Gwybodaeth ar asesiadau o’r angen ar gyfer cynlluniau gofal a chymorth i blant yr gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Plant sy'n derbyn gofal a chymorth
Prif bwyntiau
- Cynhaliwyd 48,069 o asesiadau(1)(2)(3) o'r angen i ddarparu gofal a chymorth i blant, a arweiniodd at roi 8,731 o gynlluniau gofal a chymorth ar waith(1)(2)(3)(4).
- Cynhaliwyd 827 o asesiadau o'r angen i ddarparu cymorth i ofalwyr ifanc, a arweiniodd at roi 615 o gynlluniau cymorth i ofalwyr ifanc ar waith. (1)(3)(5)
- Adolygwyd 30,628 o gynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth roedd 27,451 (90%) ohonynt o fewn amserlenni a gytunwyd gan blant a gweithwyr proffesiynol. (1)(2)(3)(5)
(1) Roedd Caerffili a Chasnewydd ond yn gallu darparu data hyd at 13 Chwefror 2018 a 6 Mawrth 2018 yn ôl eu trefn.
(2) Yn cynnwys plant yn yr ystâd ddiogel.
(3) Os oes yna blentyn y mae angen gofal a chymorth arno, a’i fod hefyd yn ofalwr ifanc, gall y plentyn gael asesiad o’i angen am ofal a chymorth, ac asesiad o’i angen am gymorth fel gofalwr ifanc.
(4) Yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan 20 o awdurdodau lleol.
(5) Yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan 21 o awdurdodau lleol.
Adroddiadau
Plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 541 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.