Peter Jones Comisiynydd
Mae Peter Jones yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.
Mae Peter yn Athro Trafnidiaeth a datblygu cynaliadwy yn y Ganolfan Astudiaethau Trafnidiaeth yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae’n aelod o Fwrdd Strategaeth Trafnidiaeth Dinas Llundain, Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, Cyngor Trafnidiaeth y Dyfodol Dubai a Phanel Dylunio Trefol y Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant.
Mae’n Gydgysylltydd Gwyddonol ar gyfer dau brosiect tair blynedd wedi’u hariannu gan yr UE (y ddau gyda Thrafnidiaeth Llundain fel partneriaid dinesig); ‘CREATE’ ar dueddiadau sy’n newid o ran symudedd trefol a heriau i ddinasoedd yn y dyfodol, a ‘MORE’, ar ddylunio a gweithredu optimwm o ran gofod ffyrdd ar brif ffyrdd trefol. Mae hefyd yn arwain ar ddau brosiect ESRC, ar drefniadau pontio Symudedd Trefol Cynaliadwy yn Affrica, a materion llywodraethu yn ymwneud â chyflwyno cerbydau wedi’u hawtomeiddio yn y DU. Derbyniodd OBE am ei wasanaeth ym maes polisi trafnidiaeth cenedlaethol ym mis Ionawr 2017.
Mae ganddo amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil ac addysgu ym maes trafnidiaeth, sy’n cwmpasu dulliau dadansoddi a pholisi. Mae’r rhain yn cynnwys polisïau trafnidiaeth, agweddau ac ymddygiad teithwyr, tueddiadau teithio a phenderfynyddion y galw am deithio, astudiaethau cyfyngu ar draffig, astudiaethau hygyrchedd, creu opsiynau polisi, astudiaethau mawr o drafnidiaeth, yr economi ac effaith gymdeithasol, ymgysylltu â’r cyhoedd, datblygu arolygon newydd, dulliau dadansoddi ac arfarnu, a datblygiadau ym maes cynllunio a dylunio strydoedd trefol. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r dyfodol a gofynion sy’n newid ar gyfer rhagweld ac arfarnu.