Phillip Jones Aelod
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, gweithiodd Phillip ar ei fferm yn Lan, Sir Gaerfyrddin, gan gael y cyfle i redeg a rheoli'r fferm wrth fynychu Coleg Amaethyddol Pibwrlwyd.
Erbyn hyn, mae Lan yn fferm cig eidion gyda 110 o fuchod sugno a dilynwyr. Mae Lan wedi bod yn fferm arddangos HCC a Chyswllt Ffermio, ac maent yn aml yn cynnal teithiau cerdded o amgylch y fferm ar gyfer gwahanol grwpiau ffermio, yn ogystal â "Milfeddygon y Dyfodol", sy’n cael ei drefnu gan y Ganolfan Ymchwil Amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr ar ran y Coleg Milfeddygol Brenhinol.
Yn 2013, derbyniodd Phillip wobr “Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn" y Farmers Weekly a’i wneud yn "Gydymaith y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol" yn 2017. Mae hefyd wedi gwneud rhywfaint o ddarlithio rhan-amser yng Ngholeg Sir Gâr a bellach yn gweithio i'r rhaglen "Gwaredu BVD".