Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw fe wnaeth 37,628 o blant elwa o wasanaethau Dechrau’n Deg yng Nghymru yn ystod 2016-17.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r ffigur 4 y cant yn uwch na’r targed disgwyliedig sef 36,000.

 

Dechrau’n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n cael ei chynnig i deuluoedd â phlant o dan 4 oed sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae’n darparu gofal plant rhan amser, o safon, am ddim i blant 2-3 oed; gwell gwasanaeth ymwelwyr iechyd; mynediad at raglenni rhianta a chymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu. <?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />

Mae rhai o’r prif ystadegau eraill yn dangos:

bod 88 y cant o’r llefydd gofal plant mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg wedi’u llenwi yn ystod 2016-17, sydd fymryn yn uwch na’r ffigwr yn 2015/16 (86 y cant)

  • bod ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg wedi gweithio gyda 25% o’r holl blant o dan 4 oed yn ystod 2016-17.
  • bod 94 y cant o blant 3 oed a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg wedi cofrestru mewn ysgol a gynhelir (2016).  Mae hyn fymryn yn uwch na’r 93 y cant yn 2015.
  • bod 82 y cant o blant oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg wedi’u himiwneiddio erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed (2016-17). Mae hyn fymryn yn llai na'r 83 y cant yn 2015/16.

 

Gan roi sylwadau ar y ffigurau, dywedodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant:

 

“Mae rhoi’r dechrau gorau posib i blant yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen ymyrraeth gynnar allweddol, sy’n helpu i wella cyfleoedd bywyd plant a lleihau'r angen am gamau gweithredu i gywiro’u sefyllfa yn nes ymlaen. Mae’r rhaglen yn helpu i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a all gael effaith hirdymor ar bobl ifanc drwy gydol eu bywydau.

 

“Mae ffigurau heddiw yn dangos bod Dechrau’n Deg yn parhau i roi cymorth hollbwysig i deuluoedd sy’n byw yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru”.