Gwybodaeth am nifer y tai mewn amlfeddiannaeth ac am gyflwr eiddo preswyl ar gyfer Ebrill 2016 i Mawrth 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Peryglon tai
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn ystod 2016-17, cafodd 6,076(a) o asesiadau eu cynnal o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, gostyngiad o 3% ar y flwyddyn flaenorol.
- Fel y llynnedd, roedd dros ddau draean (68%) o'r holl asesiadau a wnaed yn ystod 2016-17 yn cofnodi nad oes unrhyw beryglon Categori 1.
- Yn ystod 2016-17, canfuwyd bod peryglon Categori 1 yn 1,949 (32%) o'r holl asesiadau a wnaed. Y perygl Categori 1 mwyaf cyffredin mewn aelwydydd amlfeddiannaeth a’r rhai nad sy’n aelwydydd amlfeddiannaeth oedd ‘Gormodoedd o Oerfel’.
- Arweiniodd camau gweithredu a gymrwyd gan awdurdodau lleol yn ystod 2016-17 at ddatrys1,263 o beryglon Categori 1. Roedd 802 (63%) mewn tai nad oedd yn aelwydydd amlfeddiannaeth a 461 (37%) ohonynt mewn tai amlfeddiannaeth (HMOs).
- Ar 31 Mawrth 2017, adroddodd awdurdodau lleol bod tua 18,174 o anheddau amlfeddiannaeth yng Nghymru, ac o’r rhain roedd 81% (14,722) yn hysbys i awdurdodau lleol o gymharu â 79% y flwyddyn flaenorol.
- Cynyddodd nifer y tai amlfeddiannaeth trwyddedig ledled Cymru yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf gydag 8,839 o amheddau amlfeddiannaeth wedi’u cofnodi ar 31 Mawrth 2016.
(a) Yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Sir Ddinbych a Wrecsam gan nad oeddynt yn gallu darparu gwybodaeth am asesiadau yn cynnwys peryglon categori a 1 a 2 yn ystod y flwyddyn.
Adroddiadau
Peryglon mewn tai a thrwyddedau, blwyddyn ariannol 2016 i 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.