Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, wedi annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian oddi wrth Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu'r Gymraeg ffynnu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant bach i'w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned.

Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi.

Dyma'r bedwaredd rownd o'r grant, a hyd yma mae 47 o brosiectau cymunedol wedi sicrhau cyllid.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: 

"Mae grantiau Prosiect Perthyn yn gyfle gwych i helpu cymunedau i wireddu eu syniadau. Maent wedi helpu grwpiau cymunedol i brynu a rhedeg eu tafarndai lleol fel yn Llanuwchllyn a Thafarn Dyffryn Aeron. 

Mae Perthyn hefyd wedi helpu Menter y Tŵr ym Mhwllheli i brynu a rhedeg gwesty sy'n eiddo i'r gymuned, yn ogystal â chefnogi prosiect ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned fel Egni Trefin.  

Gall grantiau bach wneud gwahaniaeth mawr yn eich cymuned leol, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar gyfer prosiectau er budd eu cymuned ac i gefnogi'r Gymraeg i wneud cais."

Derbyniodd Egni Trefin grant o dros £10,000 i sefydlu menter gymunedol i archwilio ffyrdd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae Perthyn hefyd wedi cefnogi cymuned Clynfyw, gyda'r nod o brynu fferm gyda thir i'w rentu, bythynnod i bobl leol, a gwaith.

Dywedodd Rheolwr Asedau Cymunedol Planed, Cris Tomos: 

"Mae cyllid grant Perthyn yn parhau i fod yn elfen bwysig o ran cymorth ariannol i gamau cyntaf prosiectau cymunedol newydd a rhai sy'n ehangu sy'n datblygu mentrau i gefnogi'r Gymraeg a Chynlluniau Tai Cymunedol. Mae llawer o'r busnesau newydd wedi mynd ymlaen i sefydlu cwmnïau cydweithredol cofrestredig sydd bellach yn prynu tir ac eiddo er mwyn rhoi hwb i'r economi leol."

Gweinyddir y cynllun grant gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas:

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiect Perthyn. Mae Perthyn yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd. Mae gweinyddu cynllun peilot grantiau bach ar gyfer y cymunedau er mwyn helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni. Rydym yn edrych ymlaen at weld y syniadau'n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau dros y misoedd nesaf."

Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais ar gael ar y wefan Cwmpas.

Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae mae pobl yn cael eu hannog i ddechrau eu sgyrsiau yn Gymraeg. Gwahoddir sefydliadau a busnesau i gymryd rhan drwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo'r ffaith bod eu staff yn gallu siarad Cymraeg.