Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ganlyniadau

Mae ychydig o dan 14,400 (14,373) o blant oedran ysgol yn byw mewn aelwydydd gyda pherson sy’n cymryd camau gwarchod. Mae’r plant hyn yn byw mewn 8,310 o aelwydydd yng Nghymru.

O’r plant sy’n byw mewn aelwyd gyda pherson sy’n cymryd camau gwarchod, mae ethnigrwydd 90% ohonynt wedi’i gofnodi yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) fel Gwyn Prydeinig; mae 49% yn fenywaidd a 51% yn wrywaidd.

Image
Siart 1: Nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd a warchodir yng Nghymru, mis Mehefin 2020: Mae ychydig o dan 14,400 (14,373) o blant oedran ysgol yn byw mewn aelwydydd gyda pherson sy’n cymryd camau gwarchod. Mae'r nifer uchaf o blant yng Nghaerdydd (1524) a'r isaf yng Ngheredigion (263).

Nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd a warchodir yng Nghymru, mis Mehefin 2020 (MS Excel)

Image
Siart 2: Nifer o aelwydydd a warchodir sydd â phlant yn byw ynddynt, Cymru, Mehefin 2020: Mae’r plant hyn yn byw mewn 8,310 o aelwydydd yng Nghymru.

Nifer o aelwydydd a warchodir sydd â phlant yn byw ynddynt, Cymru, Mehefin 2020 (MS Excel)

2. Plant sydd ar y rhestr warchod

Er mwyn profi’r gwaith paru, rydym wedi paru’r plant o dan 16 oed ar y Rhestr Cleifion a Warchodir gyda CYBLD. Rydym yn disgwyl y bydd y mwyafrif helaeth o blant sydd o dan 16 oed ar y rhestr cleifion a warchodir wedi’u rhestru yn CYBLD. Byddai cyfradd paru isel rhwng y ddwy set ddata yn awgrymu bod ein prif ddadansoddiad yn debygol o fethu cyfran fawr o blant sy’n byw mewn aelwyd gyda pherson a warchodir.

Roedd 6,561 o blant ar y rhestr o gleifion sy’n gwarchod ar 15 Mehefin. Gwnaethom baru 5,805 o blant sy’n gwarchod yn y set ddata CYBLD. Roeddem wedi gallu cysylltu 88% o blant ar y rhestr cleifion a warchodir gyda’u manylion yn CYBLD. Mae cyfradd baru o 88% yn awgrymu bod ansawdd baru’r ddwy set ddata yn dda, er nad yw’n berffaith. Mae’n awgrymu efallai bod ein dadansoddiad yn tanamcangyfrif y nifer o blant sy’n byw mewn aelwydydd gyda pherson a warchodir. Ond oherwydd bod y rhestr cleifion a warchodir yn cynnwys oedolion hŷn yn bennaf, mae’n annhebygol y bydd wedi’i danamcangyfrif o lawer iawn.

Image
Siart 3: Plant ar y rhestr warchod ac wedi’u cysylltu â manylion yn CYBLD 2020, mis Mehefin 2020: Roedd 6,561 o blant ar y rhestr o gleifion sy’n gwarchod ar 15 Mehefin. Gwnaethom baru 5,805 o blant sy’n gwarchod yn y set ddata CYBLD. Roeddem wedi gallu cysylltu 88% o blant ar y rhestr cleifion a warchodir gyda’u manylion yn CYBLD.

Plant ar y rhestr warchod ac wedi’u cysylltu â manylion yn CYBLD 2020, mis Mehefin 2020 (MS Excel)

3. Gwybodaeth set ddata

Mae’r Rhestr Cleifion a Warchodir yn rhestr o bobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Y rhain yw’r bobl sy’n debygol o fod yn sâl iawn os ydynt yn dal coronafeirws. Mae pobl sy’n cymryd camau gwarchod wedi cael llythyr neu wedi cael gwybod gan eu meddyg teulu eu bod yn y grŵp hwn. Mae’r Rhestr o Gleifion a Warchodir wedi’i llunio gan ddefnyddio amryw o ffynonellau data gan y Gwasanaeth Iechyd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y ffynonellau a methodoleg ar wefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Mae CYBLD 2020 yn rhestr o blant sydd wedi cofrestru mewn ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2019/2020 a dyddiad y cyfrifiad oedd 14 Ionawr 2020. Nid yw’r plant sy’n cael eu dysgu gartref neu sy’n mynd i ysgolion annibynnol wedi’u cynnwys yn CYBLD. Mae CYBLD 2020 yn cynnwys 469,177 o gofnodion o blant 3 i 19 oed.

4. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae’r Uned Ymchwil Data Gweinyddol (ADRU) yn Llywodraeth Cymru yn cynnal prosiectau ymchwil er lles y cyhoedd gan ddefnyddio setiau data gweinyddol sefydledig. Yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), mae ADRU wedi cynnal sawl prosiect cysylltu data. Roedd un o’r prosiectau hyn yn cynnwys cysylltu’r Rhestr Cleifion a Warchodir a’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 2020 i amcangyfrif nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd a warchodir a rhoi gwybodaeth ddemograffig amdanynt. Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio’r Rhestr Cleifion a Warchodir ar 15 Mehefin 2020 pan oedd 127,095 o rifau GIG unigryw ar y rhestr a CYBLD 2020 a gafwyd ar 30 Ebrill 2020. 

I amcangyfrif nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd gyda phobl a warchodir, gwnaethom docio’r Rhestr Cleifion a Warchodir i gynnwys dim ond y bobl rhwng 19 a 59 oed. Mae’r ystod oedran yn seiliedig ar ddosbarthiad genedigaethau yn ôl grwpiau oedran yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn eithrio’r rhai o dan 16 oed sydd hefyd yn cymryd camau gwarchod. Roedd hyn yn lleihau’r gyfradd gamgymeriadau a’r paru ffug oherwydd nad oedd maes paru unigryw yn y ddwy set ddata. Gwnaethpwyd y gwaith o gysylltu’r data drwy baru gwybodaeth am enwau a chyfeiriadau o’r ddwy set ddata. 

Nid yw ein canlyniadau yn cynnwys pob plentyn oherwydd bod y CYBLD yn gyfyngedig i blant o oedran ysgol ac nad yw’n cynnwys plant sy’n cael eu dysgu gartref neu’n mynd i ysgolion annibynnol. Nid yw data ar Blant sy’n Cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad hwn chwaith. Hefyd, gall anghysondebau rhwng data iechyd ac addysg effeithio ar y paru.

Gwnaed y gwaith trin data yn Spyder gan ddefnyddio Python 3.7, ar UKSeRP (Platfform Ymchwil Diogel y DU) Llywodraeth Cymru. Isod mae ein proses cysylltu data.

Rhestr Cleifion a Warchodir

  • Dileu bylchau o godau post.
  • Ar gyfer y prif ddadansoddiad: Tocio'r rhestr i gynnwys pobl 19 i 59 oed ar y rhestr warchod yn unig.
  • Ar gyfer y dadansoddiad plant ar y rhestr warchod: Rhestr ond yn cynnwys plant o dan 16 yn y set ddata.
  • Creu maes o'r enw 'concatS' sy'n cyfuno Cyfenw a Chod Post ar y rhestr warchod (e.e., JONESCF113AT).

CYBLD 2020

  • Dieu bylchau o godau post ar gyfer unffurfiaeth ar draws y setiau data.
  • Dyddiad geni, rhagenw, a chyfenwau wedi'u golygu i gyd-fynd â fformatio ar y rhestr warchod.
  • Creu maes o'r enw 'concatP' sy'n cyfuno Cyfenw a Chod Post yn CYBLD (e.e., JONESCF113AT).

Set ddata a thablau wedi uno

  • Uno'r rhestr warchod a CYBLD gan ddefnyddio meysydd concatS a concatP.
  • Mae'r ddwy set ddata yn ymddangos ochr wrth ochr. Mae pob rhes yn cynnwys data gan berson sydd wedi'i baru â phlentyn o CYBLD. Er enghraifft, bydd person a warchodir gyda concatS fel JONESCF113AT yn cael ei baru â phlentyn gyda concatP fel JONESCF113AT.
  • Cynhyrchir tablau gan ddefnyddio hidlydd (pandas) yn Spyder i gyfuno nodweddion penodol o'r set ddata (e.e. rhyw y plentyn).

Cynhaliwyd yr ymchwil hon fel rhan o raglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. Mae rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn cyd-fynd â’r themâu blaenoriaeth fel y’u nodir yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru’n dod ag arbenigwyr gwyddor data o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) Prifysgol Caerdydd a thimau arbenigol Llywodraeth Cymru ynghyd i ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi Ffyniant i Bawb gan ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru’n rhan o Ymchwil Data Gweinyddol Prydain sydd wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) (grant ES/S007393/1).

5. Manylion cyswllt

Kathryn Helliwell
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ADRUWales@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
ADR Wales

 

SFR 102/2020