Neidio i'r prif gynnwy

Iwerddon yw partner Ewropeaidd agosaf a phwysicaf Cymru - ac mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o adeiladu perthynas agosach gyda'i chymydog Ewropeaidd, boed Brexit yn digwydd neu beidio. Dyna fydd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan yn ei ddweud heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar drothwy ymweliad ag Iwerddon, bydd y Gweinidog yn dweud y byddai ymadael â'r UE heb gytundeb yn hynod o niweidiol i fasnach Cymru gydag Iwerddon, ac na ellir caniatáu i hynny ddigwydd.

Yn ystod ei hymweliad, bydd y Gweinidog yn cyfarfod Simon Coveney, y Tánaiste (Dirprwy Brif Weinidog) a'r Gweinidog Materion Tramor a Masnach, i ailbwysleisio gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i Brexit heb gytundeb.

Mae cysylltiadau economaidd hanfodol Cymru gydag Iwerddon yn bwysig ar gyfer economïau ar ddwy ochr Môr Iwerddon. 

  • Roedd allforion o Gymru i Iwerddon werth ychydig dros £1.5 biliwn yn 2018; tua 50% yn uwch na'r hyn ydoedd yn 2017, ac Iwerddon yw 4ydd marchnad allforio fwyaf Cymru ar hyn o bryd.
  • Amcangyfrifir bod gan 80 cwmni Gwyddelig bresenoldeb yng Nghymru, gan gyflogi ychydig llai na 5,000 o bobl.
  • Iwerddon yw’n prif farchnad y tu hwnt i’r DU yn gyson o ran nifer yr ymweliadau â Chymru. Mae ymweliadau â Chymru o Weriniaeth Iwerddon wedi cynyddu cryn dipyn dros y tair blynedd ddiwethaf, gyda 129,000 o ymweliadau yn 2015, 169,000 yn 2016 a 206,000 yn 2017. Mae hyn yn dwf o tua 60% dros y cyfnod hwn.
  • Roedd 430 o fyfyrwyr o Iwerddon yn astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn ystod 2017/18, yn ôl ffigurau diweddaraf yr Awdurdod Safonau Addysg Uwch. Roedd 225 aelod staff Gwyddelig mewn prifysgolion yng Nghymru'r flwyddyn honno.

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfa yn Nulyn ers 2012, ac yn ddiweddar fe ail agorodd Llywodraeth Iwerddon swyddfa'r conswl yng Nghaerdydd, gan gadarnhau'r berthynas gadarn rhwng Cymru ac Iwerddon.

Wrth siarad cyn ei hymweliad, dywedodd Eluned Morgan:

"Mae'r berthynas ag Iwerddon yn aruthrol o bwysig i Gymru. Y Weriniaeth yw'n cymydog Ewropeaidd agosaf, ac un o'n partneriaid economaidd pwysicaf. Fel Llywodraeth Cymru, rydyn ni'n benderfynol o greu mwy o gysylltiadau ag Iwerddon dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

"Mae swyddi a bywoliaeth pobl yn dibynnu ar ein gallu i gynnal perthynas fasnach gadarn a dirwystr gyda'r gwledydd ar garreg ein drws. Mae Cymru yn dibynnu mwy ar Ewrop am ein masnach na'r Deyrnas Unedig yn gyfan. Mae Iwerddon ymhlith ein pum prif farchnad allforio yn gyson - ar hyn o bryd hi yw'n pedwaredd farchnad allforio fwyaf. Mae'n dyfodol economaidd yn dibynnu ar ein gallu i gynnal perthynas gadarn a hanfodol gyda'n cymdogion.

"Mae trychineb Brexit heb gytundeb yn berygl real iawn. Pan fydd gan y Deyrnas Unedig Brif Weinidog newydd, mae'n debyg y bydd gennym ddewis du a gwyn rhwng Brexit heb gytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam fydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n credu y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfu cyn gynted â phosib am refferendwm i benderfynu ar y cwestiwn hwn.

"Dros y degawdau diwethaf, mae perthynas Cymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach gydag Iwerddon wedi'i thrawsnewid. Allwn ni ddim caniatáu i Brexit beryglu hyn.

"Felly'r neges y byddaf yn ei hanfon at brif swyddogion Llywodraeth Iwerddon heddiw yw bod rhaid i Gymru ac Iwerddon gydweithio i sicrhau na fydd unrhyw beth yn niweidio ein dyfodol."

Yn ystod ei hymweliad, bydd y gweinidog yn:

  • Cynnal cyfarfod dwyochrog gyda'r Tanaiste a'r Gweinidog Materion Tramor, Simon Coveney.
  • Cyfarfod Prif Swyddog Gweithredol UDG Healthcare a Llywydd Sharp Clinical Services. Mae Sharp wedi ehangu yng Nghymru yn ddiweddar ac wedi symud i safle newydd yn Rhymni, gan ddiogelu saith deg o swyddi a chreu saith deg tri arall. 
  • Ymweld â Chanolfan Fenter Guinness, wrth galon ardal Liberties yng nghanol dinas Dulyn, sydd ar hyn o bryd yn gartref i 85 o gwmnïau gyda dros 400 o weithwyr ar y safle. Fe gafodd y Ganolfan ei henwi fel y man gorau yn y byd i feithrin busnesau (mewn cydweithrediad â phrifysgolion) yn nigwyddiad y World Incubation Summit yn Toronto fis Chwefror 2018. Arwyddodd gytundeb partneriaeth ym mis Mawrth 2019 gyda chanolfan Tramshed Tech yng Nghaerdydd.
  • Cymryd rhan mewn cyfarfod bord gron dan gadeiryddiaeth Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon a'i Phwyllgor Brexit gyda chynrychiolwyr o fyd busnes, trafnidiaeth a'r byd academaidd.