Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nodweddion a phriodoleddau plant sy’n derbyn gofal a chymorth ar 31 Mawrth 2023.

Hysbysiad terfynu

Bydd casglu a chyhoeddi data Cyfrifiad plant sy’n derbyn gofal a chymorth yn ei fformat presennol yn dod i ben ar ôl y datganiad hwn. Yn dilyn adolygiad gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, mae gofynion casglu data wedi'u hadnewyddu ac mae gofynion newydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer blwyddyn adrodd 2023-24. 

O fis Ebrill 2023, bydd y cyfrifiad yn gasgliad blwyddyn lawn a bydd y gofyniad am gipolwg yn unig o'r plant hynny gyda chynllun gofal a chymorth am dri mis neu fwy ar 31 Mawrth yn cael ei ddileu. Bydd hyn yn cynnig rhagor o wybodaeth ac yn casglu data lefel unigolyn ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal a chymorth yn ystod y flwyddyn. Rhagwelir y bydd data ar gyfer 2023-24 yn cael eu dychwelyd gan awdurdodau lleol yn yr hydref 2024 ac yn cael eu hadrodd yn ystod y gwanwyn 2025. Mae dogfennau casglu data ar gyfer 2023-24 ar gael ar dudalen Casglu data: Gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol

Os ydych chi’n defnyddio'r ystadegau hyn ac oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch y cyswllt isod.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Bethan Sherwood

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.