Rhianta cadarnhaol yw'r ffordd fwyaf effeithiol o reoli ymddygiad anodd a helpu rhieni i ddatblygu perthynas dda gyda'u plant - dyma neges ymgyrch sy'n cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw.
Mae'r ymgyrch 'Magu Plant. Rhowch amser iddo' yn hyrwyddo manteision rhianta cadarnhaol i helpu rhieni i reoli cyfnodau heriol yn natblygiad plentyn.
Mae'n darparu gwefan arbennig, tudalen Facebook ac adnoddau argraffedig sy'n cynnig awgrymiadau a gwybodaeth i rieni.
Gan ddechrau o'r adeg y caiff plant eu geni, mae'r rhain yn cynnwys:
- cymryd amser i fodelu'r ymddygiad rydych am ei weld
- gwneud amser i ganmol
- gwneud amser i ddangos cariad ac anwyldeb
- gwneud amser i wrando, siarad a chwarae
- gwneud amser i roi trefn a phatrwm i'ch diwrnod (plant 2 i 7 oed).
Mae'r ymgyrch hon yn rhan o'r gefnogaeth ehangach i rieni ac yn cael ei lansio cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i wahardd cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
Wrth lansio'r ymgyrch dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies:
"Rwy'n dad fy hun, felly rwy'n gwybod nad yw magu plant yn hawdd. Dyw plant ddim yn dod gyda chyfarwyddiadau. Dyma pam fod ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo' yn ceisio helpu rhieni i wneud eu gorau.
"Bydd yn helpu rhieni i ddeall yn well manteision technegau rhianta cadarnhaol fel ffordd o fagu plant hyderus a hapus a chefnogi eu datblygiad. Os yw plentyn yn deall bod yna drefn ac yn cael amser i gyfarwyddo â phatrymau, bydd ei ymddygiad yn gwella a bydd yn teimlo'n fwy diogel a hyderus.
"Technegau cadarnhaol fel 'anadlu'n ddwfn cyn ymateb i stranc' a 'phwysigrwydd patrymau a threfn' yn lle gweiddi neu golli eich tymer yw'r ffordd orau o helpu eich plant. Mae hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant a sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn tyfu mewn awyrgylch sy'n rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt yn eu bywyd.
"Dyma pam y byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth y flwyddyn nesaf i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol, a fydd yn gwahardd rhieni a'r rheini sy'n gweithredu in loco parentis rhag cosbi plant yn gorfforol."
Dewch i wybod mwy trwy ymweld â llyw.cymru/rhowchamseriddo