Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cyfarfod ag arweinwyr busnes a gwleidyddion yn Washington heddiw.
Mae hefyd yn cynnal trafodaethau ar lefel uchel gyda chynrychiolwyr Llysgenhadaeth Prydain i fynegi ei bryderon difrifol ynglŷn ag effaith bosibl tariffau’r Unol Daleithiau ar y diwydiant dur yng Nghymru.
Ers dod yn Brif Weinidog yn 2009, mae Carwyn Jones wedi ymweld â’r Unol Daleithiau wyth gwaith i gwrdd â busnesau sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru, i drafod masnach gyda chynrychiolwyr gwleidyddol ac i godi proffil Cymru dros y dŵr.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cwmnïau o’r Unol Daleithiau wedi creu neu ddiogelu mwy na 12,800 o swyddi yng Nghymru gan greu cyfanswm uwch nag a welwyd erioed, sef bron 50,000 o swyddi.
Gan fod 260 o gwmnïau dan berchnogaeth Americanaidd yn y wlad, yr Unol Daleithiau yw mewnfuddsoddwr mwyaf Cymru o ddigon, a’i phartner busnes rhyngwladol pwysicaf. Ac mae gwerth allforion o Gymru i’r UDA yn parhau i godi - £2.3 biliwn yn 2017, sy’n golygu mai’r UDA yw’r drydedd fwyaf o gyrchfannau allforio Cymru erbyn hyn.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Mae’r berthynas rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau yn un gref a ffyniannus sydd wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y degawd diwethaf. Erbyn hyn, hi yw partner busnes rhyngwladol unigol pwysicaf Cymru.
“Barack Obama oedd yr Arlywydd pan ddes i’n Brif Weinidog Cymru yn 2010, ac roedd yn bleser cael ei groesawu i Gymru pan gynhaliwyd Uwchgynhadledd Nato yma yn 2014.
“Ers hynny, rwy wedi ymweld â’r Unol Daleithiau wyth gwaith ac wedi cwrdd â gwleidyddion, arweinwyr busnes a buddsoddwyr posibl, i siarad â nhw am bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig. Mae llawer o newid wedi bod yn ystod y naw mlynedd diwethaf, ond mae’r cwlwm rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau yn dal yn gadarn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae buddsoddiadau’r UDA yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed ac mae’r allforion yn werth dros £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
“Er nad yw’r ddwy weinyddiaeth yn cyd-fynd ar bopeth, ry’n ni wedi cydweithio er lles ein gwledydd, ein busnesau a’n pobl.
“Mae unrhyw awgrym y dylid dychwelyd at ddiffyndollaeth y gorffennol yn camddeall yr heriau y mae Cymru a’r UDA yn eu hwynebu heddiw. Rwy am weld llai o rwystrau i fasnach, mwy o gydweithredu a mwy o edrych yn rhyngwladol, er mwyn helpu ein heconomïau i barhau i dyfu.
“Siom fawr, felly, yw bod yr Unol Daleithiau yn bwrw ymlaen â’i chynlluniau i osod tariffau ar fewnforion dur ac alwminiwm o’r Undeb Ewrpeaidd. Mae hwn yn gam annoeth a fydd yn arwain at oblygiadau pellgyrhaeddol i fyd busnes, amddiffyn a diplomyddiaeth drwy’r byd. Gallai wneud niwed hefyd i ddiwydiant dur Cymru, yr ydyn ni wedi brwydro mor galed i’w ddiogelu.
“Er hyn, ry’n ni’n dal yn ymrwymedig i hyrwyddo masnach ryngwladol, sy’n hanfodol er mwyn sicrhau ffyniant pobl a chymunedau Cymru.
“Rwy wastad wedi dweud na allwn ni hyrwyddo Cymru drwy eistedd y tu ôl i ddesg, ac rwy wedi gwneud pob ymdrech i hyrwyddo Cymru i’r byd dros y naw mlynedd ddiwethaf. Bydd cenadaethau masnach, digwyddiadau mawr ac ymweliadau tramor yn dod yn fwyfwy allweddol os ydym am fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachu yn y dyfodol wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae Cymru’n wlad arloesol, groesawgar, eang ei gorwelion – a dyna’r neges rwy’n falch o’i chyfleu unwaith eto i’r Unol Daleithiau wrth ymweld â hi am y tro olaf fel Prif Weinidog Cymru.”