Neidio i'r prif gynnwy

Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru wedi cymeradwyo cyffur i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ei ddefnyddio i drin plant sy'n cael trawiadau epileptig (seizures).  

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Anhwylder yw epilepsi lle mae'r unigolyn yn cael trawiadau o ganlyniad i weithgarwch trydanol annormal yn yr ymennydd. Mae'r trawiadau hyn yn gallu amrywio o golli ymwybyddiaeth am gyfnodau byr neu gyhyrau'n hercian i gonfylsiynau, pan fydd y cyhyrau'n symud yn chwyrn ac yn ddiarwybod i'r unigolyn er enghraifft, sy’n para am gyfnod hir ac estynedig. Mae nifer y trawiadau y gall unigolyn ag epilepsi ei gael yn amrywio hefyd, o lai nag un trawiad y flwyddyn i fwy nag un trawiad y dydd.

Bydd plant rhwng 4 a 15 oed sydd â'r cyflwr yn gallu cael y cyffur lacosamide (Vimpat®) fel therapi atodol i drin trawiadau sy'n dechrau yn un ochr o'r ymennydd, hyd yn oed os yw'r trawiad rhannol yn lledaenu ar draws yr ymennydd. 

Yng Nghymru, epilepsi pediatrig yw'r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin, ac mae'n effeithio ar tua 0.7% o blant. Nid yw tua 10-29 y cant o gleifion epileptig pediatrig yn cael rheolaeth ddigonol ar eu trawiadau drwy gymryd y cyffuriau gwrth-epilepsi sydd ar gael yn barod, felly mae angen opsiynau triniaeth newydd. 

Cafodd Cronfa Triniaethau Newydd Cymru ei chyhoeddi gan Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd y llynedd. Mae’r gronfa yn cynnig £80m i sicrhau bod mynediad ar gael yn gyflymach i'r meddyginiaethau mwyaf diweddar i gael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG).

O dan y system newydd, mae rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaeth sydd wedi cael ei chymeradwyo gan NICE neu AWMSG ar gael cyn pen deufis i gyhoeddi’r canllawiau. Mae hyn yn golygu bod traean yn llai o amser gan fwrdd iechyd cyn bod rhaid iddo gynnig y driniaeth.

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Mae hon yn enghraifft wych o'r Gronfa Driniaethau Newydd yn gweithio i gleifion epilepsi a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae hwn yn gyflwr sy'n gallu amharu'n fawr ar fywydau pobl ac achosi cryn dipyn o ofid. 

“Mae'r buddsoddiad sylweddol rydyn ni wedi'i wneud yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod cleifion yn cael y triniaethau diweddaraf i gael eu hargymell yn gyflym, lle bynnag y bônt yn byw yng Nghymru.

“Rwy'n edrych ymlaen at weld y gronfa yn parhau i ddarparu'n brydlon y meddyginiaethau diweddaraf, arloesol i gleifion sydd eu hangen, gan wneud gwir wahaniaeth i'w bywydau.”