Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: y cynllun

1a. Mae sawl llwybr gwahanol i ymuno â’r cynllun Plant!. Nid oes rhaid i’r cynllun plannu fod wedi ei gymeradwyo’n barod gan gynllun grant Glastir LlC, ond rhaid i’r Sefydliad Lletyol gyflogi Cynllunydd Rheoli cymeradwyedig i oruchwylio dyluniad, ymgynghoriadau, sefydliad a chynhaliaeth y safle yn y dyfodol, yn ogystal â phrofi bydd y cynllun PLANT! yn cynnig ychwanegolrwydd.

1b. Ni fydd y cynllun Plant! yn ariannu unrhyw beth sydd eisoes yn cael ei ariannu gan nawdd sy’n bodoli’n barod. Bydd y cynllun yn ariannu gwaith ychwanegol gan gynnwys: gwaith mynediad ynghyd â chyfnod grant cynhaliaeth pum mlynedd ar y coed sefydledig ar ben unrhyw beth sydd ar gael trwy ffrydiau ariannu eraill gan gynnwys Glastir, byrddau dehongli, cefnogaeth i ddigwyddiadau, a chostau yn ymwneud a dosbarthu tystysgrifau i bob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru.

1c. Caiff ceisiadau eu hystyried ar sail cost prynu tir lle na fydd costau rheolaeth hirdymor yn rhoi bwrn di-nawdd ar CNC. Bydd swm yn cael ei gytuno ar gyfer pob achos yn unigol gan ddibynnu ar anghenion y cynllun ac anghenion daearyddol, rhaid i’r ceisiadau sicrhau budd a diogelwch yr arian cyhoeddus a ddefnyddiwyd.

1d. Rhaid cael cymeradwyaeth o flaen llaw gan Reolwr Cynllun Plant! Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw gyhoeddiadau sydd yn hyrwyddo Plant! ac yn defnyddio logos y cynllun neu’r partneriaid.

1e. Ychwanegolrwydd ac ychwanegu at werth - Gellir dosbarthu tystysgrifau ar sail coed o fewn prosiectau a chynlluniau eraill, os yw’r plannu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Yn yr achosion hyn rhaid i’r nawdd cynllun Plant! ddangos ychwanegolrwydd, gan gefnogi ONS, costau postio a’r darpariad o fyrddau dehongli, a chyfrannu tuag at wella mynediad a pharcio, gwybodaeth, digwyddiadau’r gymuned, cyfathrebu, costau staffio, costau ychwanegol o ganlyniad i safleoedd anodd, ffensio, a’r defnydd o gynllunydd proffesiynol.

Adran 2: mynediad

2a. Rhaid cael mynediad hwylus i’r safleoedd, gan gynnig mynediad hawdd a diogel o
lonydd cyhoeddus.

2b. Rhaid sicrhau bod mynediad parhaol a chroesawgar i’r cyhoedd trwy gydol oes
y cynllun.

2c. Dylid defnyddio egwyddorion mynediad lleiaf cyfyngol trwy gydol y cynllun, pan fydd daearyddiaeth a thirwedd yn caniatáu hynny.

2d. Dylid bod o leiaf un fynedfa gyhoeddus wedi’i dylunio i fod yn groesawgar ac yn hwylus i’w defnyddio, ac yn cael ei chynnal i safon uchel.

2e. Dylid bod maes parcio cyhoeddus ar gael i o leiaf 4 car o fewn 5 munud o gerdded ysgafn a diogel i un fynedfa.

2f. Gall Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd yn bod eisoes gynnig mynediad i, a thrwy, y safle Plant! neu gellir adeiladu a chynnal llwybr goddefol ar ei gyfer. Mae’n rhaid i’r llwybrau gynnig mynediad ar droed, ond gall ymgeiswyr greu llwybrau goddefol i feiciau a cheffylau pe mynnent.

2g. Os yw’n briodol, rhaid i’r Sefydliad Lletyol gytuno i drefnu a gosod arwyddion ffordd Plant! ym mhob safle sydd dros 3ha o faint, er mwyn arwain ymwelwyr o’r prif fynedfeydd neu feysydd parcio i’r safle(oedd) plannu.

Adran 3: y safle – plannu

3a. Mae amodau arferol y cynllun yn nodi dylai’r tir fod yn addas ar gyfer creu coetir brodorol newydd a chwrdd â meini prawf asesiad y safle. Rhaid cytuno ar a sefydlu’r safle gan ddefnyddio Cynllunydd Rheoli cymeradwy, y gellir ei gyllido un ai drwy Plant! neu ffynhonnell gyllido arall. Os yw eisoes yn cael ei gyllido drwy gynllun GWC, ni fydd yn cael ei gyllido gan Plant! ddi’n barod gan gynllun GWC, ni all gael ei ariannu gan Plant!

3b. Os nad oes digon o dir ar gael ar gyfer plannu gellir sicrhau dosbarthiad tystysgrifau trwy ail-stocio safleoedd ble mae stoc wedi’u torri o ganlyniad i Rybudd Iechyd Planhigyn. Rhaid i fwyafrif y coed a blennir fod yn goed llydanddail cynhenid, ac ni ddylai nifer y coed a blennir fod yn fwy na 10% o’r holl goed a blennir gan y cynllun, gan ddibynnu ar anghenion gweithredol. Mesur dros dro yw’r maen prawf hwn, bydd yn cael ei adolygu yn gyson.

3c. Mae amodau arferol y cynllun yn dynodi bod yn rhaid i’r tir fod mewn cyflwr addas ar gyfer plannu coed am gost resymol, ond os gellir profi y byddai’n cynnig budd neu ychwanegu at werth, bydd costau ychwanegol yn cael eu hystyried. Er enghraifft gall adfywio safleoedd tir llwyd fod yn gostus, ond yn cynnig buddion enfawr i gymunedau mewn ardaloedd difreintiedig.

3d. Y maint lleiaf, delfrydol ar gyfer creu coetir brodorol yw 3 hectar ond rhoddir ffafriaeth i safleoedd gydag o leiaf 10 hectar o dir y gellir ei blannu. Fodd bynnag ystyrir bod nifer sylweddol o goed unigol mewn lleoliad trefol yn darparu buddion ychwanegol, e.e. draeniad trefol cynaliadwy ac/neu seilwedd gwyrdd a chysylltedd gwell.

3e. Bydd perchennog y safle yn ymrwymo i gytundeb cyfreithiol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a fyddai’n cadarnhau nifer a rhywogaethau’r coed a blennir ym mhob tymor plannu er mwyn cynllunio i ddosbarthu tystysgrifau.

3f. Rhaid i ddyluniad y cynllun plannu, y ddarpariaeth ar gyfer mynediad cyhoeddus a’r dewis a chymysgedd o rywogaethau brodorol fod yn addas ar gyfer y safle ac ar gyfer amcanion y cynllun Plant!

3g. Rhaid i ddwysedd y coed adlewyrchu canllawiau arfer gorau coetir brodorol newydd. Rhaid i’r holl stoc plannu darddu o ranbarth 303 (Cymru) neu 304 (Gororau a Dwyrain Cymru) a rhaid iddynt fod yn addas ar gyfer y safle.

3h.Ynghyd â phlannu arferol gellir cynnwys coed gwrych unigol o darddiad addas neu goed ffrwythau lleol addas fel rhan o’r cynllun ac yn rhan o’r cyfanswm coed, a gellir dosbarthu tystysgrifau ar eu sail fel y cytunwyd yn y cytundeb.

3i. Bydd rhywogaethau arall o goed sydd ddim yn llydanddail yn cael eu hystyried pan fo’n briodol. Gallent gynnwys hyd at 10% o gyfanswm y coed er mwyn darparu hydwythedd i’r safle yn y dyfodol.

3j. Bydd unrhyw gredydau carbon yn cael eu cadw gan berchennog y safle, heb gael eu hawlio gan y cynllun Plant! (Un ai CNC, Coed Cadw neu Lywodraeth Cymru), ond bydd y cynllun Plant! yn amlygu buddion carbon y cynllun pan fo’n briodol.

Adran 4: Y sefydliad lletyol/perchennog y safle

4a. Disgwylir i’r Sefydliad Lletyol gyfrannu amser ac ymdrech i’r cynllun Plant! trwy hybu cyfranogaeth gyhoeddus a gwirfoddol, a chefnogi cyflawniad canlyniadau’r cynllun yn ogystal â gweithredu yn unol â daliadau Plant!

4b. Rhaid i’r Sefydliad Lletyol gael daliadaeth sicr o’r safle, un ai trwy berchnogaeth neu trwy brydles/gytundeb rheolaeth 25 mlynedd o leiaf. Rhaid i’r Sefydliad Lletyol gael yr hawl i ymuno â phartneriaeth i gyflawni cynllun fydd yn eu hymrwymo yn gyfreithiol i ddarparu mynediad cyhoeddus am 25 mlynedd ar ôl talu’r grant.

4c. Bydd tirfeddianwyr preifat yn cael eu hystyried cyn belled â’u bod yn gallu dangos tystiolaeth eu bod yn unol â rheolau 4a, 4b, 4e a 4f y cynllun, gan ddeall fod hawl tramwy cyhoeddus ar y safle yn ddelfrydol.

4d. Bydd y Sefydliad Lletyol yn trefnu cyfarfod ymgynghorol cyhoeddus ar y safle i drafod cynllun a dyluniad y coetir brodorol newydd, gan sicrhau fod safonau Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd ac Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cyrraedd.

4e. Bydd y Sefydliad Lletyol yn cynnal o leiaf un digwyddiad plannu coed cyhoeddus pan fydd plannu ar y safle yn dechrau.

4f. Bydd y Sefydliad Lletyol yn cynnal o leiaf un ymrwymiad cyhoeddus wedi’i noddi bob blwyddyn o’r 5 mlynedd o gytundeb, yn unol â Chynllun Cyfathrebu Safle.

4g. Rhaid i’r Sefydliad Lletyol gytuno i osod a chynnal bwrdd dehongli Plant! wrth brif fynediad y safle.

4h. Bydd y Sefydliad Lletyol yn sicrhau bod cytundeb cynhaliaeth gyda chontractwr proffesiynol addas am 3 mlynedd o leiaf ar ôl i’r coed gael eu sefydlu, a hyd at 5.

4i. Mae’r Sefydliad Lletyol yn gyfrifol am oruchwylio’r contractwr cynhaliaeth ac am sicrhau bod y gwaith cynnal yn cael ei wneud i’r safon a gytunwyd.

4j. Rhaid i’r Sefydliad Lletyol gytuno i ddarparu erthyglau a lluniau addas i Reolwr Cynllun CNC a’r Tîm Cyfathrebu ar gyfer cyhoeddiadau dwyieithog.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddog Plant!, Cyfoeth Naturiol Cymru
E-bost: plant.requests@naturalresourceswales.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 065 3000