Neidio i'r prif gynnwy

Mewn ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw, gwelir bod mwyafrif y plant a phobl ifanc mewn gofal yng Nghymru yn gwneud yn dda, gyda thros dri chwarter mewn lleoliad sefydlog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Comisiynodd Llywodraeth Cymru y Sefydliad Gofal Cyhoeddus i ddadansoddi canlyniadau plant a phobl ifanc 4 i 5 mlynedd ar ôl eu Gorchymyn Gofal terfynol. 

Bwriad yr astudiaeth oedd archwilio hynt lleoliadau plant mewn gofal yng Nghymru, y ffordd yr oedd hyn yn cymharu â'r canlyniadau yr anelir atynt yn eu Cynllun Gofal a'r ffactorau llwyddiant allweddol sy'n ymwneud â lleoliadau cadarnhaol. 

Roedd y ddadansoddiad mawr yn cynnwys pob un o'r 1,076 o blant a phobl ifanc a gafodd Orchymyn Gofal terfynol yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2013. Yna, er mwyn cynnal dadansoddiad mwy manwl, defnyddiwyd is-sampl cynrychioladol o 79 o achosion o bum ardal awdurdod lleol. 

Daeth yr adroddiad i'r casgliadau canlynol: 

  • Bod dros dri chwarter o'r holl blant mewn lleoliad sefydlog – gyda 30% heb symud o gwbl, a 46% wedi symud unwaith yn ystod y cyfnod o 4-5 mlynedd dan sylw yn yr astudiaeth; 
  • Bod 71% o'r is-sampl llai wedi profi canlyniadau cadarnhaol mewn perthynas ag amgylchedd eu cartref, cyfathrebu ac ymlyniad; addysg; iechyd corfforol a dim troseddu; roedd 19% wedi profi canlyniadau cymysg a 10% wedi profi canlyniadau negyddol ar y cyfan; 
  • Er mai 78% o'r holl blant oedd wedi'u cofnodi'n swyddogol fel rhai sydd angen gofal yn bennaf yn sgil cam-drin ac esgeulustod, daeth y dadansoddiad manwl i'r casgliad bod bron pob un o'r plant yn yr is-sampl wedi'u cam-drin a'u hesgeuluso cyn i’r Gorchymyn Gofal gael ei wneud. 

Mae'r astudiaeth yn rhan o waith Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant. Mae'r Grŵp hwn yn datblygu rhaglen waith sylweddol i helpu i leihau'n ddiogel nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal, gwella canlyniadau i blant sydd eisoes yn derbyn gofal a darparu cymorth gwell i'r rheini sy'n gadael gofal i fod yn oedolion annibynnol. 

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies:

“Mae gwella canlyniadau a chyfleoedd bywyd plant sydd wedi derbyn gofal yn flaenoriaeth allweddol i mi. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill. 

“Rwy'n falch o weld bod cymaint o blant a phobl ifanc sydd mewn gofal yng Nghymru yn gwneud yn dda, gyda thros dri chwarter o'r plant dan sylw yn yr astudiaeth hon mewn lleoliad sefydlog. Mae'r astudiaeth yn nodi'r gwaith da sy'n cael ei wneud gan wasanaethau cymdeithasol plant a'u partneriaid addysg yng Nghymru i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant mewn gofal. 

“Fodd bynnag, mae plant mewn gofal yng Nghymru yn dal i wynebu heriau sylweddol, yn enwedig o ran cefnogi plant sy'n delio ag effaith cam-drin a thrawma. Rhaid inni ddysgu a defnyddio'r canfyddiadau o'r gwaith hwn i helpu i sicrhau bod anghenion iechyd a llesiant plant yn cael sylw mewn ffordd therapiwtig a pharhau i ganolbwyntio ar ddarparu lleoliadau hirdymor o ansawdd uchel a fydd yn helpu i ddiwallu eu hanghenion.”