Mae plant a phobl ifanc yn teimlo’n rhwystredig nad ydynt wedi cael dweud eu dweud ynghylch ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Yn gynharach eleni, comisiynwyd Plant yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i safbwyntiau plant a phobl ifanc ar Brexit.

Casglwyd gwybodaeth drwy gynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, clybiau a fforymau ieuenctid ac arolygon ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Roedd dros 700 o blant a phobl ifanc rhwng 8 oed a 21 oed wedi cymryd rhan mewn 39 o weithdai a gynhaliwyd ledled Cymru, a daeth pobl ifanc i ddigwyddiad Hawl i Holi Cymru Ifanc yn y Senedd ar 24 Hydref 2018.

Yn ôl yr astudiaeth:

• Dyfodol yr amgylchedd, eu cymunedau, y Gymraeg ac effaith ariannol Brexit oedd y prif faterion a oedd yn poeni plant cynradd;

• Roedd plant uwchradd yn pryderu am yr amgylchedd, cyfleoedd i astudio a theithio dramor, dyfodol hawliau dynol ac iechyd a lles;

• Addysg, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rhyddid i bobl symud ledled Ewrop a chynnal trafodaethau gwleidyddol â phobl ifanc oedd y prif faterion a oedd yn poeni’r rhai a holwyd yn y lleoliadau ieuenctid. Roedd cefnogi ffermwyr yn flaenoriaeth i’r Ffermwyr Ifanc a phobl ifanc Gogledd Cymru. 

Mae Brexit wedi tanio diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, ac maent yn gofyn am well dealltwriaeth a mwy o gyfleoedd i drafod. Roedd llawer o’r bobl ifanc a holwyd yn rhwystredig nad oeddent wedi cael dweud eu dweud yn y refferendwm ar Brexit, ac roeddent yn teimlo y gallai eu pleidlais fod wedi gwneud  gwahaniaeth i ganlyniad y refferendwm.

Mae’r astudiaeth yn dod i’r casgliad bod plant a phobl ifanc a gymerodd ran yn y gwaith wedi dangos cryn dipyn o ymwybyddiaeth o’r materion sydd yn y maes hwn ac yn barod iawn i fod yn rhan o’r trafodaethau ar Brexit. 

Dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies:

“Yng Nghymru, mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i ddweud eu dweud ar y materion sy’n cael effaith arnyn nhw. Efallai mai Brexit yw mater gwleidyddol pwysicaf ein hoes ni. Bydd canlyniad proses Brexit yn cael effaith enfawr ar y genhedlaeth nesaf, felly, mae’n deg dweud ei bod yn iawn iddyn nhw gael lleisio’u barn, a’n bod ni’n gwrando ar y farn honno.

“Mae’r neges a ddaw o’r gwaith pwysig hwn yn glir iawn. Mae’n pobl ifanc yn rhwystredig am nad ydynt wedi cael dweud eu dweud. Maent yn poeni am eu dyfodol, a dyfodol y wlad gyfan. 

“Mae Brexit wedi tanio diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth, ac maent yn gofyn am well dealltwriaeth a mwy o gyfleoedd i drafod. Y neges amlwg gan bobl ifanc yma yw eu bod am gael gwybod beth sy’n digwydd a’u bod am gael cymryd rhan. Hefyd, maent yn dymuno cael gwybod mwy am sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud a sut y gallant ddefnyddio’r broses ddemocrataidd i leisio’u barn.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod buddiannau ein gwlad yn cael eu hamddiffyn yn llwyr wrth i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny’n cynnwys dyfodol y genhedlaeth nesaf.”