Neidio i'r prif gynnwy

Mae pedwar o blant o Gymru’n serennu mewn ymgyrch genedlaethol newydd sy’n dweud wrth rieni cymwys sy’n gweithio ledled Cymru y gallant hawlio gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer eu plentyn tri neu bedwar oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O heddiw ymlaen, bydd y pedwar plentyn yn gallu gweld eu hwynebau ar sgriniau mewn sinemâu ac ar y teledu a chlywed eu lleisiau ar y radio, wrth iddyn nhw helpu Llywodraeth Cymru i lansio ymgyrch i hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru’n galluogi’r rhan fwyaf o rieni plant tri i bedwar oed i hawlio cyfraniad tuag at hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar, wedi’i rannu ar draws 48 wythnos yn ystod y flwyddyn.

Y pedwar plentyn disglair yw Hope Allsopp Green (4 oed o Gaerdydd), Johnny Jones (4 oed o Ynys-y-bwl), Pippa Warrilow (4 oed o Bentre’r Eglwys) a Henry Evans (3 oed o Gaerdydd). Yn yr ymgyrch hysbysebu, mae pob plentyn yn dweud beth fyddai’n ei brynu pe bai’n cael ychydig o arian ychwanegol bob mis. Mae’r atebion yn amrywio o ddolffin glas – i brynu Portiwgal.

Matt Warrilow, o Bentre’r Eglwys, yw tad Pippa Warrilow, sy’n ymddangos yn yr hysbyseb. Roedd yn rhan o gynllun peilot Cynnig Gofal Plant Cymru. Dywedodd:

Roedden ni’n meddwl efallai byddai Pippa ychydig yn betrus am gael ei ffilmio ar gyfer hysbyseb deledu, ond ar ôl rhywfaint o ymarfer gartref, roedd hi’n iawn. Hi ddywedodd yr hoffai brynu Portiwgal gydag ychydig o arian ychwanegol bob mis, gan ein bod ni newydd fod yno ar ein gwyliau!

Derbyniom Gynnig Gofal Plant Cymru fel rhan o’r cynllun peilot gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf. Roedd cyflwyno cais yn syml iawn, ac roedd yn golygu y gallai fy ngwraig ddychwelyd i’r gwaith am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos, sy’n gwneud bywyd fymryn yn haws i ni fel teulu.

Cafodd Pippa fudd ohono hefyd - aeth at warchodwr plant yn ein hardal leol, ac roedd bod ymysg y plant eraill wedi rhoi mwy o hyder iddi.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael yn genedlaethol erbyn hyn ac, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae bron 16,000 o blant eisoes wedi’u cofrestru mewn gofal plant wedi’i ariannu wrth i rieni cymwys sy’n gweithio fanteisio ar y Cynnig.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Rydym yn gwybod bod costau gofal plant yn peri pryder mawr i rieni sy’n gweithio. Mae ein Cynnig Gofal Plant yn lleihau’r baich ariannol ar deuluoedd ac mae’n helpu rhieni i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag derbyn swydd neu ddychwelyd i’r gwaith os byddant yn dymuno gwneud hynny.

Mae llawer o blant a’u teuluoedd eisoes wedi elwa ar y Cynnig ac rwyf eisiau gweld llawer mwy o bobl yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar agor i rieni sy’n gweithio sydd â phlant tri neu bedwar oed, sy’n ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw o leiaf (am 16 awr yr wythnos) a llai na £100,000 yr un.

Mae cannoedd o feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, Cylchoedd Meithrin, cylchoedd chwarae a crèches ledled y wlad yn rhan o’r Cynnig, sy’n golygu y gall rhieni ddewis darparwr gofal plant sy’n bodloni eu hanghenion ac anghenion eu plant orau. Mae’r Cynnig ar gael ar gyfer gofal plant Saesneg, Cymraeg neu ddwyieithog.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.llyw.cymru/cynniggofalplant