Mae'r astudiaeth hon yn defnyddio data gweinyddol cysylltiedig i ymchwilio i sut mae bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yn dylanwadu ar y tebygolrwydd o gymryd rhan mewn camddefnyddio sylweddau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Ymchwilio i'r tebygolrwydd o gamddefnyddio sylweddau mewn plant â phrofiad o ofal.
Mae'r astudiaeth hon yn defnyddio data gweinyddol cysylltiedig i ymchwilio i sut mae bod yn blentyn sy'n derbyn gofal yn dylanwadu ar y tebygolrwydd o gymryd rhan mewn camddefnyddio sylweddau.
Prif ganfyddiadau
- Roedd gan blentyn sy'n derbyn gofal risg bron i 8 gwaith yn uwch o gamddefnyddio sylweddau na phlentyn nad oedd yn derbyn gofal.
- Cyfrannodd rhyw, ethnigrwydd ac amddifadedd hefyd at y risg hon ymhlith y rhai sy'n derbyn gofal ac nad ydynt yn derbyn gofal.
- Roedd ymddygiad cymdeithasol annymunol a thryswch mabwysiadu (categorïau anghenion) yn cynyddu'r risg o gamddefnyddio sylweddau ymhlith plant sy’n derbyn gofal.
- Roedd lleoliadau preswyl a byw'n annibynnol (mathau o leoliadau) hefyd yn cynyddu'r risg o gamddefnyddio sylweddau mewn plant sy'n derbyn gofal.
Adroddiadau

Y cydadwaith rhwng plant sy'n derbyn gofal a chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru: cwmpasu'r defnydd o data gweinyddol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 734 KB
PDF
734 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.