Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn edrych ar ddichonoldeb darparu amcangyfrif o nifer y plant a allai fod yn colli addysg y wladwriaeth gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig ym manc data SAIL.

Prif ganfyddiadau

Canfuwyd nad oedd modd dod o hyd i tua 6.4% o’r plant (27,000) sydd yn y gyfres ddata cofrestriadau meddygon teulu mewn cofnodion addysg wladol ar 20 Ebrill 2021.

Rhesymau posibl dros fethu dod o hyd i blant mewn cofnodion addysg wladol

  • Plant sy’n cael addysg mewn ysgolion annibynnol (tua 8,000).
  • Plant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref (tua 4,000).
  • Plant sy’n cael addysg yn Lloegr.
  • Problemau cysylltu data, o bosib yn sgil anghysondebau wrth gofnodi enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni.
  • Cwmpas gormodol mewn data cofrestru meddygon teulu (ee yn sgil plant yn symud o Gymru ond heb ddadgofrestru gyda’r meddyg teulu).
  • Rhesymau eraill.

Mae’r ffactorau hyn yn awgrymu bod y ganran gyffredinol o blant sydd ar goll o’r data addysg yn cynrychioli amcangyfrif band uwch o blant sy’n colli addysg wladol.

Gallai fod amrywiaeth eang o blant ar goll o’r data addysg wladol rhwng awdurdodau lleol. Gellir esbonio'r gwahaniaethau hyn yn rhannol gan bresenoldeb ysgolion annibynnol ac agosrwydd rhai awdurdodau lleol at ysgolion yn Lloegr.

Mae'r ymagwedd hefyd yn awgrymu gwahaniaeth rhwng oedrannau ysgol (o bosibl rhwng tua 4.9% a 9% yn cynyddu gydag oedran).

Mae’r gwaith ymchwil hwn wedi’i wneud fel rhan o raglen waith (YDG Cymru) gynlluniedig Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru 2022–2026 a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Cyswllt

Tony Whiffen

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.