Neidio i'r prif gynnwy

Mae plant ysgol ledled y wlad wedi bod yn dathlu Diwrnod Aer Glân yng Nghymru heddiw (20 Mehefin), yn rhan o'r ymdrechion i addysgu'r genhedlaeth nesaf am lygredd aer a sut y gallan nhw helpu i'w leihau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r elusen Global Action Plan i gefnogi Diwrnod Aer Glân, ac mae nifer o ddigwyddiadau a mentrau'n cael eu cynnal ledled Cymru er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr hyn sy'n achosi llygredd aer ac am yr hyn y mae angen ei wneud i leihau'r allyriadau yr ydym ni ein hunain yn eu hachosi ac yn dod i gysylltiad â nhw.   
Trefnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddigwyddiad dros bum diwrnod yng Nghastell Caerffili i ddathlu ac i hyrwyddo'r diwrnod. Defnyddiodd ysgolion yn y cyffiniau agos fws cerdded i ddod i'r digwyddiad a defnyddiodd ysgolion pellach i ffwrdd fws trydan.  

Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth am Ddiwrnod Aer Glân ac annog pawb i wneud newidiadau i'w bywydau beunyddiol er mwyn helpu i leihau llygryddion aer ac i wella ansawdd aer. 

Yn ogystal â'r digwyddiad yng Nghaerffili, mae nifer o fentrau a digwyddiadau wedi cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru i nodi Diwrnod Aer Glân. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru drwy ddarparu ystod o adnoddau dwyieithog ar gyfer ysgolion, busnesau, cymunedau a'r sector iechyd. Mae'r adnoddau hynny'n cynnwys taflenni, sticeri a chlipiau LED sy'n fflachio i'w rhoi ar esgidiau. Mae'r clipiau hyn yn hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd wrth i'r plant gerdded neu feicio i'r digwyddiad yng Nghastell Caerffili. 

Yn gynharach yn yr wythnos, mewn datganiad llafar yn y Senedd, bu Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn amlinellu ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer ac i wella ansawdd aer. 

Mae Cynllun Aer Glân wrthi'n cael ei ddatblygu a bwriedir ymgynghori arno yn yr hydref, cyn mynd ati i greu Deddf Aer Glân i Gymru. Mae camau gweithredu uchelgeisiol yn cael eu datblygu i wella ansawdd aer ac i leihau cymaint â phosibl ar gysylltiad y cyhoedd ag ystod o lygryddion aer, gan gynnwys nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol mân. 

Aeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,  Lesley Griffiths, i Gastell Caerffili i gael gweld gweithgareddau Diwrnod Aer Glân drosti ei hun a dywedodd:

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud gwaith gwych wrth gefnogi a dathlu Diwrnod Aer Glân, gan helpu i addysgu plant ysgol am sut gallan nhw newid eu bywydau bob dydd er mwyn cael effaith enfawr ar ansawdd aer ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.

Dwi'n croesawu'r ffaith bod cynifer wedi dangos diddordeb a chymryd rhan yn y digwyddiadau a'r mentrau sy'n cael eu cynnal yn ystod Diwrnod Aer Glân i godi ymwybyddiaeth am y mater hynod bwysig hwn ac am beth allwn ni ei wneud i fynd i'r afael ag ef. 

Rhaid i bob un ohonon ni feddwl am beth allwn ni ei wneud yn wahanol yn ein cartrefi, wrth deithio ac mewn mannau eraill, i annog pobl i leihau'r llygredd rydyn ni i gyd yn ei anadlu. 

Hoffwn i annog pawb i addunedu i gefnogi'r ymgyrch aer glân er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella'n gyson inni gael diogelu iechyd a llesiant y cyhoedd, bioamrywiaeth a'n hamgylchedd naturiol.

Dywedodd Chris Large, un o Uwch-bartneriaid Global Action Plan:

“Mae’r argyfwng llygredd aer sy'n ein hwynebu yn un gallwn ni ei ddatrys, a dylen ni ddefnyddio Diwrnod Aer Glân i feddwl hefyd am beth allwn ni ei wneud i wneud yn siŵr ein bod yn anadlu aer glân bob dydd. Mae llawer o bethau syml gallwch chi eu gwneud i ddiogelu'ch hun rhag llygredd aer, fel defnyddio strydoedd mwy tawel i ffwrdd o'r traffig, ac un o'r ffyrdd gorau o helpu i lanhau ein haer gwenwynig yw cerdded neu feicio yn lle defnyddio'r car. Mae mor bwysig ein bod yn gwneud dewisiadau glanach am y ffordd rydyn ni'n teithio.

Roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, yn y digwyddiad a dywedodd:

“Mae Tîm Iechyd yr Amgylchedd Caerffili wedi bod yn gweithio ar brosiect ansawdd aer gydag ysgolion dros y misoedd diwethaf hyn i godi ymwybyddiaeth am beth sy'n achosi llygredd aer ac i hyrwyddo arferion da, yn y gobaith bydd hynny'n arwain at newid diwylliannol a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol. Mae dros 600 o ddisgyblion wedi bod yn y digwyddiad dros y 5 diwrnod ac roedd hynny'n bosibl oherwydd inni fynd ati i weithio mewn partneriaeth ag eraill.

Ychwanegodd:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn awdurdod niwtral o ran carbon ac rydyn ni'n cymryd camau cadarnhaol er mwyn helpu i sicrhau'r newid hwnnw.

Dywedodd Joseph Carter, Cadeirydd Aer Iach Cymru:

“Mae llygredd aer yn achosi risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, yn enwedig grwpiau agored i niwed fel plant, yr henoed a phobl â chyflwr sy'n effeithio ar gylchrediad y gwaed neu ar yr ysgyfaint. Ond gan ei bod bron yn amhosibl gweld y llygredd hwn, mae'n hawdd anghofio'r effaith mae'n ei chael o ddydd i ddydd. Yn yr un ffordd ag ’rydyn ni'n ystyried bod dŵr budr yn annerbyniol, mae angen gweithredu ar fyrder i atal aer budr rhag gwneud rhagor o niwed i iechyd y cyhoedd ac i'r amgylchedd.

Mae Diwrnod Aer Glân yn gyfle gwych inni, ac i Lywodraeth Cymru, edrych ar y newidiadau cadarnhaol gallwn ni i gyd eu gwneud i sicrhau bod yr aer mor lân â phosibl. Gan amrywio o deithio ar droed neu ar feic, i ddefnyddio'r car yn ddoeth, mae llawer o newidiadau bach gallwn ni eu gwneud i wella'n aer yn lleol.