Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru’n dymuno pob lwc i dîm Cymru cyn eu gêm hanesyddol yn y rownd gyn derfynol yn erbyn Portiwgal

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: 

“Ar ôl aros 58 mlynedd am ein lle mewn twrnament pêl-droed o fri mae Ewro 2016 yn gwireddu ein breuddwydion. Roedd perfformiad y tîm nos Wener diwethaf yn gwbl ysbrydoledig a bydd yn sicr yn cael ei gofio fel un o uchafbwyntiau chwaraeon ein gwlad.   

“Ni allai’r wlad fod yn fwy balch o’r grŵp arbennig hwn o chwaraewyr. Mae Chris Coleman a’i dîm, yn ogystal â’r miloedd  o gefnogwyr sydd wedi teithio i Ffrainc, wedi bod yn llysgenhadon rhagorol i Gymru. Mae’r neges ‘Gorau Chwarae Cyd Chwarae’ wir yn cyfleu cryfder, ysbryd a sylfeini cadarn y tîm hwn a’u cefnogwyr.  

“Bydd y wlad gyfan yn cefnogi tîm Cymru pan fyddant yn wynebu Portiwgal. Mae Chris Coleman ei hun wedi nodi nad oes terfyn ar hyn y gallwn ei gyflawni os byddwn yn parhau i freuddwydio. Pob lwc fechgyn, byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd.”