Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno isafbris o 50c am uned o alcohol o 2 Mawrth 2020 ymlaen, gyda rheoliadau’n cael eu cymeradwyo heddiw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yn golygu y bydd yn drosedd gwerthu alcohol o dan y pris hwnnw yng Nghymru.
Yng Nghymru, bydd bron i 60,000 o dderbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn, sy’n golygu costau o £159m i GIG Cymru bob blwyddyn. Yn 2018, roedd 535 o farwolaethau’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.
Mae’r gyfraith newydd yn cefnogi gwaith cynhwysfawr Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag yfed niweidiol a pheryglus drwy sicrhau nad yw alcohol rhad a chryf ar gael mor hawdd ac am bris mor fychan. Mae hyn yn rhan o’r ymdrechion ehangach i wella a diogelu iechyd pobl Cymru.
Mae’r ymchwil yn amcangyfrif y byddai cyflwyno isafbris uned o 50c am alcohol yn cyflawni’r canlynol:
- byddai 66 yn llai o farwolaethau ac 1,281 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn
- byddai GIG Cymru yn arbed mwy na £90 million dros gyfnod o 20 mlynedd, mewn costau gofal iechyd uniongyrchol
- byddai llai o absenoldeb yn y gweithle, a allai olygu gostyngiad o hyd at 9,800 o ddiwrnodau bob blwyddyn.
- Dros gyfnod o 20 mlynedd, gallai cyflwyno isafbris am alcohol gyfrannu £783 million at economi Cymru yn sgil y gostyngiad yn nifer yr achosion o salwch sy’n gysylltiedig ag alcohol, troseddau, ac absenoldeb yn y gweithle.
Mae adroddiad diweddar gan gonsortiwm o ymchwilwyr, gan gynnwys Figure 8 Consultancy Services Ltd, Prifysgol de Cymru, a Phrifysgol Glyndŵr wedi dangos y byddai’n annhebygol y byddai cyflwyno isafbris uned am alcohol yn peri i yfwyr newid i sylweddau neu gyffuriau eraill. Bydd hyn yn rhywbeth sy’n cael ei fonitro’n agos ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau bod gwybodaeth am y polisi yn cael ei lledaenu, a bod y gwasanaethau priodol ar waith i gefnogi pobl. Bydd ymgyrch gyfathrebu genedlaethol hefyd yn cael ei lansio cyn cyflwyno’r isafbris er mwyn sicrhau bod y cyhoedd, y manwerthwyr, a’r rheini y mae’r newid yn effeithio arnynt yn gwybod amdano.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae cysylltiad clir a real iawn rhwng lefelau goryfed a bod alcohol rhad ar gael. Rydyn ni’n credu y bydd cyflwyno isafbris uned am alcohol yn helpu i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan alcohol, ac yn helpu pobl i yfed mewn modd cyfrifol. Mae’r Alban wedi gweld lleihad yn yr alcohol sy’n cael ei yfed ers cyflwyno’r isafbris uned, a dw i’n gobeithio y byddwn ni’n gweld canlyniadau tebyg yma yng Nghymru.”
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
“Rydyn ni’n awyddus i leihau’r niwed a’r marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Mae bron i 1 allan o bob 5 o oedolion yn yfed mwy na’r lefel ddiogel o 14 o unedau’r wythnos sy’n cael ei hargymell. Mae goryfed llawer o alcohol rhad mewn pyliau yn hynod niweidiol i iechyd pobl, ac mae hefyd yn cael effaith enfawr ar adnoddau’r GIG. Nod cyflwyno’r isafbris uned am alcohol yw helpu i leihau goryfed, a gallai hynny helpu i achub llawer o fywydau.”