ar daith ddiweddar i'r Senedd, cyfarfu ysgol gynradd Betws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n un o'r miloedd o Eco-Ysgolion yng Nghymru, ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac roeddent yn gyffrous iawn i glywed bod Cymru bellach yn ail yn y byd am gyfraddau ailgylchu, yn enwedig gan mai 'ymchwilio i ailgylchu' yw eu pwnc eco ar hyn o bryd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies: 

Roeddwn yn falch iawn o groesawu disgyblion Ysgol Gynradd Betws.

Dywedodd y disgyblion wrthyf sut maen nhw'n gwerthfawrogi'r gofod y tu allan i'w hysgol a pha mor bwysig mae hwnnw i fywyd gwyllt, addysg a chwarae.

Cefais glywed hefyd sut maen nhw'n gweithio'n galed i gyflawni eu pedwaredd gwobr y Faner Werdd - a elwir hefyd yn wobr eco platinwm - ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt wrth iddynt fynd amdani.

Mae'n amlwg bod gan y disgyblion hyn, fel cynifer o bobl ifanc eraill ledled Cymru, frwdfrydedd gwirioneddol dros ailgylchu, diogelu natur a'r amgylchedd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: 

Mae cefnogi ein dysgwyr i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned wrth wraidd ein cwricwlwm newydd. 

Dros y 30 mlynedd diwethaf mae eco-ysgolion wedi ein helpu i gefnogi'r uchelgais hwn a rhoi mwy o wybodaeth i ddysgwyr am faterion amgylcheddol a sut y gallant helpu i ofalu am ein planed.

Mae gan Gymru uchelgeisiau uchel i fwy o bobl ifanc wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol yn eu hysgol a'u cymunedau ehangach. Byddwn yn parhau i hyrwyddo eco-ysgolion er mwyn ceisio cyflawni carreg filltir arall sef bod 100% o'n hysgolion yn eco-ysgolion.